Tîm Anableddau Plant  - Pwy ydym ni?

 

Mae’r Tîm Anableddau Plant (TAP) yn dîm Gofal Cymdeithasol arbenigol sy’n cynnwys

  • Gweithwyr Cymdeithasol,
  • Cynorthwywyr Gwaith Cymdeithasol,
  • Gweithwyr Allweddol Addysg; a
  • Gweithwyr Cefnogi.

 

Ffocws y Tîm bydd:

  • Gweithio gyda phlant y mae eu teuluoedd yn byw yng Ngheredigion lle y mae caniatâd wedi ei roi er mwyn i ni ymwneud â hwy
  • Gweithio mewn partneriaeth â phlant, teuluoedd a sefydliadau perthnasol er mwyn galluogi plant i gyflawni’r amcanion a glustnodwyd yn dilyn asesiad
  • Sicrhau y caiff lles y plentyn ei ddiogelu a’i hyrwyddo gan y rheiny sy’n darparu gwasanaethau.
  • Sicrhau bod y gwasanaethau a ddarperir yn cynorthwyo â lleihau effaith anabledd y plentyn gan roi’r cyfle iddynt fyw bywyd yn llawn.

 

Mae’r Tîm Anableddau Plant yn gweithio gyda phlant a phobl ifanc sydd ag:

 

  • Anableddau Dysgu Lluosog / Oedi mewn datblygiad,
  • Awtistiaeth (lle y bu diagnosis meddygol),
  • Anableddau Corfforol, e.e. plant sydd angen defnyddio cyfarpar arbenigol,
  • Nam ar y clyw a nam ar y golwg,
  • Cyflyrau meddygol ac iechyd sydd angen ystod o gefnogaeth iechyd,

 

Gall y Tîm fod yn ymwneud â phlentyn sydd wedi ei asesu ag unrhyw un o’r cyflyrau uchod, ac

  • Sydd wedi dioddef neu mewn risg o ddioddef niwed sylweddol neu
  • Lle y mae gan yr anabledd a glustnodwyd effaith andwyol sylweddol ac hirdymor ar allu y plentyn / person ifanc i ymgymryd â gweithgareddau dyddiol

 

Beth yw’r Gofrestr yma?

 

Bydd Cofrestr Plant ag Anabledd yn cofnodi manylion plant a phobl ifanc yng Ngheredigion sydd ag anableddau corfforol neu anableddau dysgu.

Mae’r Gofrestr yn ceisio casglu gwybodaeth ar blant a phobl ifanc o dan 18 oed.

Gallwch:

  • Dderbyn gwybodaeth ar wasanaethau i bobl ifanc, ar eich cyfer chi a/ neu eich plentyn
  • Gael gwybod mwy am unrhyw ostyngiadau neu gynlluniau taleb caiff eu lawnsio yn y Sir / rhanbarth ; a,
  • Dweud eich dweud a dylanwadau ar wasanaethau yng Ngheredigion.

 

Defnyddir y wybodaeth yma hefyd er mwyn:

  • Cynorthwyo Cyngor Sir Ceredigion County, gwasanaethau iechyd lleol a darparwyr gwasanaethau i gynllunio gwasanaethau’n briodol yn y Sir;
  • I rieni, gofalwyr, plant a phobl ifanc gael llais a sicrhau bod y Cyngor a gwasanaethau eraill yn ymwybodol o’ch anghenion a’r galw am wasanaeth yn y Sir; a
  • Darparu’r wybodaeth ddiweddaraf i blant a phobl ifanc ag anabledd neu anghenion arbennig yn ogystal â’u rhieni a / neu gofalwyr.

O dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 mae gan Gyngor Sir Ceredigion ddyletswydd i asesu plentyn lle mae’n ymddangos bod angen gofal a chefnogaeth arnynt; yn ogystal â’r ofal a’r gefnogaeth a ddarperir gan deulu’r plentyn.

Fodd bynnag nid oes angen cefnogaeth / gwasanaethau arbenigol ar bob plentyn sydd ag anabledd.  Mae’n bosib y bydd plant a theuluoedd yn derbyn asesiadau a chefnogaeth drwy ein gwasanaethau Gofal Cymdeithasol ar gyfer plant a theuluoedd.

Ar y cychwyn gwneir cyfeiriadau i’n Tîm Gwasanaethau Cwsmeriaid penodol ar CLIC, ar  01545 574000 sy’n cysylltu â’n timau Plant a Theuluoedd ar draws yr Is-adran Llesiant Gydol Oes

O dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 mae plentyn anabl yn blentyn sydd  ag amhariad corfforol neu feddyliol sydd ag effaith andwyol sylweddol a hirdymor ar allu’r plentyn hwnnw i ymgymryd â gweithgareddau arferol o ddydd i ddydd.

Caiff effaith hirdymor ei ddiffinio fel cyflwr sydd wedi parhau am o leiaf 12 mis neu’n debygol o barhau am weddill oes y plentyn.

Bwriedir defnyddio’r Meini Prawf Cymhwysedd yma fel canllaw i’n cynorthwyo wrth glustnodi pa blant sydd angen asesiad arbenigol a chefnogaeth gan y Tîm Anableddau Dysgu.

Sut i wneud cais i'r gofrestr

Cliciwch ar y ddolen isod i gofrestru manylion eich plentyn.

Cofrestr Plant ag Anabledd

Os nad ydych yn gallu cyrchu'r ddolen, cysylltwch â Clic, ein Canolfan Gyswllt gofal cymdeithasol, ar 01545 574000.