Rydyn ni eisiau sicrhau fod holl breswylwyr Ceredigion yn cael yr help a’r gefnogaeth ariannol sydd ar gael iddyn nhw.

Edrychwch i weld pa gefnogaeth allai fod ar gael i chi i’ch helpu gyda chostau cynyddol nwyddau ac ynni, chwyddiant a gwasgfeydd costau byw.

Map o Fannau Croeso Cynnes yng Ngheredigion Gaeaf 2023-2024

Mae'r map hwn yn dangos lle mae'r Mannau Croeso Cynnes yng Ngheredigion. Mae'r manylion yn cynnwys amseroedd agor a syniad o'r hyn y gallwch ddod o hyd iddo pan fyddwch yn cyrraedd.

Map o Fannau Croeso Cynnes yng Ngheredigion (Dolen i wefan allanol)

Rhestr o Fannau Croeso Cynnes yng Ngheredigion

 

E- Fwletin Costau Byw Ceredioion

Bwletin Costau Byw Ceredigion – 'Cefnogaeth i Bobl Anabl' - Ebrill 2024

 

Banciau Bwyd

Mae 6 Banc Bwyd yng Ngheredigion. Maen nhw’n croesawu rhoddion yn ogystal â cheisiadau am help gan drigolion.

Banc Bwndel Babi

Gwneud bywyd bach yn haws i rieni newydd neu rheiny sy’n disgwyl ac sydd mewn angen (Dolen i wefan allanol).

Cost Offer Trydanol

Cymharwch pa offer sy’n defnyddio’r mwyaf a’r lleiaf o bŵer (Dolen i wefan allanol).

Cymorth a Chyngor Llywodraeth Cymru

Cymorth a chyngor ariannol i’ch helpu gyda chostau byw cynyddol (Dolen i wefan allanol).

Cymuned y Lluoedd Arfog

Mae’r Lleng Brydeinig Frenhinol yn rhoi grant costau byw i unrhyw aelod o Gymuned y Lluoedd Arfog (Dolen i wefan allanol a Saesneg yn unig).

Cynhyrchion Mislif am Ddim

Mae Cyngor Sir Ceredigion mewn partneriaeth â grwpiau a sefydliadau cymunedol lleol, a thrwy gyllid gan Grant Urddas Mislif Llywodraeth Cymru, yn sicrhau bod pobl yn gallu cael gafael ar gynhyrchion mislif yn y gymuned.

Cynlluniau Effeithlonrwydd Ynni

Cynlluniau i wella effeithlonrwydd ynni yn y cartref. 

Cynnig Gofal Plant i Gymru

Os oes gennych blentyn 3 neu 4 oed, efallai fod hawl gennych i 30 awr yr wythnos o ddarpariaeth Dysgu Sylfaen a gofal plant wedi ariannu.

Grwpiau Bwyd Dros Ben Ceredigion

Grwpiau i bawb gael rannu bwyd dros ben a mynd i’r afael â gwastraff bwyd.

Gwisg Ysgol

Gall dysgwyr sy'n gymwys i gael Prydau Ysgol am Ddim wneud cais am grant o £125 y dysgwr, a £200 i'r dysgwyr hynny sy'n dechrau ym mlwyddyn 7, gan gydnabod y costau uwch sy'n gysylltiedig â dechrau yn yr ysgol uwchradd.

Help i Dalu am eich Costau Gofal Plant

Cymorth gan y Llywodraeth gyda chostau gofal plant i rieni. P'un a oes gennych chi blant bach neu bobl ifanc yn eu harddegau, fe allech chi gael cefnogaeth (Dolen i wefan allanol a Saesneg yn unig).

Llyfrgell Ceredigion

Ymunwch â’r llyfrgell i fwynhau llyfrau yn osytal â’n llyfrgell ddigidol, cylchronau a gweithgareddau i blant.

Lwfans Gofalwr

Fe allech chi gael £81.90 yr wythnos os ydych chi'n gofalu am rywun o leiaf 35 awr yr wythnos a bod y person hwnnw'n cael budd-daliadau penodol (Dolen i wefan allanol a Saesneg yn unig).

Prydau Ysgol am Ddim

Mae prydau ysgol am ddim ar gael i ddisgyblion cymwys sy'n mynychu ysgolion, yn llawn amser, a reolir gan Awdurdod Addysg Ceredigion.

Ymwybyddiaeth Sgamiau

Byddwch yn ymwybodol o sgamiau, gan gynnwys rhai digidol, ar garreg eich drws, dros y ffôn a drwy’r post.