Ceredigion: Strategaeth ar gyfer Gwyrddu 6 Thref – Cyngor Sir Ceredigion  sy'n cyfeirio at y rhwydwaith o fannau gwyrdd a glas sy'n amgylchynu trefi Ceredigion ac yn cris-croesi trwyddynt, gan gynnwys pethau fel afonydd, rhandiroedd, parciau, cloddiau, llwybrau troed, a phyllau. Mae'r strategaeth yn amlinellu pwysigrwydd gwneud lle i fyd natur, llunio mannau cyhoeddus ffyniannus, creu cymunedau hapus ac iach, a chryfhau'r gallu i wrthsefyll newid hinsawdd.


Mae'r strategaeth seilwaith gwyrdd a glas hon yn gobeithio gweithredu ar uchelgais y sir i fod yn fwy gwyrdd ac yn fwy gwydn trwy nodi'r heriau allweddol sy'n wynebu'r rhwydwaith seilwaith gwyrdd a glas a blaenoriaethu'r prosiectau mwyaf buddiol er mwyn mynd i'r afael â'r heriau hyn ym mhob tref, a gall yr egwyddorion dylunio fod yn sail ar gyfer sicrhau cyllid yn y dyfodol i'w hysgogi.