Mae creu lleoedd yn rhoi pobl wrth wraidd y broses gynllunio. Mae ymgysylltu â'r gymuned leol yn bwysig o ddechrau unrhyw broses creu lleoedd er mwyn nodi a rhoi sylw i anghenion, syniadau, barn a chymeriad y gymuned i lunio dyfodol lleoedd byw, gwaith a hamdden cyhoeddus. Mae datblygu perthnasoedd gweithio cydweithredol gyda chynrychiolwyr y gymuned a thref yn allweddol er mwyn sicrhau ymdeimlad o berchnogaeth a pherthyn mewn lle, ac annog dilyniant a chefnogaeth ar gyfer prosiectau creu lleoedd.

Er mwyn annog ymgysylltu a chyfranogi effeithiol, caiff gweithgarwch â ffocws a phwrpasol ei ddarparu ar gyfer pobl leol sy'n debygol o fod â diddordeb arbennig mewn prosiect creu lleoedd penodol, neu sy'n cael eu heffeithio gan brosiect creu lleoedd penodol. Defnyddir amrywiaeth o fathau o ymgysylltu, megis gweithdai, cyflwyniadau, diwrnodau agored, cyfarfodydd, arolygon gwe a rhyngweithiol, ac ymweliadau safle.