Dim ond un ymgeisydd sydd angen bod yn gymwys a dim ond un o'r dogfennau a nodir isod sy'n rhaid ei ddarparu:

2a: Dogfennau sydd eu hangen i brofi Meini Prawf Preswyliad Lleol

Gwybodaeth ar y Gofrestr Etholwyr. Fe gewch chi’r wybodaeth drwy gysylltu â Gwasanaeth Cofrestru Etholiadol Cyngor Sir Ceredigion (Ffôn: 01545 572035). Codir tâl am hyn.

Llythyr oddi wrth eich Meddyg. Yn nodi pryd cofrestrwyd chi yn y feddygfa a’ch cyfeiriad/au ers ichi gofrestru.

Os oeddech chi yn yr ysgol/coleg ar unrhyw adeg yn ystod y deng mlynedd dan sylw, cysylltwch â’r ysgol/coleg a gofynnwch am lythyr yn datgan y cyfnod pan fuoch chi’n fyfyriwr a’ch cyfeiriad ar y pryd.

2b. Dogfennau sydd eu hangen i brofi Meini Prawf Gweithiwr Allweddol

Darparwch dystiolaeth o'ch cyflogaeth e.e. contract a disgrifiad swydd.

2c. Dogfennau sydd eu hangen i brofi Meini Prawf Gofalwr

Bydd arnoch angen meddwl am yr wybodaeth sydd ar gael i gadarnhau i) hyd iv) isod.

i) pam fod angen gofal arnoch chi/eich perthynas agos;

ii) pam fod tŷ eich perthynas agos yn anaddas i bawb ohonoch fyw ynddo, a pham nad oes modd ei addasu neu’i ymestyn i ateb y diben;

iii) sut mae’ch perthynas agos yn cydymffurfio â rhan gyntaf y Rheol hon;

iv) sut ydych chi’n perthyn i’ch perthynas agos (brawd, chwaer, mab, merch, rhiant, taid, nain, nai, nith, gŵr neu wraig, gan gynnwys perthnasau rhiant-plentyn yn sgil mabwysiadu, a pherthnasau rhwng pobl sy’n byw fel petasent yn ŵr a gwraig, gan gynnwys cyplau o’r un rhyw);

O ran i) er enghraifft, mae’n debygol y bydd y person sydd angen gofal (chi neu’ch perthynas) yn cael cymorth gan y Gwasanaethau Cymdeithasol a/neu’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol. Byddai llythyr gan un o’r rhain yn gallu helpu i ddangos fod angen gofal sylweddol arnoch chi/eich perthynas agos.

O ran ii), byddai llythyr oddi wrth y Gwasanaethau Cymdeithasol neu’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol hefyd yn gallu helpu i esbonio pam fod cartref presennol eich perthynas yn anaddas a pham nad oes modd ei addasu na’i ymestyn.

O ran iii), bydd arnoch angen ystyried sut allwch chi ddangos bod eich perthynas yn bodloni’r maen prawf Person Lleol.

O ran iv), gan ddibynnu ar eich perthynas, byddai darparu copi o’ch Tystysgrif Geni ac un eich perthynas (er enghraifft, rhiant) yn dangos sut yr ydych chi’n perthyn.