Mae gan bawb hawl i fwynhau llonyddwch yn eu cartrefi.

Os ydych yn teimlo bod sŵn gormodol yn effeithio ar y llonyddwch hwn, er enghraifft cŵn sy’n cyfarth yn barhaus, sŵn o dafarndai neu glybiau’n hwyr y nos neu sŵn peiriannau, gall yr Awdurdod Lleol ymchwilio i weld beth sy’n achosi’r broblem. Gall hyn arwain at gymryd camau yn erbyn y sawl sy’n creu’r sŵn. I gwyno, cliciwch yma.

Mae niwsans sŵn yn cael ei asesu ar y sail hon:

  • a yw’r sŵn yn ‘rhesymol’ o ystyried yr ardal
  • pa mor aml y mae’r sŵn yn digwydd
  • ar faint o bobl y mae’r sŵn yn effeithio

Caiff pob achos ei asesu yn ôl teilyngdod ac ar sail pa mor sensitif yw unigolyn cyffredin. Y peth cyntaf y bydd yr Awdurdod Lleol yn ei wneud fydd gofyn i chi lenwi ‘dyddiadur’ i bennu pa fath o sŵn sydd i’w glywed, pa mor aml y mae’n digwydd a phryd y mae’n digwydd. O wneud hynny, bydd modd i’r swyddog sy’n ymchwilio bennu a yw’r sŵn yn peri niwsans, pa mor aml y mae’n digwydd a pha mor ddifrifol yw’r sŵn. Os oes rheswm dros wneud hynny, caiff y sŵn ei recordio am 6 diwrnod cyn cymryd unrhyw gamau gorfodi. Bydd y sawl sy’n creu’r sŵn yn cael gwybod am yr ymchwiliad cyn i unrhyw sŵn gael ei recordio. Mewn achosion difrifol, gall yr Awdurdod Lleol roi hysbysiad diddymu i gyfyngu ar amseroedd neu lefel y sŵn a gall roi dirwyon o hyd at £20,000.

Os yw’r sŵn yn dod o safle neu ddigwyddiad trwyddedig, dylech gysylltu ag Adain Drwyddedu’r Awdurdod Lleol drwy ffonio 01545 572179 neu e-bostio licensing@ceredigion.gov.uk