Strategaeth Iaith Ceredigion 2018-2023

Mae strategaeth iaith newydd i Geredigion wedi cael ei gymeradwyo ar gyfer y cyfnod 2018-2023. Yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus, cymeradwywyd y Strategaeth gan Gabinet Cyngor Sir Ceredigon mewn cyfarfod ar 25ain Medi 2018. Mae’r Strategaeth newydd yn diweddaru ac yn datblygu ar ei rhagflaenydd.

Cydnabyddir bod cynaliadwyedd yr iaith Gymraeg yn ddibynnol ar y broses o gryfhau cymunedau Cymraeg trwy ddarparu digon o gyfleoedd addysgol, diwylliannol a chymdeithasol i ddefnyddio’r iaith yn ddyddiol. Er mwyn cynnal cymunedau Cymreig hyfyw lle mae’r Gymraeg yn iaith gyfathrebu naturiol yng Ngheredigion, mae’r Strategaeth wedi adnabod tri maes allweddol ar gyfer blaenoriaethu; sef i gynyddu sgiliau iaith trigolion Ceredigion, i gynyddu’r cyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg, ac i sicrhau amodau ffafriol sy’n galluogi’r Gymraeg i ffynnu yng Ngheredigion.

Dywedodd Arweinydd y Cyngor ac aelod y Cabinet â chyfrifoldeb dros yr Iaith Gymraeg, “Mae’r Gymraeg yn rhan hanfodol o galon cymunedau Ceredigion, ond mae cymdogaethau’n newid, ac mae’r newid hwn yn cael dylanwad ar yr iaith a’r diwylliant. Mae’r strategaeth newydd yn gyfle newydd i ni adeiladu ar y gwaith sydd eisoes wedi ei wneud, ac i sicrhau bod modd gweld a chlywed y Gymraeg bod dydd yn iaith gyfathrebu naturiol yn ein cymdogaethau.”

Yn unol ȃ gofynion Safonau’r Gymraeg, mae’r Strategaeth hon yn gosod sut bydd y Cyngor, yn mynd ati i hybu’r Gymraeg ac i hwyluso defnydd o’r Gymraeg yn ehangach o fewn yr ardal leol, a hynny drwy gyd-weithio gyda sefydliadau sy’n aelodau o Fforwm Iaith Dyfodol Dwyieithog Ceredigion. Mae’r Strategaeth yn cefnogi gweledigaeth Llywodraeth Cymru, i greu miliwn o sïaradwyr Cymraeg yng Nghymru erbyn 2050.

Gellir lawr lwytho copi o’r Strategaeth Iaith yma:

Strategaeth Iaith Ceredigion 2018-23

Cynllun Gweithredu

Adroddiad Adolygiad Strategaeth Iaith Ceredigion 2018-23

Mae’r Fforwm Dyfodol Dwyieithog Ceredigion wedi datblygu Adnodd Iaith, dolenni ac adnoddau i’ch helpu i ddefnyddio’r Gymraeg:

Mae’r Cyngor yn cefnogi Strategaethau eraill, sy’n cyfrannu’n benodol i waith Fforwm Iaith Dyfodol Dwyieithog Ceredigion, wrth i ni symud ar hyd y daith o atgyfnerthu’r iaith yn y sir.

Mae Cyngor Sir Ceredigion yn gweithredu Cynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg, sy’n nodi bwriad y Cyngor i hyrwyddo addysg Gymraeg yn y sir:

Mae’r Gwasanaethau Cymdeithasol yn gweithio tuag at gyflawni Fframwaith Strategol ‘Mwy na Geiriau’ ar gyfer gwella gwasanaethau Cymraeg o fewn Iechyd, Gwasanaethau Cymdeithasol a Gofal Cymdeithasol:

Mae’r Cyngor hefyd yn cefnogi Cered (Menter Iaith Ceredigion) gyda’r nod o greu cyfleoedd ac annog trigolion Ceredigion i ddefnyddio’r Gymraeg yn amlach ym mhob agwedd o’u bywydau: