
Gwobrau Caru Ceredigion 2025
Mae Gwobrau Caru Ceredigion 2025 yn ddathliad o’r goreuon o blith ein cymunedau a’n busnesau.
Cynhelir y seremoni wobrwyo yng Nghanolfan Lloyd Thomas, Campws Llanbedr Pont Steffan, Prifysgol y Drindod Dewi Sant ar nos Iau, 11eg Ragfyr 2025. Bydd y gwobrau’n cydnabod cyfraniadau a llwyddiannau eithriadol busnesau, prosiectau cymunedol, ac unigolion ar draws y sir.
Mae ceisiadau ar gyfer y gwobrau ar agor.
A hithau’n un o ardaloedd mwyaf prydferth ac unigryw’r wlad, mae gwaith gwych yn digwydd yng Ngheredigion ar hyn o bryd, a dylid dathlu hyn. Edrychwn ymlaen at gydnabod gwaith arloesol, blaengar ac ysbrydoledig ein trigolion a’n busnesau, wrth helpu i hybu ysbryd o gydweithio a balchder cymunedol.
Pob lwc!
Sut i wneud cais
Mae categorïau’r gwobrau wedi’u rhestru isod, ynghyd â disgrifiad byr. Cliciwch ar y dolenni unigol i gael rhagor o wybodaeth am y categori, yn ogystal â ffurflen gais y wobr. Gellir cyflwyno ceisiadau papur hefyd, e-bostiwch gwobrauceredigion@technegol.co.uk am ragor o wybodaeth am hyn.
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw hanner nos, Dydd Llun 3ydd o Dachwedd, 2025.
I fod yn gymwys ar gyfer unrhyw gategori, rhaid i gymunedau a busnesau fod yn gweithredu neu fod â lleoliad corfforol yng Ngheredigion, gydag unrhyw weithgareddau perthnasol sy’n rhan o'ch cais wedi'u cynnal rhwng 1af o Dachwedd 2024 tan 1af o Rhagfyr 2025.

Meini Prawf y Barnwyr
Meini Prawf y Barnwyr
Newyddion Gwobrau Caru Ceredigion
Newyddion Gwobrau Caru Ceredigion
Gwobr Mudiad Cymunedol
Mae'r wobr hon yn agored i unrhyw grŵp cymunedol yng Ngheredigion fel grwpiau ieuenctid, Cynghorau Cymuned, clybiau chwaraeon, pwyllgorau neuaddau pentref, a grwpiau diddordeb cymunedol sydd wedi gwneud gwahaniaeth trwy fod yn arloesol ac sydd wedi cael effaith trwy wneud pethau'n wahanol.
Gwobr Mudiad Cymunedol
Gwobr Ysbrydoliaeth Caru Ceredigion
Nôd y wobr hon yw cydnabod unigolion sydd wedi mynd gam ymhellach i wneud gwahaniaeth yn eu cymuned leol neu fusnes.
Gwobr Ysbrydoliaeth Caru Ceredigion
Gwobr Digwyddiad y Flwyddyn
Mae’r wobr hon yn cael eu rhannu’n ddwy categori, digwyddiad mawr y flwyddyn a digwyddiad bach y flwyddyn ac mi fydd y panel yn asesu pa gategori sydd mwyaf addas i'r ymgeisydd.
Gwobr Digwyddiad y Flwyddyn
Gwobr Entrepreneur Ifanc
Nôd y wobr hon yw cydnabod unigolion ifanc sydd wedi dangos yr awydd i lwyddo gyda’u syniadau eu hunain ac wedi meddu ar yr uchelgais i droi’r syniadau hynny’n fusnes llwyddiannus. Mae'r wobr hon yn agored i unigolion 30 oed ac iau.
Gwobr Entrepreneur Ifanc
Gwobr Creu Dyfodol Lleol
Gwobr sy’n adlewyrchu y posibilrwydd o yrfa a ddyfodol disglair yn Ngheredigion.
Gwobr Creu Dyfodol Lleol
Gwobr Darganfod Ceredigion
Mae'r wobr hon yn agored i fusnesau Ceredigion yn y sector twristiaeth a lletygarwch sydd wedi bod yn llwyddiannus wrth hybu'r diwydiant twristiaeth yn y Sir. Mae hyn yn cynnwys ymrwymiad eithriadol i ddarparu profiad rhagorol i ymwelwyr, twristiaid neu deithwyr busnes.
Gwobr Darganfod Ceredigion
Gwobr Bwyd-Amaeth
Mae'r wobr hon yn agored i fusnesau sy'n gweithio yn y sectorau bwyd neu amaethyddiaeth yng Ngheredigion ac sy’n gallu dangos sut mae'r busnes wedi cael effaith gadarnhaol ar yr amgylchedd gwyrdd, yr economi leol, a/neu'r gymuned.
Gwobr Bwyd Amaeth
Gwobr Llwybr Llwyddiant
Cyflwynir y wobr hon i unigolyn sy’n dilyn prentisiaeth neu’n sy’n dilyn rhaglen o hyfforddiant gyda busnes neu sefydliad sy’n gweithredu yng Ngheredigion ac sydd wedi bod yn rhagorol ym mhob agwedd ar ei hyfforddiant. Gall hefyd gael ei gyflwyno i gwmni, gyflogwr neu sefydliad sydd yn cynnig rhaglen o hyfforddiant rhagorol neu sy’n darparu cefnogaeth i ddatblygu yn broffesiynol mewn maes neu ddiwydiant benodol.
Gwobr Llwybr Llwyddiant
Gwobr Manwerthu
Mae'r wobr hon yn agored i fusnesau manwerthu yng Ngheredigion sy'n dangos effaith gadarnhaol ar yr amgylchedd, yr economi leol a/neu'r gymuned.
Gwobr Manwerthu
Gwobr Ceredigion a’r Byd
Mae’r wobr hon yn cydnabod busnesau neu fentrau Ceredigion sydd wedi helpu i roi Ceredigion ar y map, ac sydd wedi helpu i godi proffil y sir y tu allan i Gymru.
Gwobr Ceredigion ar Byd
Gwobr Caru Ceredigion 2025
Uchafbwynt y seremoni fydd cyflwyno prif wobr Gwobrau Caru Ceredigion 2025 i'r enillydd cyffredinol o blith y categorïau amrywiol.
Gwobr Caru Ceredigion 2025