Bydd lleoliadau cymunedol ledled Ceredigion yn cau yn unol â chyfnod atal byr y coronafeirws a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru.

Mae hyn yn cynnwys canolfannau cymunedol, neuaddau pentref, eglwysi a chapeli, ond bydd lleoliadau sy’n darparu gwasanaethau hanfodol i’r cyhoedd, gan gynnwys gofal plant, banciau bwyd a chlinigau iechyd yn parhau ar agor.

Bydd cyfnod atal byr y coronafeirws yn dechrau am 6pm ddydd Gwener, 23 Hydref 2020, ac yn dod i ben ganol nos ar ddydd Llun 9 Tachwedd 2020.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu os hoffech wirio a ellir cynnal eich gweithgarwch yn ystod y cyfnod atal byr, ffoniwch Cyngor Sir Ceredigion ar 01545 570881 neu Tîm CAVO ar 01570 423232, neu anfonwch neges e-bost at gen@cavo.org.uk a bydd Panel Cynghori Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Ceredigion yn ystyried eich cais.

Os bydd eich adeilad yn parhau i fod ynghau, mae Panel Ceredigion wedi llunio rhestr wirio ddefnyddiol i'ch helpu i gynnal a chadw eich adeilad a pharatoi i'w ailagor. Gellir darllen y rhestr wirio yma: Canllawiau i Leoliadau Cymunedol.

Mae’r holl wybodaeth ddiweddaraf, gan gynnwys canllawiau ar gyfer lleoliadau cymunedol, ar gael ar ein gwefan.

Cadwch hyd braich i leddfu’r baich y gaeaf hwn. Trwy wneud hyn, byddwn yn diogelu iechyd a lles ein pobl mwyaf bregus, sy’n cyfrannu at Strategaeth y Gaeaf.

Gyda’n gilydd, gallwn gadw Ceredigion yn ddiogel.

23/10/2020