Caiff Fforwm 50+ Ceredigion ei gadeirio gan Eiriolwr dros Bobl Hŷn Ceredigion, y Cynghorydd Catherine Hughes ac mae’n cynnwys cynrychiolwyr etholedig o bob un o’r prif drefi yng Ngheredigion a’r ardaloedd cyfagos. Mae’r grŵp yn cyfarfod bob 3 mis i drafod ardaloedd o angen o fewn y sir.

Yn ogystal â’r cyfarfodydd hyn, mae fforwm agored yn cael ei gynnal unwaith y flwyddyn sy’n cynnig croeso cynnes i’r holl bobl sydd dros 50 yng Ngheredigion, ynghyd â chynrychiolwyr o grwpiau cyfeillgarwch a sefydliadau o fewn y sir. Mae hyn yn darparu cyfle delfrydol i adnabod ffyrdd o gyfoethogi ein cymunedau ymhellach a darganfod beth sy’n digwydd yng Ngheredigion i gefnogi pobl sydd dros 50 oed.

Mae rhwydwaith wybodaeth yn cael ei baratoi ar hyn o bryd a fydd yn cynnwys cyfeiriadur o wasanaethau yn y Sir. Cysylltwch â ni os hoffech i’ch grŵp neu sefydliad gael ei gynnwys yn y cyfeiriadur hwn.

Am ragor o wybodaeth neu os hoffech gysylltu â’ch cynrychiolydd 50+ lleol, ffoniwch Naomi McDonagh (Cydlynydd Strategaeth 50+) neu Diane Davies (Swyddog Lles Cymunedol ac Ymgysylltu 50+) ar 01545 572105 neu e-bostiwch naomi.mcdonagh@ceredigion.gov.uk / diane.davies2@ceredigion.gov.uk

Logo Ceredigion 50+Ceredigion 50+

Cadw’n Heini

Mae chwe chanolfan hamdden yng Ngheredigion sy’n cynnig amrywiaeth o gyfleusterau, dosbarthiadau a phecynnau aelodaeth:

Aberaeron - www.ceredigionactif.org.uk/aberaeron

Aberystwyth - www.ceredigionactif.org.uk/plascrug

Aberteifi - www.ceredigionactif.org.uk/cardigan

Llambed - www.ceredigionactif.org.uk/lampeter

Llandysul - Calon Tysul - www.calontysul.cymru

Tregaron - www.ceredigionactif.org.uk/tregaron

Cynllun Atgyfeirio i Wneud Ymarfer Corff

Os nad ydych chi wedi arfer ag ymarfer corff yn rheolaidd a bod gennych ryw afiechyd neu salwch, gallech fod yn gymwys i gymryd rhan yn y cynllun hwn, sydd â’r nod o roi cyfle i bobl wneud ymarfer corff, cael hwyl a budd ohono, a manteisio arno yn eu bywydau beunyddiol.

Am fwy o wybodaeth am y cynllun a sut i hawlio fe, ymweld â'r wefan Ceredigion Actif - Cynllun Atgyfeirio Cleifionf.

Cerdded

Cerdded yw’r ffordd rwyddaf o gadw’n heini ac yn iach, ac i golli pwysau. Fe ddewch chi o hyd i fwy o wybodaeth ar y wefan NHS Walking for Health.

Os hoffech chi gymdeithasu rywfaint wrth gerdded, mae gan Gymdeithas y Cerddwyr sawl grŵp yng Ngheredigion – fe gewch chi fwy o wybodaeth ar y wefan www.ramblers.org.uk

Gwirfoddoli

Gall gwirfoddoli fod yn ffordd ardderchog o gadw’n weithgar, cwrdd â phobl newydd a helpu eraill. Fel arfer does arnoch ddim angen unrhyw sgiliau arbennig i wirfoddoli, ond wrth gofrestru gydag asiantaeth gwirfoddoli byddant yn trafod hyn gyda chi.

Mae Cymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Ceredigion (CAVO) yn darparu gwasanaeth i bobl sydd â diddordeb mewn gwirfoddoli.

Cyfeiriad: Bryndulais, Heol y Bont, Llanbedr Pont Steffan, SA48 7AB

Rhif ffôn: 01570 423232

I gael mwy o wybodaeth am wirfoddoli ewch i'r wefan www.wcva-ids.org.uk.