Eich Dyfodol, Eich Barn
I siarad gyda’r cyngor, plîs ffoniwch 01545 570881
E-bost: gt@ceredigion.gov.uk
Neu gallwch alw mewn i un o swyddfeydd y Cyngor

O dan Ran 3 o Ddeddf Tai (Cymru) 2014 mae’n ofynnol i awdurdodau lleol gynnal asesiad llety Sipsiwn a Theithwyr a darparu safleoedd ar eu cyfer os yw’r asesiad yn dangos bod angen nas diwallwyd am leiniau i gartrefi symudol. Felly, rydym ni angen siarad ag aelodau o’r gymuned Sipsiwn, Teithwyr a Siewmyn teithiol i weld a oes angen llain breswyl, tŷ neu safle tramwy ar eich teulu.

Mae Adran 108, Deddf Tai (Cymru) 2014 yn diffinio Sipsiwn a Theithwyr fel:

Personau sy’n arfer ffordd nomadig o fyw, beth bynnag fo’u hil neu eu tarddiad, gan gynnwys:

  • personau sydd, ar sail eu hanghenion addysg, eu hanghenion iechyd neu eu henaint eu hunain, neu anghenion addysg, anghenion iechyd neu henaint eu teulu neu ddibynnydd, ac ar y sail honno yn unig, wedi rhoi’r gorau i deithio dros dro neu yn barhaol; a
  • aelodau o grŵp trefnedig o siewmyn teithiol neu bersonau sy’n rhan o syrcasau teithiol (pa un a ydynt yn cyd-deithio mewn grŵp o’r fath ai peidio); a
  • unrhyw bersonau eraill sydd â thraddodiad diwylliannol o nomadiaeth neu o fyw mewn cartref symudol

Mae’r asesiad i fod i gael ei gynnal pob pum mlynedd ond mae Cyngor Ceredigion yn cynnal un yn gynharach mewn cysylltiad â datblygu’r Cynllun Datblygu Lleol (LDP).

Hoffwn ni siarad gyda chymaint o deuluoedd ac unigolion â phosib cyn y 12fed o Dachwedd 2019 er mwyn cynhyrchu gwerthusiad trwyadl o’r angen yng Ngheredigion. Bydd y wybodaeth a gaiff ei chasglu o’r arolwg yn cael ei defnyddio i ddynodi faint o leiniau sydd angen o fewn y sir nawr ac yn y dyfodol. Bydd unrhyw wybodaeth bersonol a gaiff ei chasglu yn cael ei chadw o dan ein hysbysiad preifatrwydd sydd ar gael ar ein gwefan: Hysbysiad Preifatrwydd.

Bydd y GTAA yn dilyn y canllawiau statudol a gyflwynwyd gan Llywodraeth Cymru sydd ar gael yma: Cynnal asesiadau o anghenion llety sipsiwn a theithwyr: canllawiau.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau pellach am yr asesiad, neu os hoffech chi gymryd rhan yn yr arolwg, e-bostiwch gt@ceredigion.gov.uk neu ffoniwch 01545 570881.