Cynllun i wella Tref Tregaron ar gyfer yr Eisteddfod Genedlaethol
11/08/2022
Mae’r cynllun Adfywio Trefi Gwledig sy’n cael ei redeg gan raglen LEADER Cynnal y Cardi wedi bod yn cefnogi Cyngor Tref Tregaron gyda chyfres o dechnegau marchnata a gosodiadau i hyrwyddo a gwella Tregaron wrth baratoi ar gyfer y digwyddiad hanesyddol a diwylliannol, Eisteddfod Genedlaethol Cymru 2022.
Wythnos ysgubol wrth i Geredigion groesawu Eisteddfod Genedlaethol Cymru 2022
08/08/2022
Bu ymweliad Eisteddfod Genedlaethol Cymru â Cheredigion yn llwyddiant ysgubol.
Dathlu pen-blwyddi Prifysgolion Ceredigion
05/08/2022
Ar ddydd Gwener, 5 Awst cynhaliwyd derbyniad ym Mhentre' Ceredigion ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol yn Nhregaron i ddathlu pen-blwyddi amlwg i Brifysgol Aberystwyth a Phrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant. Eleni, mae Prifysgol Aberystwyth yn nodi ei phen-blwydd yn 150 oed ac mae Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant yn dathlu ei daucanmlwyddiant o ddarparu addysg uwch.
Dathlu llwyddiant myfyrwyr Camu ‘Mlaen ar faes yr Eisteddfod
04/08/2022
Ar ddydd Iau 04 Awst, cafwyd cyfle i ddathlu llwyddiannau myfyrwyr Camu ‘Mlaen.
Annog trigolion i ddweud eu dweud ar gynlluniau lleihau llifogydd yn Nyffryn Teifi
04/08/2022
Mae ymgynghoriad llifogydd Cyngor Sir Ceredigion a Chyngor Sir Gâr ar gyfer Dyffryn Teifi wedi’i ymestyn hyd at 31 Awst 2022.
Cyflwyno ‘Y FAN’ – Gwasanaeth symudol newydd Ceredigion
03/08/2022
Yn dilyn llawer o waith y tu ôl i’r llenni a gwaith paratoi gan Wasanaethau Ieuenctid a Chymunedol Ceredigion yn ystod y misoedd diwethaf, rydym yn falch o gyhoeddi’r seremoni agoriadol swyddogol ar gyfer ‘Y FAN’.
Asesiad o Lesiant Lleol Ceredigion
01/08/2022
Mae ystod eang o wybodaeth bwysig yn ymwneud â llesiant lleol, o iechyd corfforol i gysylltedd digidol, bellach ar gael yn Asesiad o Lesiant Lleol Ceredigion 2022.
Coffi gan Bay Coffee Roasters o Geredigion yn ennill gwobr tair seren ‘Great Taste 2022’
01/08/2022
A hwythau wedi'u lleoli uwchben traeth Tresaith yng Ngheredigion, mae Bay Coffee Roasters wedi cael eu henwi ymhlith y cynhyrchwyr bwyd a diod gorau yn fyd-eang eleni, gan ennill gwobr tair seren ‘Great Taste’ am eu cynnyrch 'Indonesian Sumatran Fairtrade Organic' yn y gwobrau bwyd a diod enwog. Mae Bay Coffee Roasters hefyd wedi bod yn arddangos eu cynnyrch yn y cytiau Masnach ym Mhentre' Ceredigion ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol yr wythnos hon lle mae cannoedd o ymwelwyr â'r Eisteddfod wedi cael cyfle i flasu’r cymysgedd coffi gwych.
Portreadu beirdd a llenorion Ceredigion
31/07/2022
Mae saith portread newydd sbon wedi cael eu llunio’n arbennig ar gyfer wythnos Eisteddfod Genedlaethol Cymru yng Ngheredigion eleni.
Eisiau crwydro llwybrau Hawliau Tramwy Cyhoeddus Tregaron yn ystod yr Eisteddfod? Bydd teithiau tywys yn mynd â chi ar daith gylchol trwy’r dref ac allan o’r dref gan roi golygfa wych i chi o’r Maes
29/07/2022
Yn ystod yr Eisteddfod Genedlaethol, a gynhelir rhwng 30 Gorffennaf a 6 Awst 2022, mae tîm Arfordir a Chefn Gwlad Ceredigion wedi trefnu teithiau tywys byr dyddiol o Bentre’ Ceredigion fel bod modd i bobl leol ac ymwelwyr brofi golygfeydd a chefn gwlad prydferth Tregaron wrth fwynhau’r Eisteddfod hirddisgwyliedig yn ein sir.
Croesawu Strategaeth Gweithio Hybrid a’r Polisi Dros Dro
26/07/2022
Yn ystod cyfarfod o’r Cabinet heddiw, cymeradwyodd yr Aelodau y Strategaeth Gweithio Hybrid a’r Polisi Hybrid Dros Dro ar gyfer Cyngor Sir Ceredigion, i’w dreialu am 12 mis.
Cofio am y Llyfrgellydd Alun R. Edwards ar Faes yr Eisteddfod
25/07/2022
Ar ddydd Mawrth 02 Awst 2022 ym Mhabell Cyngor Sir Ceredigion ar faes yr Eisteddfod byddwn yn cofio am y Llyfrgellydd Alun R. Edwards.
Arolwg Cyflogaeth a Sgiliau Canolbarth Cymru
25/07/2022
Mae busnesau a sefydliadau dros Canolbarth Cymru yn cael eu hannog i lenwi arolwg ar gyflogaeth a sgiliau. Bydd canlyniadau'r arolwg yn helpu Partneriaethau Sgiliau Rhanbarthol Canolbarth Cymru i roi gwybod i Lywodraeth Cymru am y tirlun sgiliau ar draws y rhanbarth a chysylltu cyllid sgiliau â'r galw gan gyflogwyr. Lansiwyd arolwg rhanbarth Canolbarth Cymru heddiw (dydd Llun 25 Gorffennaf) ac mae'n rhedeg tan dydd Llun 05 Medi.
Partneriaeth Diogelwch Cymunedol Ceredigion yn cymryd rhan yng nghyfarfod Diogelwch Cymunedol mwyaf y byd
21/07/2022
Mae’r Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol yng Ngheredigion wedi cymryd rhan yng nghyfarfod Diogelwch Cymunedol mwyaf y byd ar ddydd Iau 21 Gorffennaf fel rhan o Wythnos Ymwybyddiaeth Ymddygiad Gwrthgymdeithasol 2022.
Parhau i gydweithio
19/07/2022
Mae Arweinwyr newydd Cynghorau Sir Powys a Cheredigion wedi cadarnhau eu hymroddiad i gydweithio i gyflawni dwy raglen waith sylweddol.
