Diben 'Strategaeth Aeaf Cyngor Sir Ceredigion wrth ymdrin â’r Pandemig COVID-19 2020-21' yw darparu trosolwg o’r dadansoddiad diweddaraf a wnaed ynghylch y modd y mae’r feirws yn ymddwyn yma yng Ngheredigion a gosod sail resymegol glir a fydd yn dylanwadu ar benderfyniadau hyd at Ebrill 2021.
Mae’r chwe mis nesaf yn rhai tyngedfennol yn ein brwydr yn erbyn y feirws hwn.
Mae’r Cyngor wedi nodi tri maes blaenoriaeth:
- Amddiffyn iechyd a lles ein pobl fwyaf bregus, gan gynnwys y gwasanaethau gofal ar gyfer yr henoed a’r sawl y mae eu cyflyrau meddygol yn peri eu bod yn arbennig o agored i niwed gan yr haint COVID-19.
- Amddiffyn y ddarpariaeth addysg mewn ysgolion, colegau a phrifysgolion.
- Galluogi’r economi leol i oroesi misoedd y gaeaf.
Darllenwch Strategaeth y Gaeaf.