Anogir pobl yng Ngheredigion i gadw hyd braich i leddfu’r baich wrth i'r tymhorau droi ac wrth i'r coronafeirws ddeffro ar gyfer y gaeaf.

Mae’r adeg hon o’r flwyddyn fel arfer yn amser i ddathlu a dod ynghyd wrth i ni droi’r clociau yn ôl ac edrych ymlaen at Galan Gaeaf a Noson Tân Gwyllt. Eleni, fodd bynnag, atgoffir trigolion Ceredigion i beidio â rhoi eu hunain nac eraill mewn perygl o ddal neu ledaenu’r coronoafeirws, ac fe’u cynghorir yn gryf i gyfyngu gymaint â phosibl ar eu cyswllt cymdeithasol. Mae hyn yn cynnwys peidio â chymryd rhan mewn arferion tric neu drît na threfnu neu fynd i bartïon Calan Gaeaf.

Ni ddylai pobl gwrdd y tu mewn ag unrhyw un nad ydynt yn aelodau o’u haelwyd estynedig. Mae hyn yn berthnasol yn y cartref ac mewn lleoliadau cyhoeddus, er enghraifft tafarnau a bwytai. Mae hyn yn golygu na chaniateir cynnal partïon Calan Gaeaf eleni wrth i ni geisio atal y feirws rhag lledaenu.

Yn yr un modd, anogir pobl i beidio â chreu perygl a allai arwain at achosion o’r coronafeirws yn y gymuned trwy drefnu neu fynd i arddangosfeydd tân gwyllt, a allai ddenu tyrfaoedd mawr, gan na all mwy na 30 o bobl gwrdd â’i gilydd yn yr awyr agored. Os ydych yn bwriadu trefnu arddangosfa bach, preifat ar gyfer eich aelwyd, dylech bob amser ddilyn canllawiau iechyd a diogelwch llym ar gyfer peryglon y tân gwyllt ei hunan a’r coronafeirws. Ni fydd unrhyw arddangosfeydd o dân gwyllt yn cael eu cynnal ar dir Cyngor Sir Ceredigion.

Y mwyaf o bobl a fydd yn dod i gysylltiad agos, y mwyaf yw’r siawns y byddant yn dal neu’n lledaenu’r feirws. Mae hyn yn anodd ond gofynnwn i chi wneud yr aberth hwn eleni er mwyn ein galluogi i ddiogelu ein cymunedau, ein ffrindiau a’n teuluoedd.

Mae Cyngor Sir Ceredigion yn gweithio gyda phartneriaid allweddol, gan gynnwys Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru a Heddlu Dyfed Powys er mwyn sicrhau diogelwch y cyhoedd yn ystod y cyfnod prysur hwn.

I gael yr holl wybodaeth ddiweddaraf am ymateb Ceredigion i'r coronafeirws, ewch i wefan y Cyngor neu ffonio 01545 570881. Mae hyn hefyd yn cyd-fynd â Strategaeth y Gaeaf Cyngor Sir Ceredigion i ddiogelu iechyd a lles pobl yn wyneb pandemig y coronafeirws. Gallwch ddarllen y strategaeth yma.

Gyda’n gilydd, gallwn gadw Ceredigion yn ddiogel.

Cadwch hyd braich i leddfu’r baich.

14/10/2020