Gwobr fawreddog i ddisgybl Ysgol Uwchradd Aberteifi am ei ddyluniad ‘Porta LAB’ arloesol
15/07/2022
Mae disgybl o Ysgol Uwchradd Aberteifi wedi ennill gwobr fawreddog am ei ddyluniad o gynnyrch i ganfod malaria mewn ffordd fwy effeithlon a darbodus.
Cefnogi busnesau bach Ceredigion yn yr Eisteddfod
15/07/2022
Mae ymweliad Eisteddfod Genedlaethol Cymru â Cheredigion yn gyfle ardderchog i hyrwyddo busnesau lleol a rhoi hwb i’r economi leol.
Ysgolion Ceredigion yn barod i groesawu’r Brifwyl
14/07/2022
Mae ysgolion ar hyd a lled Ceredigion wedi bod yn brysur dros yr wythnosau diwethaf yn paratoi ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol Cymru.
Aelodau Seneddol Ifanc Ceredigion yn ymweld â San Steffan
14/07/2022
Ar 28 Mehefin 2022, teithiodd Poppy Evans (Ysgol Gyfun Aberaeron) a Lloyd Warburton (Ysgol Penglais) i Lundain i gwrdd ag AS Ceredigion, Ben Lake.
Haf o Hwyl ar waith yng Ngheredigion
13/07/2022
Mae Haf o Hwyl wedi dechrau yng Ngheredigion gyda 46 prosiect yn cael cefnogaeth ariannol i ddarparu gweithgareddau a fydd yn gwella llesiant cymdeithasol, emosiynol a chorfforol holl blant a phobl ifanc y sir.
Paratoadau yn mynd rhagddynt i groesawu’r Eisteddfod Genedlaethol
13/07/2022
Mae gwaith yn mynd rhagddo ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol Cymru a fydd yn cael ei chynnal yng Ngheredigion rhwng 30 Gorffennaf a 06 Awst 2022.
Dewch i Bentre’ Ceredigion ar faes yr Eisteddfod
12/07/2022
Bydd rhywbeth at ddant pawb ar stondin Cyngor Sir Ceredigion yn y brifwyl eleni.
Ymweliad Gweinidogol â Cheredigion gan Jeremy Miles AS, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg
08/07/2022
Ar ddydd Iau 07 Gorffennaf, ymwelodd Jeremy Miles AS, y Gweinidog addysg a'r Gymraeg ag Aberystwyth i gael cyflwyniad i waith cymunedol Cered Menter Iaith y Sir.
Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol Cyd-bwyllgor Corfforaethol Canolbarth Cymru
05/07/2022
Mae pwyllgor newydd i atgyfnerthu gweithio rhanbarthol ar draws canolbarth Cymru wedi cynnal ei Gyfarfod Cyffredinol Blynyddol.
Meithrinfa yng Ngheredigion yn ennill Gwobr Meithrinfa’r Flwyddyn yng Nghymru
01/07/2022
Mae Meithrinfa yng Ngheredigion, sef Meithrinfa Plas Gogerddan, wedi ennill Gwobr Meithrinfa’r Flwyddyn yng Nghymru yng Ngwobrau Cymdeithas Genedlaethol Meithrinfeydd Dydd a gynhaliwyd ar 24 Mehefin 2022.
Croeso cynnes i Daith Baton y Frenhines yng Ngheredigion
30/06/2022
Heddiw, ar 30 Mehefin 2022, ymwelodd Taith Baton y Frenhines â Cheredigion yn rhan o’i siwrne drwy Gymru a Lloegr cyn Gemau’r Gymanwlad 2022 yn Birmingham fis Gorffennaf eleni.
Cydnabod Gwaith Cyngor Sir Ceredigion yng Ngwobrau Effeithlonrwydd Ynni Cymru
28/06/2022
Ar 17 Mehefin 2022, cynhaliwyd Gwobrau Effeithlonrwydd Ynni Rhanbarthol Cymru yng Nghaerdydd. Enillodd Cyngor Sir Ceredigion ddwy wobr am eu Cynlluniau Effeithlonrwydd Ynni.
Rory McLeod yn dod â dylanwadau cerddorol o bedwar ban byd i Amgueddfa Ceredigion
28/06/2022
Ar ddydd Mercher 6 Gorffennaf 2022, bydd Rory McLeod ynghyd â'i gerddor lleol Catrin O'Neill yn perfformio yn Amgueddfa Ceredigion.
Dedfrydu dyn o Geredigion sy’n byw yn Iwerddon ar ôl bod ynghlwm â gwerthu cig anghyfreithlon
27/06/2022
Mae dyn o Geredigion sy’n byw yn Iwerddon wedi cael ei estraddodi a’i ddedfrydu ar ôl iddo fod ynghlwm â ffermio anghyfreithlon a masnachu cig nad oedd yn addas i’w fwyta gan bobl.
Gwaith adeiladu i ddechrau ar drawsnewid Canolfan Hamdden Llanbedr Pont Steffan yn Ganolfan Llesiant fis nesaf
24/06/2022
Fel rhan o Strategaeth Gydol Oes a Llesiant ehangach Cyngor Sir Ceredigion, bydd Canolfan Hamdden Llanbedr Pont Steffan yn trawsnewid yn Ganolfan Llesiant.
Mabolgampwyr Ceredigion yn cymryd rhan yn Nhaith Cyfnewid Baton y Frenhines
24/06/2022
Mae 16 o fabolgampwyr Ceredigion, a enillodd anrhydeddau rhyngwladol yn eu dewis gampau, yn paratoi i fod yn Gludwyr Baton ar 30 Mehefin. Ar y dyddiad hwnnw, bydd Taith Cyfnewid Baton Brenhinol Gemau’r Gymanwlad, Birmingham 2022 yn ymweld â’n sir yn ystod ei thaith drwy Gymru.
Newidiadau i Wasanaeth Bwcabus
24/06/2022
Mae newidiadau yn digwydd i wasanaeth fflecsi Bwcabus o 27 Mehefin 2022.
Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol yn ymweld â Cheredigion i weld Byrddau Cyfathrebu
24/06/2022
Ar ddydd Iau, 23 Mehefin, bu’r Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol, Julie Morgan AS, ar ymweliad ag Aberystwyth i weld Byrddau Cyfathrebu’r sir. Dyma’r rhai cyntaf o’u math i’w lansio yng Nghymru. Yn 2021, cafodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, mewn partneriaeth â Chyngor Sir Ceredigion, gyllid oddi wrth Gronfa Datblygiad Plant Llywodraeth Cymru i greu’r byrddau.
