Bydd angen i chi hefyd gyflwyno datganiad statudol wedi'i lofnodi, a ddylai gynnwys eich enwau a chael ei lofnodi gennych chi a'ch partner (os yw'n berthnasol) ym mhresenoldeb cyfreithiwr, a rhaid cynnwys enw a chyfeiriad y cyfreithiwr hefyd. Mae copi o ffurflen o'r fath ynghlwm.

Gall y cyfreithiwr/comisiynydd llwon godi tâl am y gwasanaeth hwn, ac felly efallai y byddai’n well ichi aros tan ichi gasglu’r holl wybodaeth angenrheidiol cyn sicrhau’r datganiad statudol. Mae’n rhaid i’r cyfreithiwr/comisiynydd llwon roi stamp yn dwyn ei enw a’i gyfeiriad ar y datganiad.

Mae’n rhaid ichi gydymffurfio â’r rheol hon tra byddwch chi’n berchen ar y tŷ fforddiadwy, a bydd yn rhaid ichi gadarnhau’r ffaith ar ddiwedd bob blwyddyn.