Hyd at £36,000 ar ffurf cymorth grant i dalu am addasiadau anabledd ac offer er mwyn galluogi unigolion i gynnal eu hannibyniaeth yn eu cartref.

Pa waith y mae hwn yn ei gynnwys?

Gellir defnyddio’r Grant Cyfleusterau i’r Anabl am addasiadau ac offer sy’n ofynnol er mwyn galluogi unigolyn i gynnal eu hannibyniaeth yn eu cartref, neu er mwyn sicrhau y gallant gael cymorth cywir gan ofalwr.

Mae Grant Cyfleusterau i’r Anabl dewisol ar gael am waith canolig i addasu eiddo i fod yn addas i anghenion penodol unigolyn anabl sy’n byw yn yr eiddo.  Cynigir cymorth er mwyn:

  • Hwyluso mynediad
  • Cynnig cyfleusterau addas
  • Sicrhau bod adeilad yn ddiogel i’w ddefnyddio
  • Gwneud gwelliannau amgylcheddol er mwyn galluogi’r unigolyn anabl i fyw yn eu cartref yn ddiogel.

Mae gwaith canolig yn cynnwys (ond nid yw wedi’i gyfyngu i hyn):

  • Cawodydd mynediad gwastad
  • Lifftiau grisiau
  • Rampiau (rampiau cymedrol lle nad oes gofyn cael caniatâd Rheoli Adeiladu a Chynllunio)

Mae’r uchod yn rhai enghreifftiau yn unig o’r hyn y gellir defnyddio’r grant ar ei gyfer.

Bydd angen i argymhellion Therapydd Galwedigaethol gyd-fynd â phob cais.  Dylech gysylltu â’r Therapydd Galwedigaethol yn y lle cyntaf, er mwyn iddynt allu cynnal asesiad llawn o’ch anghenion.  Ffoniwch 01545 574000 i wneud ymholiadau.

Pwy fydd yn gymwys?

Bydd unrhyw un y bydd Therapydd Galwedigaethol yn barnu bod gofyn iddynt gael gwaith cymwys, yn gallu gwneud cais am y grant.  Gallwch fod yn denant neu’n berchennog eiddo, ond os ydych chi’n denant, bydd angen i chi sicrhau caniatâd y landlord i gyflawni’r gwaith.

Rhaid bod tenantiaid a pherchnogion yn bwriadu byw yn yr eiddo trwy gydol cyfnod yr amodau grant (10 mlynedd) ac mae’n rhaid i landlordiaid gytuno y gall y tenant aros, yn ogystal â chytuno i’r gwaith.

Faint fyddaf yn ei gael?

Uchafswm y grant a roddir fydd £36,000.  Mae hyn yn cynnwys unrhyw waith, costau offer, taw os bydd yn berthnasol, a’r holl ffioedd sy’n gysylltiedig â’r gwaith (megis ffioedd gweinyddu, trefnu neu ffioedd asiant).  Pennir swm y grant gan yr adran, a bydd yn dibynnu ar ddyfynbrisiau a gaiff eu sicrhau, yn ogystal ag unrhyw ffioedd y bydd angen i chi eu talu efallai.  Bydd angen i chi aros am hysbysiad o’r dyfarniad grant cyn cychwyn ar unrhyw waith.  Telir am y gwaith ar ôl cael Anfoneb, ac fel arfer, anfonir y taliad i’r contractwr yn syth, ar ôl cynnal archwiliad.

Sut fyddaf yn trefnu’r gwaith?

Mae gan yr Awdurdod Lleol wasanaeth goruchwylio er mwyn helpu ymgeiswyr i wneud cais am y grant.  Bydd y gwasanaeth goruchwylio yn mesur yr eiddo er mwyn paratoi cynllun gwaith, gan gynnwys lluniadau yn ôl yr angen, gan sicrhau dyfynbrisiau ar gyfer y gwaith, gan gynnwys ar gyfer offer arbenigol, gan ddelio ag unrhyw faterion wrth iddynt godi.  Byddant yn eich helpu i lenwi’r ffurflen gais a delio â’r wybodaeth ariannol y bydd angen i chi ei darparu efallai.

Amodau’r grant, gan gynnwys ad-dalu;

  • Mae’r Cyngor yn cynghori bod y grant hwn ar gael trwy gyfrwng gwasanaethau gwasanaeth goruchwylio Mewnol Addasiadau’r Cyngor.
  • Ni fydd unrhyw amodau ad-dalu ynghlwm wrth y grant hwn.

Mewn achosion lle y ceir amheuaeth o dwyll neu ddichell – Polisi yr awdurdod yw canlyn, nodi ac ymchwilio i achosion lle y ceir amheuaeth o dwyll a dichell mewn ffordd weithredol.