Cymorth i wneud gwahaniaeth yn eich cymuned
22/06/2022
Mae Grŵp Gweithredu Lleol (GGLl) Cynnal y Cardi yn falch o gymeradwyo’r ceisiadau cyntaf fel rhan o Gronfa Grant LEADER i gefnogi gweithgarwch LEADER ar raddfa fach yng Ngheredigion.
Prydau Ysgol am Ddim i Ddosbarth Derbyn, Blwyddyn 1 a Blwyddyn 2 o fis Medi 2022 ymlaen
21/06/2022
O dymor yr Hydref ymlaen, bydd Cyngor Sir Ceredigion yn cynnig Prydau Ysgol am Ddim i bob plentyn Dosbarth Derbyn, Blwyddyn 1 a Blwyddyn 2.
Cymeradwyo prosiect cartref gofal preswyl er mwyn cynyddu cymorth dementia
21/06/2022
Mae Llywodraeth Cymru wedi cymeradwyo prosiect datblygu yng Nghartref Gofal Preswyl Hafan Deg, Llanbedr Pont Steffan a fydd yn cynyddu’r cymorth i unigolion sy’n byw gydag anghenion ychwanegol, o ganlyniad i fyw gyda dementia.
Cerdded er Lles - grwpiau Ceredigion yn dod at ei gilydd
17/06/2022
Ar 18 Mai 2022, daeth nifer o grwpiau Cerdded er Lles amrywiol drefi ledled Ceredigion at ei gilydd yn Llanerchaeron, yng nghanol y sir, er mwyn mynd ar daith gerdded er lles mewn grŵp.
Cymdeithas Pêl-droed Ysgolion Ceredigion
16/06/2022
Yn dilyn y saib clo Covid, mae talent ifanc y Gymdeithas Bêl-droed Ysgolion Ceredigion yn ôl yn chwarae pêl-droed cystadleuol.
Cyfle i bobl ifanc ymgeisio am fwrsari o £1,000
15/06/2022
Yn dilyn llwyddiant y blynyddoedd blaenorol, mae Gwasanaeth Ieuenctid Ceredigion wedi bod yn ddigon ffodus i dderbyn cyfle gan gwmni West Wales Holiday Cottages i gefnogi pobl ifanc gyda bwrsari ariannol eleni eto.
Taith Baton y Frenhines ar ei ffordd i Geredigion
13/06/2022
Bydd Taith Baton y Frenhines Birmingham 2022 yn ymweld â Cheredigion ar 30 Mehefin fel rhan o’i siwrne drwy Gymru a Lloegr yr haf hwn.
Dweud eich dweud ar y Gronfa Ffyniant Cyffredin
10/06/2022
Mae Cynghorau Sir Powys a Cheredigion yn gweithio mewn partneriaeth i ddatblygu Cynllun Buddsoddi Rhanbarthol er mwyn sicrhau cyllid drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin (UKSPF) Llywodraeth y DU. Rydym yn cynnal arolwg tan 19 Mehefin i roi cyfle i chi ddweud eich dweud am y ffordd orau o wario'r cyllid.
Hen feddygfa yn Aberaeron yn cael bywyd newydd
09/06/2022
Mae hen feddygfa yn Aberaeron wedi cael ei gweddnewid ar ôl peidio â chael ei defnyddio i raddau helaeth am chwe blynedd.
Dweud eich dweud ynglŷn â lleihau llifogydd
06/06/2022
Gofynnir i drigolion Ceredigion a Sir Gâr am eu barn ynghylch y bwriad i leihau llifogydd yn y mannau sy’n cael eu taro fwyaf yn Nyffryn Teifi ‒ yn Llanybydder, Llandysul a Phont-Tyweli.
Cydymdeimladau dwysaf yn dilyn marwolaeth y Cynghorydd Hag Harris
01/06/2022
Mynegwyd cydymdeimladau dwysaf yn dilyn y newyddion am farwolaeth sydyn y Cynghorydd Hag Harris ddydd Mawrth, 31 Mai 2022.
Ethol Cadeirydd newydd Cyngor Sir Ceredigion
27/05/2022
Cadarnhawyd mai’r Cynghorydd Ifan Davies fydd Cadeirydd newydd Cyngor Sir Ceredigion ar gyfer y flwyddyn i ddod.
Tref Aberystwyth i groesawu cerflun yr Angel Gyllyll wrth i Gomisiynydd Heddlu a Throseddu anelu at hybu ymgyrch gwrth-drais ac ymddygiad ymosodol
26/05/2022
Bydd cerflun anferth 27 troedfedd o hyd, wedi’i wneud o 100,000 o gyllyll yn cael ei groesawu i dref Aberystwyth fis nesaf (1 Mehefin) wrth i grwpiau cymunedol lleol baratoi i ddod at ei gilydd i hyrwyddo negeseuon atal, gwrth-drais a gwrth-ymosodedd allweddol.
Baneri Glas chwenychedig i chwifio unwaith eto dros draethau Ceredigion tymor yr haf hwn
25/05/2022
Unwaith eto bydd Baneri Glas yn cael eu chwifio ar bedwar o draethau mwyaf poblogaidd Ceredigion yn 2022 yn Y Borth, De Aberystwyth, Llangrannog a Tresaith, gyda 13 o draethau ychwanegol yn ennill statws Gwobr Glan Môr a 4 arall yn ennill Gwobrau Arfordir Glas.
Cynllun peilot hybrid newydd ar gyfer staff Ceredigion i fanteisio i’r eithaf ar y ffordd hyblyg bresennol o weithio wrth ddarparu’r gwasanaeth gorau i breswylwyr
24/05/2022
O fis Mehefin ymlaen, bydd rhai aelodau o staff swyddfa, sydd wedi bod yn gweithio o bell yn ystod y pandemig, yn dychwelyd i swyddfeydd Cyngor Sir Ceredigion yn Aberystwyth ac Aberaeron yn dilyn strategaeth gweithio hybrid a luniwyd i ategu manteision gweithio gartref wrth ddarparu rhai gwasanaethau wyneb yn wyneb yn fwy effeithlon.
Person ifanc yn dathlu swydd ac yn goresgyn sawl rhwystr
24/05/2022
Roedd Lee, sy’n 22 oed ac o gefn gwlad Ceredigion, yn ei chael hi’n anodd sicrhau swydd barhaol.
Arwyddion newydd mewn ardaloedd Diogelu Mannau Cyhoeddus
24/05/2022
Mae arwyddion newydd wedi cael eu gosod yng nghanol tair o drefi Ceredigion i helpu i chwarae rhan gadarnhaol mewn gwella profiadau preswylwyr ac ymwelwyr fel ei gilydd.
