Ymarfer cadarnhau i gynnal a diweddaru’r Gofrestr Etholiadol yw’r Canfasiad Blynyddol.

Yn rhan o’r Canfasiad blynyddol mae angen i Adran y Gofrestr Etholiadol gysylltu â phob cyfeiriad preswyl yn Ceredigion i gadarnhau a yw’r wybodaeth sydd gennym ar y Gofrestr Etholiadol yn gyflawn ac yn gywir.

Mae fframwaith cyfreithiol sy’n nodi gofynion statudol y Canfasiad blynyddol ac fel Awdurdod Lleol mae’n rhaid i ni ofyn am y wybodaeth hon. Caiff proses y Canfasiad ei threfnu a’i chynnal gan y Cyngor, ond caiff y Cyngor ei fonitro’n agos gan y Comisiwn Etholiadol.

Mewn blynyddoedd blaenorol, byddai Meddiannydd yr aelwyd fod wedi derbyn Ffurflen Ymholiad Aelwyd (FfYA) A3 i’w llenwi naill ai ar-lein neu ar bapur i’w dychwelyd yn yr amlen barod.

Mae’r broses hon wedi newid erbyn hyn ac mae pob Awdurdod Lleol wedi bod yn cydweithio â Swyddfa’r Cabinet i wneud y newidiadau i’r Canfasiad blynyddol.

Byddem yn ddiolchgar pe gallech gydymffurfio â’r gofynion isod.

Os ydych wedi derbyn llythyr A4 o'r enw ffurflen Gyfathrebu A y Canfasiad, ewch i Ffurflen Gyfathrebu A y Canfasiad i gael mwy o wybodaeth.

Os ydych wedi derbyn llythyr A4 o'r enw ffurflen Gyfathrebu B y Canfasiad, ewch i Ffurflen Gyfathrebu B y Canfasiad i gael mwy o wybodaeth.

Os ydych wedi derbyn llythyr A3 o'r enw ffurflen Gyfathrebu y Canfasiad, ewch i Ffurflen Gyfathrebu y Canfasiad i gael mwy o wybodaeth.

  • darllenwch y ffurflen yn ofalus
  • gwiriwch fod pob person, sydd dros 14 oed, ac yn byw gyda chi wedi’i restru ar y ffurflen. Os oes gwybodaeth ar goll gwnewch nodyn o hynny ar y ffurflen yn y blychau priodol

Noder: Mae'n bwysig eich bod yn ymateb i'ch ffurflen holi am gyfathrebu cyn gynted â phosibl os oes gennych unrhyw newidiadau i'w gwneud.

Gwybodaeth ar bleidleisio i rai 14-16 oed a dinasyddion cymwys o wledydd tramor

Beth sy’n digwydd pan fyddaf yn dychwelyd fy Ffurflen Ymholiad Tŷ? Caiff eich ymateb ei wirio gan y Swyddfa Gofrestru Etholwyr.

Os ydych wedi nodi unrhyw addasiadau, ychwanegiadau neu unrhyw beth i’w ddileu, caiff y rhain eu diweddaru a’u prosesu. Bydd y Swyddfa Cofrestru Etholiadol yn ysgrifennu atoch os oes angen gweithredu ymhellach.

Os ydych wedi rhoi gwybod nad oes angen gwneud unrhyw newidiadau, yna bydd hyn hefyd yn cael ei gadarnhau ar y Gofrestr Etholiadol.

Os ydych wedi darparu enw person i ni nad yw wedi’i gofrestru ar hyn o bryd ar y Gofrestr Etholwyr yna byddwn yn anfon Gwahoddiad i Gofrestru atoch yn y post. Gall y person hwnnw hefyd lenwi Ffurflen Gwahoddiad i Gofrestru ar-lein (Saesneg yn unig).

Gallwch gofrestru i bleidleisio os ydych:

Yn drigolyn (sydd fel arfer yn byw) yng Nghymru ac yn 14 oed neu'n hŷn (ond ni fyddwch yn gallu pleidleisio yn etholiadau'r Senedd nes eich bod yn 16 oed. Ni fyddwch yn gallu pleidleisio yn etholiadau Senedd y DU, y cyngor lleol neu’r Comisiynydd Heddlu a Throseddu nes eich bod yn 18 oed).

