Bwriad Cynlluniau Adfywio Trefi yw gwireddu'r weledigaeth neu ailddiffinio rolau a swyddogaethau trefi er mwyn sicrhau buddion economaidd-gymdeithasol. Bydd y cynlluniau hyn yn nodi ymyriadau posibl ar gyfer buddsoddi, p'un a ydynt yn seiliedig ar gyfalaf, sylfaen neu refeniw trwy ymgysylltu'n lleol a gwneud gwaith ymchwil o bwys. Bydd manylion ar gyfer gweithredu, ffynonellau ariannu posibl, y buddion disgwyliedig a chynaliadwyedd y prosiectau wedi'u cynnwys ynddynt. Gellir defnyddio'r dogfennau terfynol hyn i gyfeirio buddsoddiad mewn datblygu ac adfywio yn y dyfodol.