"Adolygiad(au) Dynladdiadau Domestig” - (ADD) a wnaethwyd yng Ngheredigion

Yn aml iawn os oes ymosodiad o Drais a Cham-drin Domestig wedi digwydd a’i fod wedi arwain at farwolaeth y dioddefwr nid hwnnw fydd yr ymosodiad cyntaf, ac mae'n debygol bod cam-drin seicolegol ac emosiynol wedi digwydd cyn hynny. Efallai y bydd llawer o bobl a nifer o asiantaethau’n ymwybodol o’r ymosodiadau hynny sy’n golygu weithiau y byddai wedi bod yn bosibl gwarchod rhag yr anafiadau difrifol a’r dynladdiad mewn achosion o drais a cham-drin domestig trwy ymyrryd yn gynnar.

Er mwyn gwneud hynny, mae angen polisïau a gweithdrefnau digonol ar yr Asiantaethau Lleol i gyfarwyddo’r staff ynglŷn â sut mae mynd ati i ymyrryd mewn achosion o drais domestig a cham-driniaeth. Mae hefyd angen sicrhau cefnogaeth arbenigol i’r dioddefwyr a'u plant yn ogystal â gwasanaethau i’r teuluoedd, ffrindiau, ac eraill a allai gael eu heffeithio gan y dynladdiad.

Cafodd Adolygiadau Dynladdiadau Domestig (ADD) eu sefydlu’n statudol o dan adran 9 Deddf Trais Domestig, Troseddu a Dioddefwyr, 2004. Daeth y ddarpariaeth honno i rym ar 13 Ebrill, 2011.

Pwrpas ADD yw:

  • Penderfynu pa wersi sydd i'w dysgu o ddynladdiad domestig ynglŷn â'r ffordd y mae staff proffesiynol a sefydliadau lleol yn gweithio'n unigol ac ar y cyd i ddiogelu dioddefwyr
  • Nodi'r gwersi hynny’n glir o fewn yr asiantaethau a rhyngddynt, sut mae eu gweithredu a beth yw’r amserlen ar gyfer gwneud hynny, a’r hyn y mae disgwyl iddo newid o ganlyniad
  • Defnyddio'r gwersi hynny yn ymatebion y gwasanaeth gan gynnwys newidiadau i bolisïau a gweithdrefnau fel bo'n briodol
  • Atal dynladdiadau sy’n digwydd oherwydd trais a cham-drin domestig a gwella ymateb y gwasanaeth ar gyfer holl ddioddefwyr trais a cham-drin domestig a'u plant drwy weithio’n well o fewn asiantaethau a rhyngddynt

Bydd yr Adolygiad hefyd yn asesu a oes gweithdrefnau a phrotocolau digonol a chadarn ar waith gan yr asiantaethau, ac a yw’r staff yn eu deall ac yn cadw atynt.

Bydd pob ADD a gaiff ei gwblhau yn cael sicrwydd ansawdd gan y Swyddfa Gartref gan banel arbenigol sy’n cynnwys asiantaethau statudol a gwirfoddol. Ar ôl ei gymeradwyo, mae’n rhaid cyhoeddi’r ADD ar wefan Diogelwch Cymunedol yr Awdurdod Lleol.

Mae canllawiau amlasiantaeth statudol llawn ynglŷn â chynnal ADD i'w cael gan y Swyddfa Gartref mewn dogfen sy’n dwyn y teitl "Canllawiau statudol amlasiantaeth ar gyfer cynnal Adolygiadau Dynladdiadau Domestig Diwygiedig - sy'n berthnasol i bob hysbysiad a wnaed ers 1 Awst, 2013 "