Aelodau Cabinet Ceredigion ‘yn barod i ddechrau ar eu gwaith’
20/05/2022
Mae Aelodau Cabinet Cyngor Sir Ceredigion, y Dirprwy Arweinydd, ac aelodau o bwyllgorau’r Cyngor wedi cael eu hethol heddiw yn ystod Cyfarfod o’r Cyngor Llawn.
Bydd preswylwyr a’u teuluoedd yn cael eu cefnogi wrth i gartref nyrsio gau
19/05/2022
Yn anffodus, gall Cyngor Sir Ceredigion a Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda gadarnhau ein bod wedi derbyn cadarnhad gan Gyfarwyddwr y Cwmni y bydd Cartref Nyrsio Abermad yn Llanfarian, Aberystwyth yn cau.
Ethol Arweinydd newydd Cyngor Sir Ceredigion
13/05/2022
Cadarnhawyd yng nghyfarfod y Cyngor heddiw mai’r Cynghorydd Bryan Davies o grŵp Plaid Cymru fydd Arweinydd newydd Cyngor Sir Ceredigion.
Ymgynghoriad Asesiad Digonolrwydd Gofal Plant 2022-2027
12/05/2022
Mae'n ofynnol i Gyngor Sir Ceredigion, fel Awdurdodau Lleol eraill, gynnal Asesiad Digonolrwydd Gofal Plant bob 5 mlynedd i sicrhau bod anghenion rhieni, lle bo hynny'n rhesymol ymarferol, yn cael eu clywed o ran darpariaeth gofal plant yn y sir.
Dyffryn Cledlyn yn llwyddo i ennill y Cam Aur gyda’r Siarter iaith
12/05/2022
Mae yna ddathlu mawr yn Ysgol Gynradd Dyffryn Cledlyn wrth iddynt lwyddo i ennill Cam Aur y Siarter Iaith.
Cyfleusterau newydd cyffrous ym meysydd chwarae Ceredigion
09/05/2022
Mae fframiau dringo, siglenni, sleidiau, meinciau a mwy yn cael eu gosod mewn nifer o feysydd chwarae cymunedol ar draws Ceredigion, yn ogystal â gwaith cynnal a chadw mawr ei angen ar gyfarpar presennol.
Gadewch i ni ddathlu Cymunedau Maethu Ceredigion
09/05/2022
O ofalwyr maeth sydd wedi dangos ymroddiad dros flynyddoedd lawer, i’r rheini sydd newydd ddechrau ar eu taith faethu i helpu i roi dyfodol gwell i blant, mae Maethu Cymru am ddathlu’r ymrwymiad y mae gofalwyr maeth wedi’i wneud i fywydau plant yng Ngheredigion yn ystod 'Pythefnos Gofal Maeth' eleni rhwng 9 a 22 Mai.
Detholiad o gynhyrchion Kinder yn cael eu galw yn ôl oherwydd presenoldeb posibl Salmonela
03/05/2022
Hoffai gwasanaeth Diogelu’r Cyhoedd Cyngor Sir Ceredigion godi ymwybyddiaeth ymhlith manwerthwyr bwyd lleol ynghylch y ffaith bod amryw o gynhyrchion Kinder wedi cael eu galw yn ôl yn ddiweddar.
Theatr Felinfach yn Dathlu 50!
29/04/2022
Mae cyffro mawr yn Theatr Felinfach eleni wrth iddynt ddathlu pen-blwydd arbennig yn 50 ym mis Mai. Mi fydd y dathliadau yn parhau ar draws y flwyddyn gyda llu o weithgareddau a digwyddiadau.
Llwyddiant i dimau rygbi ysgolion Ceredigion yn Stadiwm Principality
29/04/2022
Yn ddiweddar, mae rhai o dimau rygbi ysgolion Ceredigion wedi bod yn cystadlu ar lefel genedlaethol yn y digwyddiad ‘Road to Principality’ a gynhaliwyd yn Stadiwm Principality, Caerdydd.
Cyngor Sir Ceredigion yn ymuno â Cadwch Gymru’n Daclus i fynd i’r afael â sbwriel ar hyd ochr y ffyrdd
28/04/2022
Mae Cyngor Sir Ceredigion yn annog gyrwyr i gadw eu cydwybod a’n ffyrdd yn glir fel rhan o ymgyrch genedlaethol newydd.
Hwb i ganfod gwaith drwy Cymunedau am Waith a Mwy
28/04/2022
Mae’r Cynllun Kickstart gan Cymunedau am Waith a Mwy wedi helpu dyn ifanc lleol i sicrhau ei swydd lawn amser gyntaf.
Mwy o blanhigion ar gyfer peillwyr gyda phrosiect Blodeuo
26/04/2022
Y gwanwyn hwn, crëwyd ardal ecolegol amrywiol i ddenu gwenyn a pheillwyr eraill ym Mynwent Cefn Llan, Llanbadarn Fawr, Aberystwyth. Mae Tîm Cynnal a Chadw Tiroedd Cyngor Sir Ceredigion wedi bod yn brysur yn plannu gwahanol blanhigion yn rhan o’r prosiect Blodeuo.
Stori Anna - sut gall Cynorthwy-ydd Personol newid bywyd y person sy’n cael cymorth yn ogystal â bywyd y teulu cyfan
26/04/2022
Philip yw mab Anna. Mae e wedi ei ddiagnosio ag awtistiaeth, oedi mewn datblygiad a chlefyd Crohn. Mae Anna wedi bod yn ofalwr llawn-amser i Philip ers ugain mlynedd a nawr hoffai gael y cyfle i ganolbwyntio ar ei datblygiad personol hi. Ei dyhead yw bod yn nyrs ar ôl cael lle i astudio ym Mhrifysgol Aberystwyth o fis Medi ymlaen.
Cymorth entrepreneuraidd ac adfywio busnes
20/04/2022
Bydd cyfres o ddigwyddiadau yn cael eu cynnal yn ystod mis Mai mewn chwe thref wledig yng Ngheredigion i ddarparu cymorth adfywio busnesau a chymorth entrepreneuraidd.
Gwasanaethau gwastraff cartref swmpus a gwastraff gardd i ailddechrau
19/04/2022
Bydd Cyngor Sir Ceredigion yn ailddechrau ei wasanaethau casglu gwastraff cartref swmpus a gwastraff gardd yn fuan.
Dyfarnu cyllid datblygu i’r Amgueddfa ar gyfer prosiect newydd cyffrous
11/04/2022
Mae Amgueddfa Ceredigion yn falch iawn o fod wedi derbyn £115,894 o gyllid datblygu gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol ar gyfer y prosiect canlynol: Perthyn: Archwiliad o sut y gall casgliadau greu cymuned yng Ngheredigion.
