Llawlyfr, Taflenni Ffeithiau a Chysylltiadau

Croeso i Gynllun Taliadau Uniongyrchol - Taflen Croeso Cyflogwyr

Llawlyfr a Phecyn Cychwynnol Cynorthwyydd Personol

Rheoli Eich Taliadau Uniongyrchol

Health & Safety Checklist

 

Beth yw Taliadau Uniongyrchol?

Ar ôl i chi gael eich asesu fel rhywun sy’n gymwys i gael gwasanaethau gofal cymunedol gan Ofal Cymdeithasol, gallwn drefnu gwasanaethau ar eich cyfer neu gallwch ddewis cael symiau ariannol i drefnu’r gwasanaethau dros eich hun yn rhannol neu’n llawn.  Gelwir hwn yn Daliad Uniongyrchol a bydd yn rhoi mwy o hyblygrwydd, rheolaeth a dewis i chi o ran y gofal yr ydych yn ei gael, gan ganiatáu i chi fyw bywyd mor annibynnol ag y bo modd.

Gellir defnyddio Taliadau Uniongyrchol i fodloni anghenion tymor byr neu dymor hir, ond dim ond er mwyn cyflawni canlyniadau lles a nodir yng nghynllun gofal a chymorth unigolyn.

Os ydych chi’n credu y gallai Taliadau Uniongyrchol fod yn addas ar gyfer rhai o’ch anghenion gofal ond nid eraill, gallwch gael cymysgedd o Daliadau Uniongyrchol a rhai gwasanaethau a drefnir gennym ni.

Nid yw Taliadau Uniongyrchol yn fudd gan yr Adran Gwaith a Phensiynau ac ni fyddant yn effeithio ar eich hawl i gael budd-daliadau o’r fath ac ni chânt eu dosbarthu at ddibenion treth.

Pwy sy’n gallu cael Taliadau Uniongyrchol?

Gellir cynnig Taliadau Uniongyrchol i bron unrhyw un yr aseswyd eu bod yn gymwys i gael gwasanaethau gofal cymunedol.  Ar ôl yr asesir bod gofyn i chi gael gwasanaethau gofal cymunedol, bydd gan yr aseswr ddyletswydd i gynnig Taliad Uniongyrchol i chi.

Yn ogystal, gellir talu Taliadau Uniongyrchol i unigolyn addas arall y gallant weithredu ar ran yr unigolyn y mae gofyn iddynt gael gofal gan gynnwys oedolion sydd â chyfrifoldeb rhiant dros blentyn sydd ag anableddau.

Beth allaf i ddefnyddio’r Taliadau Uniongyrchol ei dalu amdano?

Dim ond er mwyn prynu’r gwasanaethau yr aseswyd bod eu hangen arnoch ac a nodir yn eich Cynllun Gofal a Chymorth y byddwch yn gallu defnyddio’r arian a roddir i chi, er enghraifft:

  • Er mwyn cyflogi rhywun yn uniongyrchol i’ch helpu gyda’ch gofal (Cynorthwyydd Personol)
  • Er mwyn prynu gofal gan asiantaeth gofal gofrestredig phreifat
  • Er mwyn gwneud eich trefniadau eich hun yn lle defnyddio gofal dydd Gofal Cymdeithasol neu ofal seibiant
  • Er mwyn prynu offer

Beth na ellir eu defnyddio i dalu amdano?

Ni ellir defnyddio Taliadau Uniongyrchol i brynu gofal a chymorth nas nodwyd yn y cynllun gofal a chymorth unigol, ac ni ellir eu defnyddio yn y ffyrdd canlynol ychwaith:

  • prynu unrhyw wasanaethau gan yr Awdurdod Lleol, gan nas caniateir i Awdurdodau Lleol werthu eu gwasanaethau fel hyn
  • Bodloni anghenion gofal iechyd. Bydd hyn yn cynnwys gwasanaethau a ddarparir gan Gyllid Gofal Iechyd Parhaus (Cyllid GIP) hefyd.
  • Gwasanaethau Tai

Beth mae rheoli Taliadau Uniongyrchol yn ei gynnwys?

Os byddwch yn penderfynu cael Taliadau Uniongyrchol, byddwch yn gyfrifol am:

  • Ddefnyddio’r arian i dalu am yr help yr ydym wedi cytuno bod ei angen arnoch yn unig
  • Cadw cofnodion er mwyn dangos y gwariwyd yr arian yn y ffordd gywir
  • Os byddwch yn dewis cyflogi rhywun fel Cynorthwyydd Personol, bydd gennych chi yr holl gyfrifoldebau arferol sydd gan gyflogwr. Fodd bynnag, mae help a chymorth gyda hyn

Faint o arian y byddaf yn ei gael?

