HETAS (Solid Fuel)
0845 634 5626

OFTEC (Oil)
0845 658 5080

Gas Safe Register
0800 408 5500

HSE Gas Safety Line
0800 300 363

National Gas Emergency number:
0800 111 999

Dylai’ch landlord drefnu i’ch peiriannau nwy (fel tân, bwyler neu ffwrn nwy) gael gwiriad diogelwch a gwasanaeth unwaith y flwyddyn. Rhaid i beiriannydd sydd wedi cofrestru â Gas Safe gyflawni’r gwaith hwn a dylech gael copi o’r dystysgrif.

Gair i gall:

  • Dewch i wybod beth yw symptomau gwenwyn carbon monocsid – pen tost, pendro, cyfog, diffyg anadl, llewyg a cholli ymwybyddiaeth
  • Chwiliwch am arwyddion nad yw’r peiriannau nwy’n gweithio’n iawn e.e. fflamau melyn gwantan yn hytrach na fflamau glas bywiog, staeniau neu farciau duon ar y peiriant neu o’i amgylch a gormod o gyddwysedd yn yr ystafell
  • Prynwch larwm carbon monocsid ar gyfer eich cartref a gwnewch yn siŵr ei fod wedi’i osod gerllaw’r peiriannau nwy yn unol â chyfarwyddiadau’r gwneuthurwr. Gall carbon monocsid ddianc o’r peiriannau a lladd
  • Defnyddiwch y peiriannau nwy yn y ffordd y bwriedir iddyn nhw gael eu defnyddio yn unig e.e. peidiwch â defnyddio ffwrn nwy i wresogi ystafell a pheidiwch â defnyddio barbiciw nwy tu mewn i’r tŷ
  • Gwnewch yn siŵr bob amser fod eich peiriannau nwy’n cael eu hawyru’n ddigonol i sicrhau eu bod yn llosgi’n gywir, a gwnewch yn siŵr nad ydych wedi rhwystro unrhyw fentiau awyr sy’n cyflenwi aer i’r peiriant nwy

Os ydych chi’n pryderu am unrhyw beth, cysylltwch â pheiriannydd sydd wedi cofrestru â Gas Safe a threfnwch i’r peiriannau gael eu profi.

Mewn argyfwng nwy, rhaid i chi weithredu’n gyflym a dilyn y cyfarwyddiadau diogelwch isod:

  • Cewch awyr iach ar unwaith. Agorwch bob drws a ffenestr i awyru’r ystafell
  • Diffoddwch y peiriant a pheidiwch â’i ddefnyddio eto hyd nes bod peiriannydd sydd wedi cofrestru â Gas Safe wedi cael golwg arno
  • Diffoddwch y prif gyflenwad nwy
  • Ffoniwch y Rhif Argyfwng Nwy Cenedlaethol (gweler isod)
  • Os ydych yn teimlo’n sâl, ewch at eich meddyg neu i’r ysbyty ar unwaith a rhowch wybod y gall eich symptomau fod yn gysylltiedig â gwenwyn carbon monocsid
  • Cysylltwch â pheiriannydd sydd wedi cofrestru â Gas Safe er mwyn iddo gael golwg ar y peiriant a’i drwsio

Nwy yw carbon monocsid. Gall gael ei gynhyrchu gan unrhyw beiriant sy’n llosgi tanwydd (nwy, olew neu danwydd solet) os nad yw’n cael ei gynnal a’i gadw’n iawn.

Allwch chi ddim mo’i weld, ei flasu na’i arogli, ond gall ladd yn gyflym heb unrhyw rybudd. Yn ogystal â marwolaeth, gall achosi problemau iechyd difrifol hirdymor fel niwed i’r ymennydd.

Y chwe phrif symptom i chwilio amdanyn nhw yw:

  • Pen tost
  • Pendro
  • Cyfog
  • Diffyg anadl
  • Llewyg
  • Colli ymwybyddiaeth

Mae’r symptomau hyn yn debyg i’r ffliw, i heintiau feirws ac i wenwyn bwyd, felly mae’n bwysig nad ydych yn eu hanwybyddu. Dyma arwyddion eraill sy’n awgrymu y gall fod problem:

  • Mae’r symptomau’n gwella neu’n diflannu pan fyddwch chi’n gadael eich cartref ac yn dod yn ôl pan fyddwch yn dychwelyd
  • Mae gan eraill yn eich cartref yr un symptomau, yn enwedig anifeiliaid anwes

Efallai y byddwch yn gweld arwyddion carbon monocsid (CO) yn eich cartref. Cadwch lygad am y pethau hyn:

  • Dylai’r fflamau ar eich ffwrn fod yn fywiog ac yn las. Os oes gennych fflamau melyn neu oren gwantan, mae angen i beiriannydd gael golwg ar eich ffwrn
  • Staeniau tywyll ar y peiriannau neu o’u hamgylch
  • Fflamau peilot sy’n diffodd yn aml
  • Mwy o gyddwysedd tu mewn i ffenestri

Os ydych chi’n amau bod peiriant yn ddiffygiol, dylech ei ddiffodd a ffonio peiriannydd sydd wedi cofrestru â Gas Safe neu beiriannydd Oftec (olew) neu beiriannydd HETAS er mwyn iddo brofi’r peiriant, yr awyru a’r ffliwiau.

Mae’n syniad da gosod larwm carbon monocsid yn eich cartref. Bydd yn synhwyro unrhyw nwy ac yn seinio i’ch rhybuddio. Mae’n debyg i synhwyrydd mwg ac mae’n rhad i’w brynu o siopau DIY.