Cyngor yn darparu nwyddau mislif i gymunedau lleol
07/04/2022
Mae Cyngor Sir Ceredigion, mewn partneriaeth â sefydliadau a grwpiau cymunedol lleol, a thrwy arian o Gynllun Urddas Cyfnod Mislif Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod gan bobl fynediad at nwyddau mislif yn y gymuned.
Aberaeron yw pencampwyr cenedlaethol Cwis Dim Clem
06/04/2022
Ar Ddydd Llun 28 Mawrth fe wnaeth Ysgol Gynradd Aberaeron ddod i’r brig yn rownd derfynol Cwis Dim Clem 2022 gan guro ysgolion o bob cwr o Gymru gyda sgôr uchel iawn o 98%.
Y Cyngor yn cynnig Ysgol Haf Rithiol i ddisgyblion Ceredigion
05/04/2022
Mae Cyngor Sir Ceredigion yn rhoi’r cyfle i ddisgyblion ysgol Blwyddyn 11, 12 a 13 Ceredigion gymryd rhan mewn rhaglen Ysgol Haf rithiol.
Helfa Straeon Llanbedr Pont Steffan
05/04/2022
Yn ystod gwyliau’r Pasg (9/4/22-25/4/22), bydd Llyfrgell Ceredigion, Cered Menter Iaith Ceredigion a Cardi Iaith yn trefnu Helfa Straeon cyffrous o amgylch tref Llanbedr Pont Steffan.
Pobl ifanc lleol yn creu murlun lliwgar ar gyfer tanffordd Pen-y-Bont, Penparcau
01/04/2022
Yn dilyn lansiad cystadleuaeth ddylunio ddiweddar yn galw ar blant a phobl ifanc i rannu eu syniadau am y gofod, crëwyd murlun lliwgar ar 24 Mawrth 2022 ar danffordd Pen-y-Bont ym Mhenparcau.
Dyluniadau plant yn dod yn fyw yn ysgolion Ceredigion
30/03/2022
Mae'r murluniau caredigrwydd a gynlluniwyd gan grŵp o ddisgyblion Ysgol Bro Teifi ac Ysgol Llanfarian wedi'u cwblhau ar safleoedd yr ysgol.
Canlyniadau o gystadleuaeth Ffenestri Dydd Gŵyl Dewi
28/03/2022
Bu busnesau Aberteifi, Llandysul a Thregaron yn dathlu Dydd Gŵyl Dewi eleni trwy gymryd rhan yng nghystadleuaeth Addurno Ffenestri Cered: Menter Iaith Ceredigion.
Helfa Straeon Aberteifi
28/03/2022
Am y tro cyntaf, mae Cered: Menter Iaith Ceredigion, Llyfrgell Aberteifi a Cardi Iaith wedi cydweithio i greu Helfa Straeon ar gyfer plant ardal Aberteifi.
Disgyblion Ysgol Bro Pedr yn cymryd rhan mewn Gweithdai Bît-Bocsio gyda Mr Phormula!
28/03/2022
Wedi’i ariannu gan Grant Peilot Gwaith Ieuenctid Cymraeg Llywodraeth Cymru, ac mewn partneriaeth â Gwasanaeth Ieuenctid Ceredigion, cymerodd dros 400 o ddisgyblion Ysgol Bro Pedr ran mewn gweithdai gydag Ed Holden (Mr Phormula) dros gyfnod o bedwar diwrnod ym mis Mawrth 2022.
Pythefnos ar ôl i gofrestru i bleidleisio mewn Etholiadau Lleol
25/03/2022
Dim ond pythefnos sydd i fynd nes y dyddiad cau i gofrestru i bleidleisio yn yr Etholiadau Lleol ym mis Mai, ac mae Cyngor Sir Ceredigion am annog trigolion i wneud yn siŵr eu bod wedi cofrestru mewn pryd.
Lansio ffilm fer bwerus i ddathlu Diwrnod Gweithredu Gofalwyr Ifanc 2022
23/03/2022
Yn rhan o Ddiwrnod Gweithredu Gofalwyr Ifanc, a gynhaliwyd ar 16 Mawrth 2022, lansiwyd ffilm fer ar y cyd rhwng pobl ifanc Ceredigion a Chwmni Theatr Arad Goch i ddathlu gwaith gofalwyr ifanc.
Pobl ifanc Ceredigion yn cymryd rhan yn ymgynghoriad ieuenctid mwyaf Ewrop!
22/03/2022
Pleidleisiodd 2,160 o bobl ifanc rhwng 11 ac 18 oed (37% o’r boblogaeth) ar draws Ceredigion yn y balot, Gwneud Eich Marc, eleni, sy’n golygu mai Ceredigion yw’r unig Awdurdod yng Nghymru i gyrraedd yr 20 ardal uchaf yn y DU (yn seiliedig ar ganran y nifer a bleidleisiodd).
Sefydlu Bwrdd newydd i wella ansawdd dŵr yn afon Teifi
17/03/2022
Bydd Cyngor Sir Ceredigion yn arwain grŵp sydd wedi ymrwymo i weithredu ar ffosffadau yn afon Teifi.
Rhaglen wythnosol Cered a Radio Aber
15/03/2022
Ers nifer o fisoedd, mae Cered: Menter Iaith Ceredigion a Radio Aber wedi bod yn gweithio mewn partneriaeth i greu rhaglen radio wythnosol arloesol yn trafod popeth Cymraeg.
Oes diddordeb gyda chi i fod yn aelod o banel ieuenctid ‘Dewis’?
15/03/2022
Mae Panel Ieuenctid Dewis, wedi cydlynu gan Gwasanaeth Ieuenctid Ceredigion, yn banel o bobl ifanc lleol sy’n gyfrifol am ddewis pa bobl ifanc a phrosiectau ieuenctid yng Ngheredigion sy’n derbyn cymorth ariannol drwy ddyrannu Bwrsariaeth Pobl Ifanc Ceredigion a Grant dan Arweiniad Pobl Ifanc.
Maes y Môr - Llwyfan ar gyfer dechrau newydd
14/03/2022
Mae trigolion cyntaf cynllun gofal ychwanegol newydd Aberystwyth wedi siarad am y modd y mae wedi trawsnewid eu bywydau, o gwrdd â ffrindiau newydd i ddarparu llwyfan ar gyfer dechrau newydd mewn bywyd.
Cymuned Cyn-filwyr Ceredigion a chefnogaeth i Wcráin
14/03/2022
Mae trigolion Ceredigion, ynghyd â gweddill y DU, yn dangos cymorth a chefnogaeth i bobl Wcráin wrth i’r gwrthdaro â Rwsia barhau i ysgwyd y wlad.
