MIND Aberystwyth

Yn cynnig amrywiaeth o wasanaethau i bobl Ceredigion gan gynnwys gwasanaeth galw heibio.

Cyfeiriad: Mind Aberystwyth, Y Felin, Heol Minafon, Dan Dre, Aberystwyth, SY23 1JB
Ffôn: 01970 626225
Gwefan: mindaberystwyth.org

Monitro Gweithredol Mind

Mae gwasanaeth yn cael ei redeg gan Mind o’r enw ‘Monitro Gweithredol’ lle y gallwch hunan-gyfeirio am gymorth. Mae’n gwrs hunan gymorth dan arweiniad sy’n chwech wythnos o hyd, a gall helpu gydag unrhyw un o’r canlynol: pryder, iselder, hunan-barch, straen, unigrwydd, rheoli dicter ynghyd â galar a cholled.

Gwenfan: https://www.mind.org.uk/cy/supported-self-help-welsh-language

HUTS

Yn darparu cyfleoedd i oedolion â salwch meddwl.

Cyfeiriad: Gweithdy HUTS, Adpar, Castellnewydd Emlyn, SA38 9ED
Ffôn: 01239 710377
Gwefan: www.hutsworkshop.org

Adferiad (oedd â’r enw HAFAL ynghynt)

Mae’n rhoi cymorth i bobl sydd wedi cael eu heffeithio gan salwch meddwl difrifol.

Cyfeiriad: 9 Ffordd Portland, Aberystwyth, Ceredigion, SY23 2NL
Ffôn: 01970 624756
Gwefan: www.adferiad.org

Gwasanaethau a ddarperir

1) Gwasanaeth Noddfa Ceredigion:

  • Gwasanaeth cymorth iechyd meddwl ac argyfwng iechyd meddwl y tu allan i oriau swyddfa ar gyfer pobl 18+ oed, yn 9 Ffordd Portland, Aberystwyth, SY23 2NL
  • Gwefan: Adferiad.org - Gwasanaeth Noddfa Ceredigion
  • Rhif cyswllt: 01970 629 897* (mae modd hunanatgyfeirio) *sylwch, atebir y ffôn yn ystod oriau agor yn unig
  • Ar agor: bod dydd Iau/Gwener/Sadwrn/Sul, 5pm-2am
  • Mynediad i’r Anabl: Oes
  • Cymorth: Dros y ffôn neu wyneb yn wyneb yn adeilad y prosiect
  • Gall gweithwyr proffesiynol atgyfeirio drwy’r ffurflen hon - Saesneg yn unig: Gwefan Adferiad.org - Ceredigion Sanctuary Service - Professional Referral Form

2) Gwasanaeth Noddfa Plant a Phobl Ifanc Ceredigion:

GIG 111 Cymru

Ffoniwch 111 Opsiwn 2 - yn rhedeg 24 awr y dydd, saith diwrnod yr wythnos, gan gynnig gwasanaeth brys a chefnogaeth neu gyfeirio pan fydd angen. Mae’n llinell gymorth iechyd meddwl bwrpasol i Gymru; gan eich darparu wrth wrando’n a’ch cefnogi yn hollol gyfrinachol, a’ch cynorthwyo i gysylltu â chefnogaeth a fydd yn help ac o fudd i chi.

Rhif Ffôn: 111 Opsiwn 2

Gwefan: https://111.wales.nhs.uk/Calling111.aspx?locale=cy&term=A 

Llinell Gymorth Iechyd Meddwl ar gyfer Cymru – Llinell Wrando a Chymorth Cymunedol (C.A.L.L)

Cynnig gwasanaeth gwrando a chymorth cyfrinachol.

Ffôn: 0800 132737

Tecst: ‘Help’ i 81066

Gwefan:  https://www.callhelpline.org.uk/indexW.php

Bipolar UK

Yn darparu ystod o wasanaethau i alluogi pobl sydd wedi eu heffeithio gan salwch deubegynol neu salwch cysylltiedig arall i gymryd rheolaeth dros eu bywydau.

Gwefan: www.bipolaruk.uk

Combat Stress Elusen Iechyd Meddwl ar gyfer Cyn-filwyr

Darparu gwasanaethau i gyn-filwyr sydd wedi eu heffeithio gan salwch meddwl.

Llinell gymorth: 0800 1381619
Ffôn: 01372 587 000 (Prif Swyddfa ymholiadau)

Gwefan: www.combatstress.org.uk

Samariaid

24 awr y dydd, 365 diwrnod y flwyddyn.

Rhif Ffôn: 116 123

Gwefan: https://www.samaritans.org/wales/how-we-can-help/contact-samaritan/

E-bost: jo@samaritans.org

Mae pawb yn dioddef pryder, galar, straen neu iselder ambell waith, ond fel arfer byddwn yn ‘dod at ein coed’ yn weddol gyflym.

I rai pobl gall y teimladau hyn fod yn anarferol o ddwys neu gallant barhau am amser hir a gallant effeithio ar eu gallu i ddelio â gofynion eu bywyd beunyddiol. Hefyd, gall eu hwyliau amrywio’n ofnadwy, gallant deimlo erledigaeth neu glywed lleisiau nad oes neb arall yn eu clywed.

Fel afiechyd corfforol, gall salwch meddwl fod yn gymedrol ac yn hawdd ei drin, neu’n fwy difrifol ac yn anoddach ei drin. Mae sawl math gwahanol o salwch meddwl ac mae pobl wahanol yn ymateb i’w hafiechyd mewn ffyrdd gwahanol, ond mae’r rhan fwyaf o bobl yn gwella o gael y driniaeth a’r gefnogaeth iawn.

Mae’r Tîm Lles Meddyliol o fewn yr Awdurdod Lleol yn gweithio’n agos gyda Thîmau Iechyd Meddwl Cymunedol yng Ngheredigion.

Mae dyletswydd arnom i asesu unrhyw un sy’n ymddangos fel pe baent yn profi anawsterau iechyd meddwl sy’n effeithio ar eu gallu i fyw eu bywydau arferol. Anelwn at sicrhau fod gwasanaethau’n cael eu darparu’n deg a’u bod yn cael eu defnyddio i gefnogi’r bobl sydd yn yr angen mwyaf ac y mae perygl i’w hannibyniaeth.

Sut allaf gael cymorth?

Mae nifer o sefydliadau o fewn y gymuned leol sy’n gallu cefnogi pobl sy’n profi problemau gydag iechyd meddwl a’u perthnasau (gweler ‘Cymorth Arall’). Efallai buasech hefyd yn dymuno siarad â’ch Meddyg Teulu, os ydyw’n teimlo eich bod chi angen cymorth pellach, bydd yn eich atgyfeirio at y Gwasanaeth Iechyd Meddwl Cymunedol.

Os ydych angen cymorth mewn argyfwng, gallwch fynd i’r Adran Damweiniau ac Achosion Brys yn eich ysbyty lleol.

Cymorth Arall

Mae nifer o asiantaethau cenedlaethol a lleol sy’n gallu darparu gwybodaeth a chymorth i bobl sy’n dioddef o salwch meddwl a’u gofalwyr.

Bydd y ddolen isod yn mynd â chi i Dewis Cymru. Cyfeiriadur o wasanaethau yw Dewis Cymru y gall pobl ei ddefnyddio i gael gwybod am y gwasanaethau a’r cyfleoedd sydd ar gael yn lleol ac yn genedlaethol.

Cyfeillio

Gellir cael rhagor o wybodaeth ynglŷn â Dewis yma.