Rhaid i chi hefyd fod naill ai’n:

  • Ddinesydd Prydeinig, Gwyddelig neu'r Undeb Ewropeaidd, neu’n
  • Ddinesydd o’r Gymanwlad neu ddinesydd o dramor sydd â chaniatâd i gael mynediad i'r DU neu aros yno, neu nad oes angen caniatâd o’r fath arno

I drefnu pleidlais drwy'r post neu pleidlais drwy ddirprwy (rhywun rydych chi'n ymddiried ynddo i bleidleisio ar eich rhan) gallwch lawrlwytho ffurflen gais ar wefan Y Comisiwn Etholidaol. I newid unrhyw drefniadau pleidleisio drwy’r post neu drwy ddirprwy, cysylltwch â Thîm y Gwasanaethau Etholiadol.

Detholiad o’r gofrestr etholiadol yw’r gofrestr agored ond ni chaiff ei defnyddio at ddiben etholiadau. Gall unrhyw un ei phrynu a'i defnyddio at lawer o ddibenion gan gynnwys cadarnhau enw a manylion cyfeiriad a dibenion marchnata uniongyrchol.

Ni fydd dileu eich manylion o'r gofrestr agored yn effeithio ar eich hawl i bleidleisio. Os ydych yn iau nag 16 oed, ni fydd eich manylion yn cael eu cynnwys ar y gofrestr agored.

Gallwch gael mwy o wybodaeth am y ddwy gofrestr a ddefnyddir.

Rydym yn casglu gwybodaeth ar y sail gyfreithiol ei bod yn dasg a gynhelir er budd y cyhoedd, fel y nodir yn Neddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983, Deddf y Senedd ac Etholiadau (Cymru) 2020 a rheoliadau cysylltiedig.

Byddwn yn cadw gwybodaeth bersonol yn ddiogel ac yn cydymffurfio â deddfwriaeth diogelu data.

Os ydych wedi dewis peidio ag ymddangos ar y gofrestr agored, byddwn ond yn defnyddio’r wybodaeth a roddwch i ni at ddibenion etholiadol, gan gynnwys ei chyfateb yn erbyn ffynonellau eraill o ddata ar y gofrestr etholiadol.

Os ydych wedi cofrestru ar hyn o bryd, rydym wedi prosesu eich data yn gywir lle y bo’n berthnasol. Ni fyddwn yn rhannu gwybodaeth bersonol ag unrhyw un arall, oni bai ei bod yn rhaid i ni wneud hynny yn ôl y gyfraith.

Mae’r gyfraith yn ei gwneud yn ofynnol i ni rannu eich gwybodaeth ag ymgeiswyr, pleidiau gwleidyddol ac ymgyrchwyr at ddibenion ymgysylltu democrataidd ac asiantaethau gwirio credyd i gadarnhau eich manylion pan fyddwch yn gwneud cais am gredyd.

Os nad ydych wedi dewis peidio ag ymddangos ar y gofrestr agored, gall unrhyw un brynu eich enw a’ch cyfeiriad a’u defnyddio at nifer o ddibenion, gan gynnwys marchnata uniongyrchol.

Gwahoddiad i Gofrestru

Oes. Rydym wedi anfon yr ail ffurflen atoch, y gwahoddiad i gofrestru, oherwydd eich bod newydd gael eich ychwanegu at y ffurflen ymholiad cartref. Mae angen ichi gwblhau a dychwelyd y ffurflen hon er mwyn cwblhau eich cofrestriad. Mae dirwy bosibl o £80 os na fyddwch yn cwblhau’r ffurflen.

Na allwch. Gallwch gwblhau’r ffurflen ar-lein ar y wefan, www.gov.uk/cofrestru-i-bleidleisio neu gallwch lenwi’r ffurflen a’i dychwelyd drwy’r post yn yr amlen a ddarparwyd. Pan fydd eich cofrestriad yn llwyddiannus, byddwn yn ysgrifennu atoch i gadarnhau hynny.

Ydy. Yn yr un modd â’r ffurflen ymholiad cartref, os na fyddwch yn ymateb i’r ffurflen, gallech gael dirwy. Yn achos gwahoddiadau i gofrestru, y ddirwy yw £80.