Mae Tyfu Canolbarth Cymru yn archwilio potensial hydrogen ar gyfer y rhanbarth
10/03/2022
Mae astudiaeth ddichonoldeb arloesol wedi bod yn archwilio potensial hydrogen yn y dyfodol ar gyfer Canolbarth Cymru.
Ymgyrch Gwanwyn Glân Caru Ceredigion 2022
09/03/2022
Mae’r gwanwyn ar droed, ond cyn i’r planhigion a’r llystyfiant ar ymylon ein priffyrdd ddechrau tyfu, mae sbwriel yn fwy gweladwy ar hyn o bryd ac mae’n haws mynd ato i’w godi. Felly, mae ein hymgyrch Gwanwyn Glân flynyddol bellach ar waith ledled Ceredigion.
Treialu peiriannau puro aer blaenllaw yn ysgolion Ceredigion
07/03/2022
Bydd ysgolion Ceredigion yn treialu peiriannau puro’r aer newydd sydd wedi’u datblygu i’w defnyddio mewn ystafelloedd dosbarth i atal lledaeniad COVID-19.
Cyngor yn cymeradwyo cyllideb 2022-2023
03/03/2022
Mae cyllideb Cyngor Sir Ceredigion ar gyfer y flwyddyn ariannol sydd i ddod wedi cael ei chymeradwyo gan Gynghorwyr mewn cyfarfod o’r Cyngor a gynhaliwyd yn rhithiol ddydd Iau, 03 Mawrth 2022, ac mae wedi’i gosod ar £165.843m, ynghyd â chynnydd o 2.5% mewn Treth y Cyngor, sy’n ostyngiad o’r cynigion blaenorol yn sgil y cyllid newydd a gyhoeddwyd.
Croesawu cynigion i greu llwybr at berchnogaeth tŷ yng Ngheredigion
03/03/2022
Bydd cynigion yn cael eu hystyried i gyflwyno Cynllun Tai Cymunedol a fydd yn darparu llwybr gwell i'r genhedlaeth iau at berchen ar dŷ yng Ngheredigion.
Cyngor Sir Ceredigion yn dangos cefnogaeth lawn i bobl Wcráin
03/03/2022
Yn ystod cyfarfod o’r Cyngor llawn a gynhaliwyd yn rhithiol ddydd Iau, 3 Mawrth, rhoddodd Cynghorwyr eu cefnogaeth lawn i unrhyw gymorth angenrheidiol i helpu pobl sy'n ceisio lloches o Wcráin.
Ceredigion i elwa o brosiect a gyhoeddwyd i nodi Dydd Gŵyl Dewi
01/03/2022
I nodi Dydd Gwŷl Dewi, mae Jeremy Miles, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, wedi cyhoeddi 11 o brosiectau cyfalaf newydd ar draws naw Awdurdod Lleol yng Nghymru i gefnogi twf yr iaith Gymraeg. Mae Ceredigion yn un o’r siroedd a fydd yn derbyn cyllid.
Cyffro’r Eisteddfod yng Ngheredigion
25/02/2022
Mae Dydd Gŵyl Dewi yn gyfle i ddathlu iaith a diwylliant yng Ngheredigion, ac eleni mae yna gyfle arbennig i edrych ymlaen at un o wyliau diwylliannol mwyaf Ewrop a fydd yn ymweld â’r sir ym mis Awst, sef yr Eisteddfod Genedlaethol.
Cynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg 2022-32 yn cyrraedd carreg filltir
24/02/2022
Erbyn mis Medi 2032, dyhead Cyngor Sir Ceredigion yw y bydd pob disgybl yn ysgolion yr awdurdod yn derbyn addysg drochi cyfrwng Cymraeg hyd nes y bydd yn saith oed. Mae Cynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg 2022-32 yn amlinellu’r amcanion allweddol i gyflawni hyn.
Cynllun Cymorth Tanwydd y Gaeaf a’r Gronfa Cymorth Dewisol – ydych chi’n gymwys am y ddau?
23/02/2022
Mae’r Cynllun Cymorth Tanwydd y Gaeaf yn dod i ben ddydd Llun, 28 Chwefror. Mae 48% o aelwydydd Ceredigion a all fod yn gymwys eto i gyflwyno cais.
Sialens Gerdded Ceredigion
23/02/2022
Oes gennych chi ddiddordeb i archwilio rhai o olygfeydd harddaf Ceredigion, o glogwyni gwyllt gwyntog i ddyffrynnoedd coediog cysgodol? Beth am gymryd rhan yn Sialens Gerdded newydd Ceredigion?
Dewch i ni ddod â’r strydoedd yn fyw
22/02/2022
Gwahoddir busnesau lleol i gyflwyno ceisiadau os hoffent fasnachu yn yr awyr agored yn nhrefi Ceredigion wrth i ni baratoi at dymor y gwanwyn/haf.
Cyfieithiad Cymraeg newydd o Shirley Valentine, clasur Willy Russell
21/02/2022
Mae’r sioe broffesiynol gyntaf mewn dwy flynedd yn dod i Theatr Felinfach ym mis Mawrth. Bydd cynhyrchiad cyntaf y Consortiwm Cymraeg, sef cyfieithiad newydd o gomedi wych Willy Russell, Shirley Valentine yn cael ei llwyfannu yn Theatr Felinfach ar nos Wener, 11 Mawrth am 7:30yh.
Cyngor Sir Ceredigion yn recriwtio Gweithwyr Cymdeithasol dan hyfforddiant
21/02/2022
Rydym yn cynnig cyfle i bobl ennill cyflog a dysgu ar yr un pryd fel Gweithiwr Cymdeithasol dan Hyfforddiant. Sefydlwyd y cynllun er mwyn cynnig llwybr noddedig tuag at fod yn Weithiwr Cymdeithasol.
Portalis – yn archwilio’r cysylltiad cynharaf rhwng yr Iwerddon a Chymru
21/02/2022
Mae’r prosiect €1.95 miliwn hwn yn ceisio codi ymwybyddiaeth a chefnogi ymgysylltu cynaliadwy, ac o ganlyniad, sefydlu dau rwydwaith ‘twristiaeth a diwydiant drwy brofiad’ trawsffiniol newydd
Y diweddaraf ar Storm Eunice a Storm Franklin
17/02/2022
Gwybodaeth am yr effaith ar wasanaethau a'r rhybuddion tywydd yng Ngheredigion
Mae'n stopio yma. Dod â chosbi plant yn gorfforol yng Ngheredigion i ben
17/02/2022
Mae dydd Llun, 21 Mawrth 2022, yn ddiwrnod hanesyddol i blant yng Nghymru wrth i gyfraith newydd ddod i rym sy’n golygu y bydd pob cosb gorfforol i blant yn anghyfreithlon.
