Gyrru rhad ar danwydd

Mae gyrru rhad ar danwydd, sydd weithiau'n cael ei alw'n eco-yrru, yn ddelfrydol ar gyfer pawb sy'n ceisio arbed arian ar danwydd a lleihau eu heffaith carbon ar yr amgylchedd.

Amcangyfrifir y gall technoleg injan fodern a thechnegau gyrru doeth, craff a diogel, arwain at arbed rhwng 5% a 10% ar danwydd ar gyfartaledd gan leihau'r draul ar eich car.

Cyn cychwyn ar eich taith:

Rhoi gwasanaeth rheolaidd i'ch car

Dylech sicrhau eich bod yn rhoi gwasanaeth i'ch car yn rheolaidd gan ddilyn amserlen y gwneuthurwr. Bydd hyn o gymorth i sicrhau effeithlonrwydd yr injan. Hefyd, gwnewch yn siŵr eich bod yn defnyddio'r olew iawn ar gyfer yr injan.

Sicrhau bod y teiars wedi'u llenwi ag aer i'r gwasgedd cywir

Dylech sicrhau bod y teiars wedi'u llenwi ag aer i'r gwasgedd cywir yn rheolaidd, yn enwedig cyn teithiau hir. Gall teiars nad ydynt wedi'u llenwi'n gywir fod yn beryglus a golygu eich bod yn defnyddio mwy o danwydd.

Dylai llawlyfr eich gwneuthurwr roi gwybodaeth i chi ynghylch gwasgedd cywir teiars eich car. Dylech nodi bod rhai llawlyfrau hefyd yn rhoi cyngor ynghylch y gwasgedd cywir ar gyfer cario llwythi trymach.

Cael gwared ar eitemau nad oes mo'u hangen

Gall rheseli pen to, cludwyr beiciau ac eitemau eraill ar do'r car effeithio ar aerodynameg eich car gan leihau'r effeithlonrwydd tanwydd. Mae'n syniad da eu tynnu oddi ar y car os nad ydych yn eu defnyddio.

Hefyd, mae'n werth cofio os yw'ch car yn cario pwysau ychwanegol y bydd angen tanwydd ychwanegol. Gorau i gyd os gallwch dynnu unrhyw eitemau nad oes mo'u hangen arnoch ar gyfer y daith o'r bŵt.

Cynlluniwch eich taith

Mae wastad yn werth taro golwg ar fap cyn dechrau ar daith hir neu anghyfarwydd. Gall systemau llywio lloeren fod yn ddefnyddiol ond nid ydynt ar bob adeg yn cynnig y daith fwyaf uniongyrchol i chi.

Dylech sicrhau eich bod yn cynllunio eich teithiau gan osgoi'r adegau hynny pan fydd tagfeydd traffig. Mae nifer o bobl yn anghofio caniatáu amser ar gyfer gwaith ar y ffyrdd - gallwch weld pa waith sy'n cael ei wneud ar y ffyrdd yng Ngheredigion drwy fynd at ein tudalen sy'n sôn am y gwaith ar y ffyrdd. Os ydych yn mynd ar daith hir, mae'n werth gwrando ar y newyddion traffig.

Ystyriwch ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus ar gyfer teithiau byr

Gall nifer o deithiau byr ddefnyddio mwy o danwydd nag un daith hir o'r un hyd. Mae rhai injans yn defnyddio bron dwywaith cymaint o danwydd yn y milltiroedd cyntaf wrth i'r injan gynhesu. Gall rhai trawsnewidyddion catalytig gymryd hyd at bum milltir cyn eu bod ar eu mwyaf effeithlon.

Ar ôl dweud hynny, nid yw troi'r injan yn hamddenol cyn y daith, fel y mae nifer o bobl yn cael eu temtio i wneud mewn tywydd oer, mor effeithiol â'r hyn y mae pobl yn ei gredu, ac mae'n gwastraffu mwy o danwydd na phe byddech yn gyrru'r car yn syth. Nid yw'r AA, er enghraifft, yn cynghori pobl i ddechrau'r injan hyd nes eu bod yn barod i fynd.

