Mae Gwerthusiadau a Chynlluniau Rheoli Ardaloedd Cadwraeth ar y gweill ar hyn o bryd.


Os hoffech wybod rhagor neu gymryd rhan, cysylltwch â thîm y CDLl ar ldp@ceredigion.gov.uk


Bydd Gwerthusiadau Ardaloedd Cadwraeth yn rhoi darlun manwl o ddiddordeb arbennig ardaloedd cadwraeth y chwe thref, ac yn nodi cyfleoedd a blaenoriaethau ar gyfer gweithredu, asesiad o'r ardaloedd, cryfderau, gwendidau, cyfleoedd a bygythiadau. Bydd hyn yn cynnwys adolygiad o ffin yr ardaloedd a'u lleoliad.


Bydd y Cynlluniau Rheoli yn mynd i'r afael â'r materion a godir yn y gwerthusiadau ac yn nodi amcanion rheoli realistig, gan ystyried eu hadnewyddu yn y tymor hir, a chynigion ar gyfer adnoddau a chyfleoedd ariannu, yn ogystal ag ymhelaethu ar bolisïau cynllunio cysylltiedig.