Ers 30 Mawrth 2016, mae Cyngor Sir Ceredigion wedi ymrwymo i Safonau’r Gymraeg, sydd wedi eu gosod gan Gomisiynydd y Gymraeg dan Adran 44 Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011.

Pwrpas y Safonau yw:

  • Rhoi mwy o eglurder i sefydliadau ar eu dyletswyddau am yr iaith Gymraeg
  • Rhoi mwy o eglurder i siaradwyr Cymraeg am y gwasanaethau y gallant ddisgwyl eu cael yn Gymraeg
  • Sicrhau mwy o gysondeb o wasanaethau Cymraeg a gwella eu hansawdd

Mae dyletswyddau ar Gyngor Sir Ceredigion sy’n deillio o ofynion Safonau’r Gymraeg yn golygu na ddylai’r Cyngor drin yr iaith Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg; a bod angen i’r Cyngor hybu a hwyluso’r defnydd o’r iaith Gymraeg, gan ei gwneud yn haws i bobl ddefnyddio eu sgiliau iaith Gymraeg yn eu bywyd bob dydd. Mae hyn yn cefnogi amcan y Cyngor i barhau i wella’r ddarpariaeth o wasanaethau cyfrwng Cymraeg.

Mae’r Safonau’r Gymraeg yn cael eu gosod o dan 5 prif Safon:

  • Safon Darparu Gwasanaeth - yn canolbwyntio ar ddarparu gwasanaethau. Eu bwriad yw hybu a hwyluso'r defnydd o'r iaith Gymraeg, neu i sicrhau nad yw'r Gymraeg yn cael ei thrin yn llai ffafriol na'r Saesneg wrth ddarparu gwasanaethau.
  • Safon Llunio Polisi - mae'r Safonau yma yn gofyn i swyddogion ystyried pa effaith y bydd eu penderfyniadau polisi yn ei gael ar allu pobl i ddefnyddio'r iaith ac ar yr egwyddor o beidio trin y Gymraeg yn llai ffafriol na'r Saesneg. Caiff swyddogion eu hannog i ddefnyddio'r offeryn asesiad effaith integredig wrth ddatblygu cynigion, gwneud penderfyniadau polisi neu adolygu polisïau presennol, neu wrth wneud gostyngiad neu gau gwasanaeth.
  • Safon Gweithredu - mae'r Safonau yma yn ymdrin â'r defnydd o'r Gymraeg yn fewnol gan y Cyngor ac yn hyrwyddo'r cysyniad o weithle dwyieithog, gan roi hawliau ieithyddol i weithwyr y Cyngor wrth dderbyn eu gwasanaeth Adnoddau Dynol.
  • Safon Hybu - mae'r Safonau yma yn gofyn i Awdurdod Lleol fabwysiadu Strategaeth Iaith sy'n nodi sut mae'n bwriadu hyrwyddo a hwyluso'r defnydd o'r Gymraeg yn ehangach o fewn yr ardal ddaearyddol y mae'n gweithredu o'i mewn; bydd hynny'n cynnwys cydweithio â phartneriaid allweddol. Mae Fforwm Dyfodol Dwyieithog Ceredigion wedi datblygu Strategaeth Iaith Ceredigion er mwyn mynd i'r afael â'r gofyniad yma.
  • Safon Cadw cofnodion - mae'r Safonau yma yn delio gyda systemau cadw data a chofnodion am rai o'r safonau eraill, ynghyd ag unrhyw gwynion a dderbynnir gan y sefydliad. Mae'n cynnwys cadw cofnod o ddewis iaith defnyddiwr gwasanaeth, ynghyd â chadw cofnod o sgiliau iaith y gweithlu, hyfforddiant a'r drefn recriwtio. Bydd y cofnodion hyn yn cynorthwyo Comisiynydd Y Gymraeg wrth reoleiddio cydymffurfiad y sefydliad â'r Safonau.

Cwynion Iaith

Os hoffech wneud cwyn yn ymwneud â chydymffurfiaeth y Cyngor â Safonau'r Gymraeg neu fethiant ar ran y Cyngor i ddarparu gwasanaeth dwyieithog, defnyddiwch weithdrefn gwyno'r Cyngor ar y tudalen Sylwadau, Canmoliaeth a Chwynion.

Mae gennych hefyd hawl i gyfeirio unrhyw gwynion sy'n ymwneud â'r iaith Gymraeg at Gomisiynydd y Gymraeg: Gwefan Comisiynydd y Gymraeg