Y tu ôl i'r olwyn:

Gyrrwch yn gall

Byddwch yn ymwybodol o gyflwr y ffordd a gyrrwch yn gall. Ceisiwch osgoi cyflymu'n sydyn a brecio'n galed.

Gwnewch y mwyaf o gyflymder y cerbyd. Astudiwch y ffordd o'ch blaen a phan fydd yn rhaid i chi arafu, ar gyfer arwydd sy'n dangos terfyn cyflymder er enghraifft, dylech arafu'n gall drwy dynnu eich troed oddi ar y sbardun mewn da bryd gan adael eich car mewn gêr. Os bydd angen i chi arafu eto, defnyddiwch y brêcs yn gynnar ac yn ysgafn. Drwy wneud hyn byddwch yn defnyddio llai o danwydd ac yn ymestyn oes y breciau.

Newid gêr yn gynt

Dylech newid gêr cyn gynted ag y bo modd heb orwneud yr injan - ceisiwch godi gêr pan fydd cyflymder eich injan oddeutu 2000 rpm mewn car disel neu oddeutu 2500 rpm mewn car petrol. Gall hyn wneud gwahaniaeth mawr i gyfanswm y tanwydd y byddwch yn ei ddefnyddio.

Rheoli eich cyflymder

Yn ôl y gyfraith, dylech yrru o fewn y terfyn cyflymder, ac mae rhesymau diogelwch amlwg dros wneud hynny. Hefyd mae manteision economaidd dros yrru o fewn y terfyn cyflymder. Yn ôl yr Adran Drafnidiaeth, mae gyrru ar 70mya yn defnyddio 9% yn fwy o danwydd na phe byddech yn gyrru ar 60mph a hyd at 15% yn fwy na phe byddech yn gyrru ar 50mya.

Rheoli eich offer trydanol

Gall unrhyw lwyth trydanol gynyddu'r tanwydd yr ydych yn ei ddefnyddio. Dylech ddiffodd y gwres ar y sgrin wynt ôl, y diniwlwyr a'r goleuadau pan nad oes rhaid i chi eu defnyddio.

Pan fyddwch yn teithio ar gyflymder isel, mae aerdymheru yn golygu eich bod yn defnyddio mwy o danwydd. Nid yw'r effeithiau hyn mor amlwg pan fyddwch yn teithio ar gyflymder uwch. Ar ddiwrnodau poeth, doethach fyddai agor y ffenestri wrth yrru o amgylch y dref gan gadw'r aerdymheru hyd nes y byddwch yn gyrru ar gyflymder uwch. Dylech redeg y system aerdymheru o leiaf un waith yr wythnos drwy'r flwyddyn i sicrhau bod y system mewn cyflwr da.

Nodyn diogelwch pwysig:

Nid yw hwylio mynd – rholio lawr rhiw neu yrru'r car allan o gêr wrth ddynesu at gyffordd – yn cael ei gymeradwyo oherwydd nid oes gan y gyrrwr rheolaeth lwyr o'r cerbyd. Pan fyddwch yn hwylio mynd, nid oes gennych y gallu i gyflymu'n sydyn os bydd angen i chi ddod allan o sefyllfaoedd anodd. Hefyd, ni fydd modd i chi frecio â'r injan. Mae brecio â'r injan yn cymryd rhywfaint o'r pwysau oddi ar y brêcs wrth fynd lawr rhiw ac mae o gymorth i sicrhau bod y brêcs yn effeithlon (os bydd y brêcs wedi gorboethi bydd angen mwy o bwysau ar y pedalau i stopio'r cerbyd). Yn ogystal, oherwydd newidiadau yn y systemau tanwydd cerbydau, ni fydd hwylio mynd yn arbed tanwydd i chi chwaith.