Weithiau bydd troseddau casineb yn dechrau fel digwyddiad casineb. Gelyniaeth yw hanfod digwyddiad casineb, a chaiff ei ysgogi gan anabledd, hil, crefydd, trawsryweddol neu gyfeiriadedd rhywiol. Mae sawl math o ddigwyddiad casineb, gan gynnwys difrïo, bygwth trais, bwlio, codi ofn neu gam-drin ar-lein.

Pan gaiff trosedd ei chyflawni, bydd digwyddiad casineb yn troi'n drosedd casineb. Os torrir y gyfraith cyflawnir trosedd, a gall hyn gynnwys ymosod ar rywun, ei aflonyddu, gwneud difrod troseddol neu anfon negeseuon casineb yn y post.

I ddarganfod mwy o wybodaeth am droseddau casineb a ffyrdd o adrodd, cliciwch yma.