Bydd y swm ariannol y byddwch yn ei gael yn dibynnu ar faint o gymorth a pha gymorth y mae ei angen arnoch.  Bydd eich Cynllun Gofal a Chymorth yn nodi faint o gymorth y mae ei angen arnoch bob wythnos a nodir y swm a delir i chi yn Atodiad 1, a ddosbarthir gyda’r Cytundeb Taliad Uniongyrchol.

A fydd yn rhaid i mi gyfrannu i’r gost?

Efallai y gofynnwyd i chi dalu rhywfaint o gost eich gofal.  Bydd hyn yn dibynnu ar fath y gofal yr aseswyd bod angen i chi ei gael, ac fe allai ddibynnu ar eich incwm a’ch cynilion hefyd.  Os bydd yn rhaid i chi dalu, bydd hwn yr un swm, os ydych yn cael Taliadau Uniongyrchol neu’n dewis ein bod ni yn trefnu gwasanaethau.

Bydd eich aseswr yn gallu gofyn am asesiad ariannol er mwyn i chi weld pa gost (os o gwbl) y bydd yn rhaid i chi ei dalu tuag at eich gofal.

A fyddaf yn cael fy nghynorthwyo i reoli fy Nhaliadau Uniongyrchol?

O 1 Ebrill 2021, bydd gan Gyngor Sir Ceredigion dîm mewnol o’r enw’r Gwasanaeth Cymorth Taliadau Uniongyrchol, a fydd yn darparu help a chymorth am ddim i unrhyw un sy’n penderfynu gwneud cais am Daliadau Uniongyrchol.  Bydd y staff sydd wedi cael hyfforddiant proffesiynol yn rhoi gwybodaeth, cymorth a help ymarferol i chi wrth recriwtio a chyflogi staff, talu cyflogau a helpu gyda thaliadau treth ac Yswiriant Gwladol.

Efallai y byddwch yn cael help gan deulu a ffrindiau hefyd.

Os byddwch yn dewis cyflogi cynorthwyydd personol, mae’r Cyngor Gofal wedi datblygu pecyn cymorth ar-lein sy’n cynnig arweiniad, enghreifftiau o arfer ac offer ymarferol.  Bydd hyn yn eich galluogi i gynorthwyo eich cynorthwyydd personol i feithrin y sgiliau y bydd eu hangen arnynt er mwyn bod yn hyderus ac yn gymwys yn eu rolau.

Gallwch droi at y pecyn cymorth trwy ymweld â www.paemployertoolkit.wales

Beth os bydd fy anghenion yn newid?

Os bydd eich anghenion yn newid, bydd angen eich asesu eto i weld a fydd angen newid eich Taliadau Uniongyrchol hefyd.

Neu, os byddwch yn darganfod nad ydych chi’n dymuno cael Taliadau Uniongyrchol mwyach, gallwch ofyn bod eich gwasanaethau yn cael eu trefnu gan Ofal Cymdeithasol yn lle hynny.

A oes modd i mi wneud cais?

Os ydych chi’n mynd trwy’r broses o gael eich anghenion wedi’u hasesu gan Ofal Cymdeithasol ar hyn o bryd, holwch yr aseswr am Daliadau Uniongyrchol, neu fel arall, bydd angen i chi gysylltu â Phorth Gofal i ofyn am asesiad o’ch anghenion.  Gellir cysylltu â nhw fel a ganlyn:

01545 574000
contact-socservs@ceredigion.gov.uk

Argyfyngau

Os bydd angen help arnoch ar frys y tu allan i amseroedd agor Porth Gofal, cysylltwch â’n Tîm Argyfyngau y tu allan i Oriau Swyddfa ar: 0300 4563554

Mae taflenni eraill sy’n nodi manylion y gwahanol wasanaethau a gynigir gan Ofal Cymdeithasol Ceredigion ar gael trwy ofyn i’r Porth Gofal.  Am wybodaeth bellach, ffoniwch: 01545 574000

DBS / Recriwtio Diogel – Taliadau Uniongyrchol

Yn unol â’n dyletswydd i sicrhau diogelwch grwpiau agored i niwed sy’n cael gwasanaeth gan y Cyngor ac yn y gymuned ehangach, mae gan y Cyngor ddyletswydd i sicrhau addasrwydd pawb y mae’n eu cyflogi ac yn eu hwyluso ym mha bynnag gapasiti.  Mae’r Polisi DBS/Recriwtio Diogel hwn yn nodi’r prosesau a’r safonau y mae’r Cyngor wedi eu cymeradwyo er mwyn sicrhau y caiff y ddyletswydd hon ei chyflawni.

