Cynllun peilot a ariennir gan Lywodraeth Cymru ac a luniwyd yn sgil y rhaglen drawsnewid i integreiddio’r Blynyddoedd Cynnar yw’r Rhaglen Braenaru. Nod y cynllun peilot yw annog pob asiantaeth sy’n ymwneud â rhieni a theuluoedd i weithio mewn ffordd gydlynol, lleihau unrhyw fylchau cyfathrebu, a darparu cymorth o fewn yr awdurdod lleol ar sail gydol oes. Ar hyn o bryd, mae’r Rhaglen Braenaru’n cael ei threialu mewn pum ardal yng Ngheredigion – Aberaeron, y Borth, Cei Newydd, Llambed a Thregaron.

 

Beth ydym ni’n ei wneud?

  • Meithrin cydnerthedd unigolion a chymunedau i sicrhau bod modd i deuluoedd fyw bywydau diogel ac iach sy’n rhoi boddhad, lle gallan nhw fagu eu plant yn llwyddiannus a gwireddu eu potensial yn llwyr. I wneud hyn, rydym yn trawsnewid y ffordd y mae Gwasanaethau’r Blynyddoedd Cynnar yn cael eu darparu, gan gefnu ar wasanaethau sydd wedi’u gwahanu ar sail ffiniau statudol a throi at wasanaethau sy’n seiliedig ar leoedd. O wneud hyn, gallwn ni ddarparu gwasanaethau integredig, a gallwn ni hefyd ddefnyddio model sy’n seiliedig ar gryfderau i wella’r berthynas rhwng sectorau, i ymgysylltu’n well â’r gymuned, ac i greu amgylcheddau diogel a chefnogol.

Sut mae hyn yn gweithio?

  • Bwriedir i’r Rhaglen Braenaru gynorthwyo teuluoedd â phlant 0-7 oed.
  • Pan fydd plentyn yn cael ei eni mewn ardal lle mae’r Rhaglen Braenaru ar waith, neu’n symud i un o’r ardaloedd hyn, bydd bydwraig, ymwelydd iechyd neu weithiwr teuluoedd yn cofrestru’r plentyn gyda’r Rhaglen Braenaru.
  • Os oes angen cymorth ychwanegol ar eich teulu chi, bydd Cydgysylltydd y Tîm o Amgylch y Teulu yn cysylltu â chi i weld pa gymorth y gall ei ddarparu i chi a’ch plentyn.
  • Bydd pob asiantaeth sy’n ymwneud â’r Rhaglen Braenaru yn cydweithio i sicrhau’r canlyniad gorau i chi a’ch plentyn.
  • Ar hyn o bryd, mae’r asiantaethau a ganlyn yn rhan o’r Rhaglen Braenaru – bydwragedd, ymwelwyr iechyd, bydwraig amenedigol, therapyddion lleferydd ac iaith, athrawon ymgynghorol, nyrsys ysgol, swyddog cymorth cymunedol yr heddlu (ymyrraeth y blynyddoedd cynnar), ymarferwyr lleoliadau gofal plant, aelodau o’r awdurdod lleol sy’n darparu cymorth rhianta a chymorth i deuluoedd, athrawon ysgolion lleol, gweithwyr teuluoedd, cydgysylltwyr canolfannau teuluoedd, a phartneriaid yn y trydydd sector.

Pa fath o gymorth gallaf i ei gael?

  • Bydd pob teulu sy’n byw mewn ardal lle mae’r Rhaglen Braenaru ar waith yn gallu mynd ar gyrsiau neu gymryd rhan mewn grwpiau a gynhelir yn y ganolfan deuluoedd leol, a byddan nhw’n cael gwybod am y cyrsiau hynny.
  • Bydd y canolfannau teuluoedd yn cynnal sesiynau gyda Chyngor ar Bopeth ac yn darparu cymorth i’r rheiny sydd am ddychwelyd i’r byd gwaith.
  • Cymorth magu plant a chymorth i deuluoedd drwy sesiynau 1:1 neu grwpiau lleol.
  • Cymorth ag unrhyw oedi sy’n dod i’r amlwg o ran datblygiad plentyn, h.y. anghenion dysgu ychwanegol, lleferydd ac iaith.
  • Cymorth â materion tai.

 

Dolenni at gymorth

 

 

Facebook Logo - Free Vectors & PSDs to Download

 

www.facebook.com/TeuluoeddCeredigionFamilies

 

 

dewis.wales