Atal gwasanaethau’r Cyngor yng Ngheredigion ddydd Gwener yn dilyn Rhybudd Tywydd Ambr
17/02/2022
Yn sgil y Rhybudd Tywydd Ambr gan y Swyddfa Dywydd ar gyfer Storm Eunice ddydd Gwener, ac yn dilyn trafodaethau â Fforwm amlasiantaeth Cydnerthedd Lleol Dyfed Powys (LRF), mae penderfyniad wedi cael ei wneud gan Gyngor Sir Ceredigion i gau’r gwasanaethau canlynol yng Ngheredigion er mwyn diogelu trigolion a staff y Cyngor, a chyfyngu ar deithiau diangen (ac eithrio staff a fydd yn delio â'r argyfwng):
Gweithio gyda’n gilydd i fynd i’r afael â bridio cŵn yn anghyfreithlon yng Ngorllewin Cymru
17/02/2022
Ar 17 Chwefror 2022, gweithredodd Tîm Ymchwilio Rhanbarthol Safonau Masnach Cenedlaethol a swyddogion Diogelu’r Cyhoedd Cyngor Sir Ceredigion nifer o warantau chwilio fel rhan o ymgyrch i fynd i’r afael â bridio cŵn yn anghyfreithlon yng Ngorllewin Cymru gan weithio mewn partneriaeth gyda Heddlu Dyfed-Powys, yr RSPCA a'r Gyfarwyddiaeth Meddyginiaethau Milfeddygol.
Gweithdai Comedi a Theatr am ddim i blant a phobl ifanc yn ystod yr hanner tymor
11/02/2022
Mae Amgueddfa Ceredigion wedi cyhoeddi ei rhaglen o weithgareddau yn ystod gwyliau’r hanner tymor, sy'n rhad ac am ddim i blant a phobl ifanc sydd â diddordeb mewn theatr a chomedi.
Murlun Caredigrwydd gan blant a phobl Ifanc Ceredigion
11/02/2022
Ym mis Rhagfyr 2021, fe wnaeth Gwasanaeth Ysgolion Ceredigion, Gwasanaeth Ieuenctid, CAVO gyda thîm Cysylltu â Charedigrwydd Ceredigion alw ar bobl ifanc i ddylunio murlun yn seiliedig ar y thema Caredigrwydd a ddechreuodd yn ystod Wythnos Gwrth-fwlio Cenedlaethol ym mis Tachwedd y llynedd.
Aelwydydd yng Ngheredigion i dderbyn Llythyr Hysbysu cyn Etholiadau Lleol mis Mai 2022
10/02/2022
Dylai trigolion Ceredigion ddisgwyl gweld Llythyr Hysbysu Aelwydydd yn cyrraedd eu cyfeiriad cofrestredig o fewn y dyddiau nesaf.
Ysgol Dyffryn Cledlyn yn ennill cystadleuaeth ffilm Diwrnod Defnyddio’r Rhyngrwyd yn fwy Diogel 2022
09/02/2022
Ar Ddiwrnod Defnyddio'r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel 2022, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru enillwyr y gystadleuaeth ffilm a drefnwyd ganddynt fel rhan o'r dathliadau.
Pleidlais Gwneud eich Marc 2022!
07/02/2022
Mae pleidlais Gwneud eich Marc 2022 nawr ar agor ac yn cau ar 28 Chwefror 2022. Mae ymgyrch Gwneud eich Marc yn gyfle i bobl ifanc 11-18 oed ledled y Deyrnas Unedig fynegi eu barn drwy ddewis pa bynciau cenedlaethol a lleol sydd yn effeithio fwyaf arnyn nhw yn eu bywydau bob dydd.
Dyn lleol yn sicrhau swydd yng nghyfleuster profi Aberaeron
04/02/2022
Darparwyd cymorth i ddyn o Aberystwyth a gafodd ei ddiswyddo i ennill sgiliau newydd a mentro yn ôl i fyd gwaith.
Arweinwyr Grwpiau Ceredigion yn ymrwymo i ymgyrch etholiadol deg a pharchus
04/02/2022
Mae Arweinwyr y pedwar grŵp gwleidyddol yng Ngheredigion wedi cytuno ar addewid i gynnal ymgyrch deg a pharchus ar gyfer yr Etholiadau Lleol ym mis Mai.
Ymestyn Cynllun Cymorth Tanwydd y Gaeaf i helpu gyda biliau tanwydd
03/02/2022
Mae Cynllun Cymorth Tanwydd y Gaeaf wedi cael ei ymestyn yn ddiweddar ac atgoffir aelwydydd cymwys i wneud cais am gymorth i’w helpu i dalu biliau tanwydd y gaeaf.
Treialu trefniadau parcio diogel a llif traffig yn nhrefi Ceredigion
02/02/2022
Mae mesurau yn cael eu treialu yng Ngheredigion i greu trefi mwy diogel a chroesawgar, ynghyd â gwella llif traffig yn yr ardaloedd arfordirol hynny.
Apêl newydd am lety wrth i'r paratoadau barhau i groesawu teuluoedd o Afghanistan i Geredigion
02/02/2022
A oes gennych chi eiddo hunangynhwysol gwag yng Ngheredigion ar hyn o bryd? Rydym yn chwilio am lety ar gyfer teulu o Afghanistan a gefnogodd ymyrraeth Prydain cyn i’r lluoedd gael eu galw'n ôl. Mae llawer o ddinasyddion Afghanistan yn dal i aros mewn 'llety pontio' nes y gellir dod o hyd i gartref mwy parhaol ar eu cyfer.
Lansio sianel podlediad Ceredigion
01/02/2022
Prosiect diweddaraf Siarter Iaith Ceredigion oedd darparu gweithdy ar sut i greu podlediad i ysgolion Ceredigion a hynny dan ofal Marc Griffiths o Stiwdiobox.
Cyfrifiaduron llyfrgelloedd Ceredigion ar gael i’w defnyddio gan y cyhoedd unwaith eto
31/01/2022
Gorfodwyd Cyngor Sir Ceredigion i gyfyngu ar fynediad at gyfrifiaduron cyhoeddus mewn llyfrgelloedd er mwyn lleihau trosglwyddiad y coronafeirws yn ein cymunedau.
Panel Heddlu a Throseddu Dyfed-Powys i graffu ar braesept arfaethedig yr heddlu
27/01/2022
Bydd praesept arfaethedig Heddlu Dyfed-Powys yn destun craffu yng nghyfarfod cyntaf Panel Heddlu a Throseddu Dyfed-Powys yn 2022.
Cynllun Cymorth Tanwydd Gaeaf i helpu gyda biliau tanwydd uwch
26/01/2022
Atgoffir aelwydydd cymwys i wneud cais ar gyfer y Cynllun Cymorth Tanwydd Gaeaf i gael cymorth tuag at dalu biliau tanwydd yn ystod y gaeaf.
