​Rydym yn argymell eich bod yn gosod system wresogi sefydlog ddigonol yn eich cartref sy’n gallu gwresogi’r ystafelloedd byw (yr ystafelloedd gwely, y lolfa) gan gynnal tymheredd o 18°C o leiaf pan fydd y tymheredd yn -1°C tu allan, a hynny mewn ffordd ddigonol ac effeithlon.

Gallwch ddefnyddio unrhyw fath o danwydd i wresogi’ch cartref, ond dylech ystyried pa mor effeithlon a fforddiadwy yw’r tanwydd hwnnw.

O ran y peiriannau / systemau gwresogi, dylech sicrhau:

  • Bod modd i bawb sy’n byw yn y tŷ reoli’r tymheredd
  • Eu bod yn ddiogel a’u bod yn cael eu gosod a’u cynnal a’u cadw’n briodol
  • Eu bod yn briodol o ystyried adeiledd, dyluniad a chynllun y tŷ
  • Bod modd cynnal tymheredd o 18°C o leiaf pan fydd y tymheredd yn -1°C tu allan, a hynny mewn ffordd ddigonol ac effeithlon

Os nad ydych chi’n credu bod eich system wresogi chi’n ddigonol, efallai y bydd modd i’r Awdurdod Lleol gyflawni asesiad o dan y System Mesur Iechyd a Diogelwch ar gyfer Tai (HHSRS) i weld a yw diffyg gwres yn peryglu’ch iechyd.

Cyfrifoldeb y landlord yw sicrhau bod y gosodiad gwresogi yn yr eiddo yn ddigonol.

Tlodi Tanwydd

Pan fydd angen i aelwyd wario mwy na 10% o’i hincwm ar danwydd – neu ynni fel y’i gelwir yn aml – rydym yn dweud bod yr aelwyd yn dioddef tlodi tanwydd. Ar hyn o bryd, mae nifer yr aelwydydd sy’n dioddef tlodi tanwydd yn cynyddu am sawl rheswm:

  • Mae cost ynni’n parhau i gynyddu ac felly mae angen i ni wario mwy o’n hincwm i dalu’r biliau hyn
  • Mae llawer ohonom yn byw mewn tai drafftiog. Mae llawer o wres yn dianc o’r tai ac rydym yn dibynnu ar hen systemau gwresogi aneffeithlon. Oherwydd nad oes llawer o arian sbâr gennym ni, mae’n anodd sicrhau bod ein tai’n fwy effeithlon o ran ynni. O wneud hynny, byddai ein biliau’n gostwng
  • Mae costau byw’n cynyddu’n gyffredinol ac mae hyn yn rhoi pwysau ar ein sefyllfa ariannol ni hefyd, felly mae gennym lai o arian

Gall system wresogi ddigonol ac inswleiddio da helpu o ran tlodi tanwydd. Gall symud at gyflenwr ynni rhatach helpu i leihau’r costau hefyd. Mae sawl gwefan gymharu ar gael i’ch helpu i benderfynu.

Weithiau, mae grantiau a benthyciadau ar gael gan yr Awdurdod Lleol i’ch helpu chi neu’ch landlord i uwchraddio’ch system wresogi neu i osod mesurau effeithlonrwydd ynni. I gael mwy o wybodaeth, ewch i’n tudalennau Cymorth Ariannol. Ewch i’n tudalennau effeithlonrwydd ynni hefyd i gael gwybod am ffyrdd o ddefnyddio ynni’n fwy effeithlon yn eich cartref.

O 1 Ebrill 2020 dylai fod gan bob eiddo rhent Dystysgrif Perfformiad Ynni sydd â sgôr E neu uwch, oni bai eu bod wedi'u cofrestru ar gofrestr eithrio. Gweler ein tudalen Tystysgrifau Perfformiad Ynni i gael mwy o wybodaeth.

Mae gwybodaeth ar gael gan yr Ymddiriedolaeth Arbed Ynni hefyd i’ch helpu chi neu’ch landlord i chwilio am grantiau a chynigion i sicrhau bod eich cartref yn fwy effeithlon o ran ynni.