Mae’r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn sefydliad cenedlaethol sy’n chwilio cofnodion yr heddlu ac mewn achosion perthnasol, gwybodaeth ar y rhestr waharddedig, er mwyn asesu a yw hi’n ddiogel ac yn briodol cyflogi ymgeiswyr.

Bydd Cyngor Ceredigion a’r Gwasanaeth Cymorth Taliadau Uniongyrchol yn cydymffurfio’n llawn gyda Chod Ymarfer DBS ynghylch trin, defnyddio, storio;  cadw a gwaredu tystysgrifau DBS a gwybodaeth am dystysgrifau mewn ffordd gywir.

Gwahanol fathau o archwiliadau DBS

Mae DBS yn cynnig gwahanol fathau o archwiliadau dan Ddeddf yr Heddlu 1997. Mae Rôl Cynorthwyydd Personol Taliad Uniongyrchol (gan gynnwys aelodau teuluol) wedi cael ei nodi fel rôl y mae gofyn cael archwiliad DBS Gwaharddedig Estynedig ar ei gyfer.
Yn ogystal, mae gofyn i bob Unigolyn Addas gael archwiliad DBS Gwaharddedig Estynedig yn unol â Rheoliadau Gofal a Chymorth (Taliadau Uniongyrchol) (Cymru) 2015.
Bydd Cyngor Sir Ceredigion yn talu cost eich archwiliad DBS a bydd yn gweinyddu’r archwiliad DBS trwy system ar-lein Cyngor Powys.

Eich rhwymedigaethau

Rhaid i ni sicrhau bod gennym yr hawl gyfreithiol i ofyn i unigolyn wneud cais am Ddatgeliad.

Er mwyn bod yn gymwys am archwiliad DBS Gwaharddedig Estynedig, rhaid bod y swydd wedi cael ei chynnwys yng Ngorchymyn Eithriadau Adsefydlu Troseddwyr (ROA) ac yn Rheoliadau Deddf yr Heddlu.

Mae’n drosedd i unigolyn gwaharddedig weithio, neu wirfoddoli, mewn gweithgarwch a reoleiddir ac mae’n drosedd i gyflogwr gyflogi unigolyn gwaharddedig (naill ai am dâl neu i wneud gwaith gwirfoddol) mewn gweithgarwch a reoleiddir.

Bydd y Gwasanaeth Cymorth Taliadau Uniongyrchol yn cynorthwyo wrth sicrhau y cynhelir yr holl archwiliadau o’r fath yn unol â’r Polisi DBS.

Sut y caiff archwiliadau DBS eu prosesu

Cynhelir archwiliadau DBS gan Gyngor Ceredigion ar ran Defnyddwyr y Gwasanaeth Taliadau Uniongyrchol trwy gyfrwng cyfleuster E-bulk Cyngor Sir Powys, a weinyddir gan Uned DBS Cyngor Sir Powys.

Mae’r cyfleuster E-Bulk ar-lein yn galluogi’r ymgeisydd i lenwi ffurflen gais DBS yn electronig, gan anfon y ffurflen a gwblhawyd ar-lein yn uniongyrchol at DBS.

Mae Cyngor Sir Powys yn Gorff Cofrestredig gyda’r DBS Cenedlaethol, sy’n eu galluogi i brosesu tua 22,000 o geisiadau DBS y flwyddyn ar gyfer eu cyflogeion eu hunain a sefydliadau allanol sydd wedi cofrestru i ddefnyddio eu gwasanaeth, gan gynnwys Cyngor Ceredigion.

Gellir gweld gwybodaeth bellach am y polisi Preifatrwydd ar gyfer ymgeiswyr Datgeliad Estynedig ar wefan CS Powys.

Gwybodaeth bellach am system E-bulk

Mae E Bulk yn system ar-lein ddiogel, archwiliadwy ac wedi’i hamgryptio yn llawn, gyda threfniant awtomeiddio i ddilysu’r data a gofnodir.

