Tystysgrif Morgais/Addewid/Penderfyniad mewn Egwyddor: Mae’n rhaid cael yr wybodaeth hon hyd yn oed os mai gwerth y cynnig yw sero, neu os gwrthodwyd morgais ichi ar sail eich incwm/oedran ac yn y blaen. (efallai y bydd yr wybodaeth ar ffurf llythyr yn hytrach na thystysgrif/addewid/penderfyniad mewn egwyddor).

Llythyr/e-bost yn datgan Uchafswm y Morgais sydd ar gael i chi a’ch partner (fel y bo’n berthnasol), os nad yw’r swm dan sylw wedi’i nodi ar y Dystysgrif Morgais/Addewid/Penderfyniad mewn Egwyddor. Mae hyn yn ofynnol gan y gallai swm y morgais y gofynnoch chi amdano, sydd wedi’i nodi ar ffurf tystysgrif morgais/addewid, fod yn wahanol i uchafswm y morgais y gallwch ei gael.

Slipiau cyflog am y tri mis diwethaf i chi a’ch partner (os yw’n berthnasol) neu os ydych chi’n hunangyflogedig, cyfrifon y busnes am y tair blynedd diwethaf

P60 diwethaf i chi a’ch partner (os yw’n berthnasol)

Os ydych wedi ymddeol neu os na allwch gael morgais oherwydd oedran neu os na allwch weithio mwyach: Manylion eich pensiwn am y tri mis diwethaf, datganiad pensiwn blynyddol, manylion unrhyw lwfansau ac unrhyw incwm arall