Mae person yn fregus neu’n agored i niwed os na all amddiffyn ei hun rhag niwed neu gam-fanteisio oherwydd ei amgylchiadau personol neu sefyllfaol.

Helpwch ni i roi stop ar droseddau bregusrwydd, i amddiffyn pobl sy’n agored i niwed, ac i gadw cymunedau Ceredigion yn ddiogel.

Gall unrhyw un ddod yn agored i niwed neu ddioddef trosedd, ar unrhyw adeg, oherwydd eu amgylchiadau personol neu sefyllfaol.

Gallai amgylchiadau personol gynnwys:

  • Anabledd
  • Ethnigrwydd
  • Rhyw
  • Problemau iechyd meddwl
  • Crefydd
  • Cyfeiriadedd rhywiol
  • Oedran

Gallai amgylchiadau sefyllfaol gynnwys:

  • Salwch
  • Colli swydd
  • Dyled
  • Ynysu
  • Diffyg pŵer
  • Diffyg cymorth
  • Problemau ariannol
  • Presenoldeb camdriniwr (corfforol, emosiynol, rhywiol neu ariannol)
  • Camddefnyddio alcohol a sylweddau

Beth yw troseddau bregusrwydd?

Gallai mathau o droseddau bregusrwydd gynnwys, ond nid ydynt wedi'u cyfyngu i:

  • Cam-drin domestig
  • Sgamiau a thwyll
  • Llinellau Sirol (lle mae cyffuriau anghyfreithlon yn cael eu cludo o un ardal i'r llall gan bobl agored i niwed sy'n cael eu gorfodi gan gangiau)
  • Cogio (lle mae gwerthwyr yn cymryd drosodd eiddo sy'n eiddo i berson sy'n agored i niwed ac yn ei ddefnyddio fel canolfan ar gyfer ei weithgarwch troseddol)

... a llawer mwy.

Beth yw’r arwyddion?

Ni allwch bob amser sylwi ar ddioddefwr trosedd bregusrwydd. Ond gallwch helpu i adnabod yr arwyddion.

Ymhlith rhai o’r arwyddion i gadw golwg amdanynt o ran dioddefwr posibl mae:

  • Ymddangos yn bryderus neu’n ofnus
  • Ymddwyn yn anghymdeithasol
  • Tor perthynas
  • Dillad ac eiddo newydd
  • Gweithgaredd nosol
  • Dirywiad yn safon gwaith ysgol
  • Defnyddio cyff uriau neu alcohol
  • Niwed corff orol
  • 'Ffrindiau' newydd
  • Pobl yn mynd a dod o gyfeiriad

Sut i roi gwybod am drosedd bregusrwydd

Mae gan Geredigion un o’r cyfraddau troseddu isaf yn y DU, ond mae angen eich help arnom i’w gadw felly. Os nad yw rhywbeth yn ymddangos yn iawn, fel arfer nid yw. Gallwch roi gwybod am eich pryderon yn y ffyrdd canlynol:

Os yw rhywun mewn perygl uniongyrchol a bod angen cymorth arnoch ar unwaith:

  • Galwch yr Heddlu ar 999

Os nad yw’n argyfwng, ond eich bod am drafod gyda’r Heddlu:

Er mwyn rhoi gwybod, yn ddienw, am drosedd neu ymddygiad amheus, cysylltwch â Crimestoppers:

Os ydych chi’n credu y gallech fod yn ddioddefwr trosedd, cysylltwch â Chymorth i Ddioddefwyr Dyfed-Powys:

  • Ffoniwch Goleudy, eich tîm gofal dioddefwyr lleol yn Nyfed-Powys ar 0300 123 2996 rhwng 10yb – 6yh, dydd Llun i ddydd Sadwrn
  • E-bostiwch goleudy@dyfed-powys.pnn.police.uk
  • Os ydych chi angen cymorth y tu allan i oriau agor, ffoniwch Supportline Cymorth i Ddioddefwyr am ddim ar 08 08 16 89 111 neu gofynnwch am gymorth trwy’r wefan www.victimsupport.org.uk (Saesneg yn unig)

Adnoddau

Modiwl e-Ddysgu Troseddau Bregusrwydd

Os hoffech ddysgu rhagor am droseddau bregusrwydd, gall y modiwl eDdysgu hwn eich helpu i ddeall beth sy’n gwneud person yn fregus, pa fath o droseddau gall ei bod yn dioddef a beth i'w wneud os ydych yn poeni am rywun gall fod yn dioddef o drosedd bregusrwydd. Er mwyn cael mynediad i'r cwrs, ymweld â'r wefan Learning@Wales a mewngofnodwch fel ymwelydd.

Cymorth pellach

Os ydych chi’n byw yng Ngheredigion, efallai y bydd gennych ddiddordeb yn y grwpiau canlynol sydd yma i’ch helpu:

Logo diogel yn Ngheredigion