Mae system E bulk yn ddull llawer cyflymach na dull y cais papur traddodiadol, gyda 90% o archwiliadau DBS Safonol yn cael eu dychwelyd cyn pen 24 awr a 90% o archwiliadau DBS Estynedig yn cael eu dychwelyd cyn pen 4 diwrnod, mewn cyferbyniad â’r ceisiadau papur, sy’n gallu cymryd hyd at 6 – 8 wythnos.

O ganlyniad i’r ffaith ei bod yn llawer cyflymach i gynnal archwiliadau prosesu, mae’r oedi yn y broses recriwtio yn cael ei leihau gymaint ag y bo modd, a bydd cyflogeion yn gallu cychwyn cyflogaeth heb unrhyw oedi dianghenraid.

Mae’r system yn galluogi ymgeiswyr i olrhain eu cais am archwiliadau safonol ac estynedig a bydd yn anfon negeseuon awtomataidd o system E Bulk i reolwyr pan na fydd eu staff wedi llenwi eu ffurflen gais ar-lein, ac i ymgeiswyr am beidio llenwi ffurflenni.

Sut fydd ymgeisydd yn gwybod bod angen archwiliad DBS a pham?

Mae disgrifiadau swydd yn darparu gwybodaeth ddigonol ynghylch y dyletswyddau a’r tasgau sy’n cyfateb â gweithgarwch “a reoleiddir” ac felly, y mae gofyn cynnal archwiliad mewn perthynas â nhw.

Os yw’r swydd yn un sy’n mynnu bod yr archwiliad yn cael ei adnewyddu yn rheolaidd, nodir hyn yn glir yn y disgrifiad swydd a’r hysbyseb.

O 1 Mawrth 2022, efallai y bydd modd i unigolyn y mae eisoes wedi bod yn destun archwiliad DBS Estynedig ar gyfer eu dyletswyddau fel Cynorthwyydd Personol ac sy’n gwneud cais am rôl Cynorthwyydd Personol ychwanegol wedi hynny, i ‘drosglwyddo’r’ archwiliad DBS i’w rôl newydd neu ychwanegol.

Fodd bynnag, efallai y bydd gofyn i’r Cynorthwyydd Personol gael archwiliad DBS pellach gan ddibynnu ar y ffactorau canlynol:

  • Os yw eu rôl newydd yn cynnwys cyfrifoldebau ychwanegol sylweddol,
  • Os bydd y gweithlu y maent yn gweithio gyda nhw yn eu rôl newydd yn newid o’r hyn a nodwyd yn eu harchwiliad blaenorol.
  • Os bydd natur y dyletswyddau yn neilltuol o wahanol i ddyletswyddau blaenorol

Mae’n bosibl i Gynorthwywyr Personol gofrestru ar ‘Gofrestr CP’ ar yr adeg pan fyddant yn gwneud cais am rôl Cynorthwyydd Personol.  Gall ymgeiswyr gofrestru i weithio mewn gweithlu Oedolion, gweithlu Plant neu weithlu Plant ac Oedolion.  Yna, bydd hyn yn pennu ym mha weithlu y cynhelir yr archwiliad DBS ac yn ei dro, bydd yn berthnasol er mwyn ‘trosglwyddo i rolau CP ychwanegol.

Pa fath o DBS y bydd gofyn ei gael?

Pan fydd swydd yn mynnu bod unigolyn yn cymryd rhan mewn gweithgarwch a reoleiddir gyda phlant neu oedolion agored i niwed yn rheolaidd, bydd angen pennu’r gofyniad am archwiliad Safonol neu Estynedig.  Oherwydd y byddai rôl CP yn cynnwys gweithgarwch a reoleiddir yn gyffredinol, mae CSC wedi penderfynu y bydd gofyn cael archwiliad DBS Gwaharddedig Estynedig ar gyfer pob rôl CP.

Beth yw Gweithgarwch a Reoleiddir?

Nodir y diffiniad cyfreithiol llawn o weithgarwch a reoleiddir yn Atodlen 4 Deddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 2006, fel y’i diwygiwyd gan Ddeddf Diogelu Rhyddid 2012. Nid yw gweithgarwch a reoleiddir yn cynnwys trefniadau teuluol, a threfniadau personol, anfasnachol.

Fodd bynnag, perthnasoedd personol, anfasnachol yw trefniadau lle na chaiff arian ei gyfnewid neu ni fydd unrhyw arian a gaiff ei gyfnewid yn rhan o berthynas fasnachol (er enghraifft rhoi arian i ffrind brynu petrol ar ôl iddynt eich gyrru i’r ysbyty), a chaiff y trefniant ei wneud rhwng ffrindiau neu ffrindiau teuluol.