Ailagor cyfleusterau hamdden y Cyngor
26/01/2022
Bydd holl gyfleusterau hamdden y cyngor, sef Canolfan Hamdden Aberaeron, Canolfan Hamdden Aberteifi, Canolfan Hamdden Llanbedr Pont Steffan, Pwll Nofio Llanbedr Pont Steffan, Neuadd Chwaraeon Penglais a Chanolfan Hamdden Plascrug, yn ailagor ddydd Llun 31 Ionawr 2022.
Cyfarfod cyntaf Cyd-bwyllgor Corfforaethol Canolbarth Cymru
26/01/2022
Mae Pwyllgor newydd i atgyfnerthu gweithio rhanbarthol ar draws canolbarth Cymru wedi cynnal ei gyfarfod sefydlu.
Arddangosfa newydd Amgueddfa Ceredigion yn edrych yn obeithiol tua’r dyfodol
26/01/2022
Bydd Amgueddfa Ceredigion yn agor arddangosfa newydd ar 29 Ionawr 2022 o'r enw 'Symud Ymlaen, Edrych Ymlaen'.
Dathlu pen-blwydd yr Urdd yn 100 oed
25/01/2022
Yn rhan o ddathliadau’r Urdd yn 100 oed heddiw, bydd adeiladau Cyngor Sir Ceredigion yn cael eu goleuo’n goch, gwyn a gwyrdd gyda’r hwyr i nodi’r achlysur.
Cyngor Sir Ceredigion yn nodi Diwrnod Cofio’r Holocost
24/01/2022
Cynhelir Diwrnod Cofio’r Holocost ar 27 Ionawr bob blwyddyn i gyd-fynd â’r dyddiad y rhyddhawyd Auschwitz-Birkenau, gwersyll crynhoi a difodi mwyaf y Natsïaid.
Cystadleuaeth i ddylunio murlun ar gyfer pont Penparcau
21/01/2022
A ydych chi rhwng 9 a 25 oed ac yn llawn syniadau creadigol ar sut i roi delwedd newydd i danffordd Pen-y-Bont ym Mhenparcau?
Taith gerdded ‘Ar Gered’ yn ardal Tre’r Ddôl
21/01/2022
A ydych chi wedi cerdded i Fedd Taliesin? Dyna wnaeth 22 o gerddwyr egnïol ddydd Sadwrn Ionawr 15 Ionaw 2022 wrth i Cered gynnal y cyntaf mewn cyfres o deithiau cerdded cyfrwng Cymraeg yn ardal Y Topie sy’n dwyn yr enw ‘Ar Gered’.
Awydd sefyll dros yr hyn sy’n bwysig i chi a dod yn Gynghorydd lleol?
21/01/2022
Bydd Etholiadau Llywodraeth Leol yn digwydd ar 5 Mai 2022. Bydd y rhain ar gyfer Cynghorwyr Sir a Chynghorwyr Tref a Chymuned.
Cymorth ariannol i fusnesau yr effeithiwyd arnynt gan gyfyngiadau’r coronafeirws
20/01/2022
Mae cymorth ariannol ar gael i fusnesau manwerthu, lletygarwch, hamdden, twristiaeth, gweithwyr llawrydd yn y sector greadigol a’r gadwyn gyflenwi yng Ngheredigion yr effeithiwyd arnynt gan y cyfyngiadau coronafeirws diweddaraf.
Pobl Ifanc a Chwmni Theatr Arad Goch yn creu ffilm fer bwerus i godi ymwybyddiaeth o’r hyn y mae’n ei olygu i fod yn Ofalwr Ifanc
14/01/2022
Rhwng mis Medi a mis Tachwedd 2021, bu pobl ifanc o Wasanaeth Gofalwyr Ifanc Ceredigion yn creu prosiect newydd mewn partneriaeth ag Arad Goch, Gwasanaeth Ieuenctid Ceredigion, Action for Children ac Uned Gofalwyr Cyngor Sir Ceredigion. Bu’r bobl ifanc a’r sefydliadau hyn yn cydweithio i greu ffilm fer mewn ymgais i addysgu a chodi ymwybyddiaeth o’r hyn y mae’n ei olygu i fod yn Ofalwr Ifanc.
Bargen Twf Canolbarth Cymru yn cyrraedd carreg filltir bwysig
13/01/2022
Heddiw, llofnodwyd y Cytundeb Terfynol ar gyfer Bargen Twf Canolbarth Cymru gan Lywodraeth Cymru, Llywodraeth y DU ac awdurdodau lleol y rhanbarth, sef Cyngor Sir Ceredigion a Chyngor Sir Powys.
Cyfarwyddwr Corfforaethol newydd yn ymuno â Thîm Ceredigion
12/01/2022
Ar ddydd Llun 10 Ionawr, ymunodd James Starbuck â Chyngor Sir Ceredigion fel Cyfarwyddwr Corfforaethol.
Gwasanaethau gwell ar gyfer pobl sydd angen gofal
12/01/2022
Mae pobl sydd angen gofal yn derbyn gwell gwasanaethau oherwydd rhaglen beilot a newidiodd y ffordd y mae staff iechyd a gofal cymdeithasol yng ngorllewin Cymru yn cael eu hyfforddi.
Cynnal adolygiad o ddarpariaeth addysg ôl-16 yng Ngheredigion
11/01/2022
Bydd adolygiad yn cael ei gynnal yn y dyfodol agos i gasglu gwybodaeth a ffeithiau am ddarpariaeth addysg ôl-16 yng Ngheredigion.
Diweddariad ar ail-agor cyfleusterau hamdden y Cyngor
06/01/2022
Mae Ceredigion wedi gweld cynnydd sylweddol yn nifer yr achosion o coronafeirws dros gyfnod y Nadolig. Oherwydd hyn, penderfynwyd gohirio ailagor cyfleusterau hamdden y Cyngor.
EUSS: atgoffa dinasyddion i newid o statws cyn-sefydlog i sefydlog pan fyddant yn gymwys
06/01/2022
Atgoffir dinasyddion yr Undeb Ewropeaidd, Ardal Economaidd Ewropeaidd neu o’r Swistir sy’n byw yng Ngheredigion fod cymorth ar gael i newid o statws cyn-sefydlog i sefydlog yn y Deyrnas Unedig.
Ysgolion Ceredigion i ailagor yn llawn ar 10 Ionawr 2022
04/01/2022
Bydd ysgolion Ceredigion yn anelu at ailagor i bawb ar gyfer darpariaeth wyneb yn wyneb ddydd Llun, 10 Ionawr 2022.