Diogelwch a phreifatrwydd

Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol – Datganiad preifatrwydd

Dim ond at ddibenion etholiadol y byddwn yn defnyddio'r wybodaeth a rowch i ni. Byddwn yn cadw gwybodaeth bersonol yn ddiogel ac yn cydymffurfio â'r ddeddfwriaeth diogelu data. Ni fyddwn yn rhoi gwybodaeth bersonol amdanoch chi nac unrhyw wybodaeth bersonol y gallwch ei rhoi am bobl eraill i unrhyw unigolyn na sefydliad arall oni bai bod yn rhaid i ni yn ôl y gyfraith.

Sail gyfreithiol casglu'r wybodaeth yn y ffurflen hon yw bod ei hangen er mwyn cyflawni tasg er budd y cyhoedd ac arfer awdurdod swyddogol a roddir i’r Swyddog Cofrestru Etholiadol yn Neddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 a'r rheoliadau cysylltiedig.

Caiff rhywfaint o'r wybodaeth a gesglir yn y ffurflen hon ei dosbarthu'n ddata personol categori arbennig. Fe'i prosesir er budd sylweddol y cyhoedd fel y nodir yn Neddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 a'r rheoliadau cysylltiedig. Er mwyn prosesu'r math hwn o wybodaeth, rhaid bod gan y Rheolydd Data ddogfen bolisi berthnasol sy'n nodi sut yr ymdrinnir â'r wybodaeth hon.

Dylech gyfeirio at yr Hysbysiad Preifatrwydd yn am ragor o wybodaeth am brosesu data personol

Mae dyddiadau geni a rhifau yswiriant gwladol yn cael eu gwirio mewn perthynas â chofnodion y llywodraeth i gadarnhau pwy yw’r person. Bwriedir i hyn sicrhau bod y system yn fwy diogel.

Gan ddefnyddio gwybodaeth a geir gan y cyhoedd, mae swyddogion cofrestru yn cadw dwy gofrestr – y Gofrestr Lawn a’r Gofrestr Agored (a elwir hefyd y Gofrestr Olygedig)

Y Gofrestr Lawn

Mae’r gofrestr etholiadol yn rhestru enwau a chyfeiriadau pawb sydd wedi cofrestru i bleidleisio mewn etholiadau cyhoeddus. Mae’r gofrestr yn cael ei defnyddio at ddibenion etholiadol, fel sicrhau mai dim ond pobl gymwys sy’n gallu pleidleisio. Caiff ei defnyddio hefyd at ddibenion cyfyngedig eraill a nodir yn y gyfraith, fel datgelu troseddau (e.e. twyll), galw pobl i gyflawni gwasanaeth rheithgor a gwirio ceisiadau am gredyd.

Y Gofrestr Agored (olygedig)

Mae’r gofrestr agored wedi’i thynnu o’r gofrestr etholiadol, ond ni chaiff ei defnyddio ar gyfer etholiadau. Gall unrhyw berson, cwmni neu sefydliad ei phrynu. Er enghraifft, caiff ei defnyddio gan fusnesau ac elusennau i gadarnhau enwau a chyfeiriadau. Bydd eich enw a’ch cyfeiriad yn cael eu cynnwys ar y gofrestr agored oni bai y byddwch yn gofyn am iddynt gael eu dileu. Nid yw dileu eich manylion o’r gofrestr agored yn effeithio eich hawl i bleidleisio. Gallwch newid eich dewis o ran cael eich cynnwys neu beidio ar unrhyw adeg, drwy gyflwyno cais yn cynnwys eich enw llawn, eich cyfeiriad ac yn nodi a ydych yn dymuno cael eich cynnwys ar y gofrestr olygedig neu gael eich hepgor ohoni. Gallwch wneud hyn yn ysgrifenedig neu dros y ffôn, drwy gysylltu â’r Gwasanaethau Etholiadol, Cyngor Sir Ceredigion, Penmorfa, Aberaeron, Ceredigion SA46 0PA; e-bost gwasanaethauetholiadol@ceredigion.gov.uk; rhif ffôn 01545 572032. Byddwn hefyd yn ysgrifennu atoch i gadarnhau unrhyw newid.