Ydych chi'n dysgu Cymraeg? Cliciwch isod am adnoddau defnyddiol.

​Y Bont - Mae'r wefan hon yn llawn ymarferion iaith i helpu chi ymarfer eich Cymraeg.

Ap Dysgu Cymraeg - Prynwch a lawrlwythwch yr Ap er mwyn dysgu Cymraeg ar eich ffon, iPad neu iPod. Mae'r ap hwn yn addas ar gyfer dechreuwyr.

Surface Languages - Mae'r wefan hon yn cynnig geiriau a brawddegau i chi ddysgu am ddim.

Learn Welsh Net - Mae'r wefan hon yn llawn gwersi a gemau ar gyfer dysgu geirfa sylfaenol ac mae am ddim.

Say Something in Welsh - Dyma ddolen i'r gyfres boblogaidd sydd ar MP3. Ceir 3 chwrs ac mae'r un cyntaf am ddim.

Cadw Sŵn - Mae'r cwrs hwn i ddechreuwyr yn defnyddio straeon a cherddoriaeth fel dull o ddysgu - llyfr cwrs a DVD.

Acen - Ceir gemau iaith a gwersi blasu ar y wefan hon.

Dal Ati ar S4C - Mae Dal Ati yn cynnwys geirfa, gwybodaeth, clipiau a gweithgareddau i'ch helpu ddeall rhaglenni teledu yn Gymraeg.

ffrinDiaith - Gyda'r wefan hon gallwch gofrestru a ffeindio siaradwr rhugl Cymraeg a all eich helpu i groesi'r bont ieithyddol bondigrybwyll 'na yn llwyr!

Dysgu Cymraeg - Cymraeg i Oedolion Canolbarth Cymru - Gallwch ddewis cwrs sy'n addas ac yn gyfleus ar eich cyfer chi.

Angen help i ddefnyddio eich cyfrifiadur yn Gymraeg? Cliciwch isod am ganllawiau defnyddiol.

Defnyddio'r Gymraeg ar y cyfrifiadur

Gwella eich Cymraeg

Ddim yn siwr beth yw'r treiglad cywir? Ofni camsillafu?

Rhowch gynnig ar loywi iaith ar-lein.

Cymarfer - Wedi’u datblygu gan Ganolfan Bedwyr ym Mhrifysgol Bangor mae gwersi gloywi iaith Cymarfer yn trafod y problemau cyffredin fel y gwahaniaeth rhwng ‘mae’ a ‘mai’ a sut i osgoi dylanwad y Saesneg wrth ysgrifennu yn Gymraeg.

Gwersi Fideo Gloywi Iaith - Mae’r clipiau fideo hyn gan y Cynllun Sabothol yn trafod rhai o’r problemau sy’n peri trafferth wrth ysgrifennu’n Gymraeg.

Cysgliad - Gwirydd sillafu sydd hefyd yn gwirio treigliadau.

Ap Geiriadur - Dyma eiriadur y gellwch lawrlwytho am ddim ar eich ffôn neu dabled.

Porth Termau Cenedlaethol Cymru - Gallwch chwilio yma am dermau technegol ac academiadd yn Gymraeg neu’n Saesneg.

Cronfa Genedlaethol o Dermau - Man defnyddiol i chwilio am derm o’r byd gwaith.

Term Cymru - Cronfa ddata o dermau mae cyfieithwyr Llywodraeth Cymru yn eu defnyddio.

Gwefan Llywodraeth Cymru 'Cymraeg' - prif nod y wefan yw cefnogi pobl i ddefnyddio mwy o'r iaith ym mhob agwedd o'u bywydau - yn siaradwyr Cymraeg hyderus, yn ddysgwyr neu'n rhieni di-Gymraeg. Mae hefyd yn cyflwyno'r iaith ym mhob agwedd o fywyd i'r rheiny sydd ddim yn siarad Cymraeg, a'u hannog i ddysgu mwy amdani.

Llywodraeth Cymru - Y Gymraeg - i gael cyngor ar fagu plant yn Gymraeg / dwyieithog.

Y Gymraeg - i gael gwybodaeth am addysg cyfrwng Cymraeg ac adnoddau pellach i'ch helpu.

Menter Iaith Cered - Mae Cered yn gweithio gyda phobl o bob oed i gefnogi, ysgogi a chyfoethogi'r defnydd o Gymraeg ym myd gwaith ac yn gymdeithasol i sicrhau bod y Gymraeg yn ffynnu ym mhob agwedd o fywyd trigolion Ceredigion.