Os bydd y CP yn cael taliad yn gyfnewid am wasanaethau, bydd hynny yn mynd â’r berthynas y tu allan i berthnasoedd teuluol/perthnasoedd personol anfasnachol a bydd yn ei gwneud yn un fasnachol, hyd yn oed os yw’r CP yn perthyn i Dderbynnydd y Taliad Uniongyrchol.

Pa fath o ddogfennaeth fydd ei hangen er mwyn cwblhau archwiliad

Bydd gofyn i chi ddarparu tair eitem o ddogfennaeth er mwyn cadarnhau eu manylion personol yn unol â’r rhestr a gyhoeddwyd gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd, y gellir ei gweld yma

Datgeliadau anffafriol a sut y rhoddir sylw iddynt

Os ceir ymateb anffafriol gan wasanaeth DBS ar ran cyflogai yn dilyn archwiliad, bydd yr adran AD yn cysylltu â’r Arweinydd Tîm a’r Cydlynydd CP yn y Gwasanaeth Cymorth Taliadau Uniongyrchol, a bydd gofyn iddynt drefnu cyfarfod gyda’r Ymgeisydd am rôl Cynorthwyydd Personol i drafod y datgeliad anffafriol er mwyn pennu a fydd penodiad yr ymgeisydd yn mynd yn ei flaen neu’n cael ei dynnu yn ôl.

Bydd gofyn i Arweinydd y Tîm a’r Cydlynydd CP weld y dystysgrif DBS a roddwyd i’r ymgeisydd a llenwi ‘Ffurflen DBS Anffafriol’.

Wrth wneud penderfyniadau cyflogaeth diogel, bydd Arweinydd y Tîm a’r Cydlynydd CP yn trafod gyda’r Tîm Gofal Cymdeithasol er mwyn gwneud asesiadau gwrthrychol ac er mwyn mabwysiadu meddwl agored a chanolbwyntio ar haeddiant a’r gallu i gyflawni’r swydd.

Dylid ystyried perthnasedd oedran yr euogfarnau neu’r rhybuddion a’r amgylchiadau, y dyddiadau, natur a pherthnasedd y drosedd, yr amlder/patrymau a’r risgiau posibl a fyddai’n codi wrth gyflogi’r unigolyn ac, a fyddai modd rheoli’r rhain mewn ffordd synhwyrol ac effeithiol.

Bydd yr Arweinydd Tîm a’r Cydlynydd CP yn trafod y DBS Anffafriol gyda’r Cwmni Yswiriant Atebolrwydd Cyflogwr (ELI) er mwyn sicrhau na fyddai unrhyw benderfyniad i benodi yn effeithio ar y sicrwydd ELI.  Yna, bydd Arweinydd y Tîm a’r Cydlynydd CP yn cyfeirio at y Rheolwr Corfforaethol perthnasol yn y Tîm Gofal Cymdeithasol a’r Rheolwr Corfforaethol dros Wasanaethau Tymor Byr ac wedi’u Targedu a bydd yn rhaid gwneud penderfyniad addas ynghylch a ddylid penodi neu beidio.

Dylai unrhyw benderfyniadau fod yn gymesur ac yn berthnasol i euogfarnau/rhybudd mwy difrifol ac a ydynt yn wedi’u disbyddu neu heb eu disbyddu wrth weithio gyda grwpiau agored i niwed o blant a/neu oedolion, a bydd yn rhaid cofnodi’r penderfyniad ar y ‘Ffurflen DBS Anffafriol’.

Yna, bydd angen i’r Rheolwr Corfforaethol perthnasol yn y Tîm Gofal Cymdeithasol a’r Rheolwr Corfforaethol dros Wasanaethau Tymor Byr ac wedi’u Targedu awdurdodi’r ‘Ffurflen DBS Anffafriol’ a lanwyd.

Cofnodir pob penderfyniad a wneir ac os caiff cynnig ei dynnu’n ôl, caiff hyn ei gadarnhau i’r Ymgeisydd am swydd CP gan Arweinydd y Tîm a’r Cydlynydd CP.

Adnewyddu DBS

Llywodraethir amlder archwiliadau DBS ar gyfer rhai rolau gan statud a gofynion cofrestru penodol.

