Os ydych yn credu fod plentyn neu oedolyn mewn perygl uniongyrchol, gwnewch rywbeth ar unwaith - ffoniwch 999 a dywedwch wrth y swyddog beth sy'n digwydd.

Amddiffyn plant ac oedolion rhag cael eu cam-drin neu eu hesgeuluso yw Diogelu. Mae hefyd yn fater o sicrhau fod plant ac oedolion yn iach, yn datblygu'n dda ac yn cymryd rhan weithgar a llawn yn eu cymunedau.

Rydym i gyd yn gyfrifol am sicrhau fod plant ac oedolion bregus yn ddiogel.

Mae hyn yn golygu y dylai pob un ohonom wneud yn siŵr ein bod yn gwybod beth yw diogelu a phryd y mae angen i ni wneud rhywbeth i atal camdriniaeth rhag digwydd.

  • Adnabod y gwahanol fathau o gam-drin
  • Adnabod yr arwyddion, y symptomau a'r ymddygiad a allai ddangos bod plentyn neu oedolyn yn cael ei gam-drin neu mewn perygl o gael niwed
  • Deall beth i'w wneud os ydym yn poeni am blentyn neu oedolyn sy'n wynebu risg
  • Deall ein cyfrifoldeb o ran amau neu ddatgelu camdriniaeth
  • Deall ein dyletswydd i roi gwybod am bryder neu ddigwyddiad pan ddown yn ymwybodol ohono

Ffyrdd o drin unigolyn yn wael yw cam-drin ac esgeuluso, boed yn blentyn neu'n oedolyn. Mae'r rhain yn cynnwys:

Cam-drin Corfforol

  • Gall gynnwys taro, ysgwyd, taflu, gwenwyno, llosgi neu sgaldio, boddi, mygu neu achosi unrhyw niwed corfforol i blentyn neu oedolyn

Cam-drin Rhywiol

  • Gorfodi neu ddenu plentyn neu oedolyn i gymryd rhan mewn gweithgaredd rhywiol, p’un a yw’n ymwybodol o'r hyn sy'n digwydd ai peidio. Gall hyn gynnwys:
    • cyswllt corfforol, gan gynnwys gweithredoedd sy’n treiddio i’r corff neu beidio;
    • heb gyswllt corfforol, megis gwneud i blentyn neu oedolyn edrych ar ddeunydd pornograffig neu fod â rhan yn eu cynhyrchu, neu wylio gweithgaredd rhywiol;
    • annog plant neu oedolion i ymddwyn mewn ffordd sy’n amhriodol yn rhywiol

Esgeuluso

  • Methiant parhaus i ddiwallu anghenion corfforol a/neu seicolegol sylfaenol plentyn neu oedolyn yw Esgeulustod, ac mae'n debygol o arwain at amharu’n ddifrifol ar eu hiechyd neu ddatblygiad
  • Gall olygu bod rhiant, aelod o'r teulu neu ofalwr yn methu â darparu bwyd, lloches a dillad digonol, yn methu ag amddiffyn plentyn neu oedolyn rhag niwed neu berygl corfforol, neu'n methu sicrhau mynediad at ofal neu driniaeth briodol
  • Gall hefyd gynnwys esgeuluso neu beidio ymateb i anghenion emosiynol sylfaenol plentyn neu oedolyn

Cam-drin Emosiynol

  • Trin plentyn neu oedolyn yn wael yn emosiynol gan achosi effeithiau difrifol a pharhaus ar eu datblygiad emosiynol ac ymddygiadol
  • Er enghraifft, dweud wrth y plentyn neu'r oedolyn ei fod yn ddiwerth neu fod neb yn ei garu, ei fod yn annigonol neu ond o werth os yw’n bodloni anghenion person arall
  • Mae’n gallu cynnwys achosi i blant neu oedolion deimlo'n ofnus neu mewn perygl, er enghraifft drwy fod yn dyst i gam-drin domestig yn y cartref, neu drwy fwlio ac ymelwa ar y plentyn neu'r oedolyn

Cam-drin Ariannol

  • Dwyn arian neu eiddo
  • Twyllo e.e. sgamiau
  • Rhoi dan bwysau i dalu am bethau er budd rhywun arall
  • Rhywun arall yn defnyddio’u harian
  • Plant sy'n ennill arian drwy ddigwyddiadau adloniant a bod yr arian ddim yn cael ei roi mewn cronfa ymddiriedolaeth
  • Mae yna fathau eraill o gam-drin a allai ddigwydd megis bwlio, priodas dan orfod, anffurfio organau cenhedlu benywod (FGM), caethwasiaeth fodern, camfanteisio rhywiol a radicaleiddio

Cam-drin Domestig

  • Ymddygiad rheolaethol/ gorfodaethol, trais corfforol, cam-drin emosiynol

Cam-drin Ar-lein

  • Meithrin perthynas amhriodol ‒ Dyma broses lle mae’r troseddwr yn “meithrin perthynas ag unigolyn, ac weithiau gyda'i deulu ehangach, gan ennill ei ymddiriedaeth a safle o bŵer dros yr unigolyn, wrth baratoi i gam-drin”

Ymddygiad rheolaethol a gorfodaethol

Masnachu mewn Plant ac Oedolion

  • Mae masnachu plant yn fater o gam-drin plant. Mae'n cael ei ddiffinio fel recriwtio, symud, derbyn a llochesu plant at ddibenion camfanteisio

Camddefnyddio Sylweddau

  • Unigolion sy'n yfed symiau niweidiol o alcohol (er enghraifft, os yw’r yfed yn arwain at broblemau iechyd neu ddamweiniau'n gysylltiedig ag alcohol), sy’n ddibynnol ar alcohol, yn defnyddio cyffuriau yn rheolaidd ac yn ormodol, neu sy’n ddibynnol ar gyffuriau

Radicaleiddio

  • Dyma broses lle mae person yn dod i gefnogi neu gymryd rhan mewn ideolegau eithafol. Gall arwain at ddenu unigolyn i derfysgaeth ac mae'n fath o niwed yn ei hun

Os ydych yn credu fod plentyn neu oedolyn yn cael ei gam-drin, mae'n rhaid i chi ddweud wrth rywun.

I roi gwybod am unrhyw bryderon ynghylch Diogelu, cysylltwch â 01545 574000.