Mae gofyn i Gynorthwywyr Personol adnewyddu eu harchwiliad DBS bob 3 blynedd, a nodir y gofyniad hwn yn glir yn nisgrifiad Swydd y cyflogai.

Mae’r broses o adnewyddu DBS fel a ganlyn:

  • Cam 1 – Byddwch yn cael cais mewn neges e-bost i adnewyddu eich DBS, ac yn rhan fwyaf yr amgylchiadau, bydd yn darparu dolen i chi i’n system DBS ar-lein er mwyn i chi allu llenwi ffurflen gais ar-lein.
  • Cam 2 – Dylech lenwi a chyflwyno cais ar-lein.  Anfonwch ddogfennaeth bersonol berthnasol at adnoddau dynol (dolen i Ddogfennau Adnabod).
  • Cam 3 – Ar ôl i’r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd brosesu eich cais am DBS, byddwch yn cael tystysgrif newydd gan DBS.  Dylech sicrhau eich bod yn cadw’r wybodaeth hon yn ddiogel.

Gofynion y Cynllun Datgelu a Gwahardd ar gyfer Taliadau Uniongyrchol yng Ngheredigion

Cynorthwyydd Personol
(gan gynnwys CP sy’n Aelod o’r Teulu)
Unigolyn Addas Rhiant/Gwarcheidwad a fydd yn cael y taliad uniongyrchol ar ran yr unigolyn
(neu unrhyw un mewn ‘perthynas deuluol neu berthynas bersonol’ â derbynnydd y taliad uniongyrchol)
Gorfodol
(i’w adnewyddu bob 3 blynedd)
Archwiliad DBS Gwaharddedig Estynedig
Gorfodol
(i’w adnewyddu bob 3 blynedd)
Archwiliad DBS Gwaharddedig Estynedig
Nid yw’n ofynnol

Gall gwasanaethau eiriolaeth helpu mewn sefyllfaoedd pan fyddwch yn teimlo na allwch chi ddelio gyda phopeth ar eich pen eich hun.  Mae eiriolwyr yn annibynnol ac nid ydynt yn barnu.  Gall eiriolwr fod yn gymydog, yn berthynas, yn ffrind neu’n rhywun o fudiad gwirfoddol – unrhyw un a fydd yn eich helpu i godi eich llais a sicrhau bod eich safbwyntiau a’ch dymuniadau yn cael eu hystyried.

Mae gwasanaethau Eiriolaeth ar gael a phan fo modd, efallai y byddwn yn trefnu bod rhywun yn eich helpu i gyfleu eich pwynt yn ystod eich cyswllt gyda ni os na fyddwch chi yn gallu gwneud hyn eich hun ac os nad oes gennych chi deulu neu ffrindiau i’ch helpu.

Gall Cyngor ar Bopeth gynnig cyngor am amrediad o faterion ac mewn rhai amgylchiadau, gallant gynnig cymorth eiriolaeth.  Ffoniwch Cyngor ar Bopeth ar 01239 621974 neu’r Linell Gyngor:  03444 772020

www.cabceredigion.org

Mae People First yn cynnig Gwasanaeth Eiriolaeth i bobl sydd ag Anabledd Dysgu:  01970 625656

Mae Eiriolaeth Gorllewin Cymru yn cynnig Gwasanaeth Eiriolaeth Annibynnol y Ddeddf Iechyd Meddwl (IMHA) i bobl yn y gymuned ac i gleifion anffurfiol yn Ward Morlais, Ysbyty Glangwili, Caerfyrddin.  Ffoniwch:  01437 762935

www.advocacywestwales.org.uk neu admin@advocacywestwales.org.uk

Mae Tros Gynnal yn cynnig gwasanaethau eiriolaeth i blant a phobl ifanc er mwyn sicrhau y perchir eu hawliau ac y clywir eu lleisiau

RHADFFÔN I BOBL IFANC:  0808 168 2599 neu anfonwch NEGES DESTUN at: 07788 408562

Mae SNAP Cymru yn darparu gwasanaeth eiriolaeth annibynnol hefyd o’r enw “AMDANAF I”.  Gallant gynnig gwybodaeth, cyngor, eiriolaeth, cynrychiolaeth a chymorth i blant a phobl ifanc sydd ag Anghenion Dysgu Ychwanegol, gan gynnwys Anghenion Addysgol Arbenigol ac anabledd.

www.snapcymru.org

0845 1203730 (Llinell Gymorth) neu anfonwch e-bost at aboutme@snapcymru.org