Pleidleisio drwy’r post

Newidiadau i’r modd yr ymdrinnir â phleidleisiau post a chyfrinachedd: Etholiadau Senedd y Deyrnas Unedig gan gynnwys is-etholiadau a deisebau adalw, ac Etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu. 

Bydd y darpariaethau hyn mewn grym ar gyfer yr etholiadau sy’n cael eu cynnal ar 2 Mai 2024 

Cyfyngiadau o ran cyflwyno pleidleisiau post mewn gorsaf bleidleisio  

Dim ond eich pleidlais bost eich hunan a phleidleisiau post hyd at bump o bobl eraill y bydd modd i chi eu cyflwyno mewn gorsaf bleidleisio. Os bydd unigolyn yn cyflwyno mwy na phump o bleidleisiau post ar ran etholwyr eraill, bydd yr holl bleidleisiau post (ar wahân i bleidlais bost yr unigolyn ei hunan) yn cael eu gwrthod. Os oes rheswm i gredu eich bod eisoes ar unrhyw achlysur blaenorol yn yr etholiad wedi cyflwyno’r nifer uchaf o bleidleisiau post a ganiateir, bydd unrhyw bleidleisiau post a gyflwynir wedi hynny yn cael eu gwrthod.

Cwblhau’r ffurflen dychwelyd pleidleisiau post

Bydd angen i bawb sy’n cyflwyno pleidleisiau post gwblhau ffurflen dychwelyd pleidleisiau post.

Os na fydd yr holl wybodaeth a ofynnir amdani wedi’i chynnwys ar y ffurflen neu os na fydd y swyddog awdurdodedig yn fodlon bod y ffurflen wedi’i chwblhau’n gywir, bydd y bleidlais bost / y pleidleisiau post yn cael eu gwrthod. Ni fydd y pleidleisiau post a wrthodir yn cael eu cynnwys yn y cyfrif.

Pleidleisiau post sy’n cael eu gadael yn yr orsaf bleidleisio

Ni dderbynnir y pleidleisiau post yr ydych yn eu gadael yn yr orsaf bleidleisio oni bai eich bod yn cwblhau ffurflen dychwelyd pleidleisiau post. Os bydd unigolyn yn cyflwyno pleidlais bost heb gwblhau’r ffurflen dychwelyd pleidleisiau post, rhaid gwrthod y pleidleisiau post.

Cyflwyno’r pleidleisiau post i’r Swyddog Canlyniadau

Gallwch gyflwyno’r pleidleisiau post yn uniongyrchol i’r Swyddog Canlyniadau cyn yr etholiad a rhaid gwneud hynny erbyn 10pm ar ddiwrnod y bleidlais ei hunan. Mae’r un cyfyngiadau yn bodoli ac mae’r gofyniad i gwblhau ffurflen dychwelyd pleidleisiau post hefyd yn berthnasol i’r pleidleisiau post a gyflwynir i’r Swyddog Canlyniadau yn:

  • Neuadd Cyngor Ceredigion, Penmorfa, Aberaeron SA46 0PA.

Ni chaiff pleidleisiau post a gyflwynir yn un o gyfeiriadau eraill y Cyngor eu derbyn gan na fydd neb yno i ddarparu’r ffurflen dychwelyd pleidleisiau post a’i llofnodi. Gwrthodir unrhyw bleidleisiau post sy’n cael eu gadael yn adeiladau’r Cyngor heb fod y ffurflen dychwelyd pleidleisiau post wedi’i chwblhau. Ni allwn dderbyn unrhyw bleidleisiau post sy’n cael eu gadael ym mlwch llythyron y Cyngor na’r rheini sy’n cael eu rhoi yn y system bost fewnol.

Ymestyn y gofynion o ran cyfrinachedd i bleidleisiau post a phleidleisiau drwy ddirprwy

Mae’r gofynion o ran cyfrinachedd sy’n berthnasol mewn gorsaf bleidleisio yn cael eu hymestyn i bleidleisiau post a phleidleisiau drwy ddirprwy. Bydd yn drosedd ceisio canfod sut y mae rhywun wedi pleidleisio wrth iddynt gwblhau eu pleidlais bost neu i gyfathrebu sut y mae pleidleisiwr post neu bleidleisiwr drwy ddirprwy wedi pleidleisio. Gallai rhywun sy’n cael ei ganfod yn euog o fynd yn groes i’r gofynion o ran cyfrinachedd wynebu dirwy neu gyfnod o hyd at chwe mis yn y carchar.

Ymgyrchwyr Gwleidyddol

Dim ond eu pleidlais bost eu hunain y gall ymgyrchwyr ei chyflwyno, a phleidleisiau post hyd at bump o bobl eraill sydd naill ai yn berthnasau agos, neu’n bobl y maent yn darparu gofal rheolaidd ar eu cyfer. Ni chânt eu gwahardd rhag ymdrin â phleidleisiau post os ydynt yn gwneud hyn fel rhan o’u dyletswyddau arferol (er enghraifft, os ydynt yn gweithio i’r Post Brenhinol).

Nid yw’r ddeddfwriaeth newydd ynglŷn ag ymdrin â phleidleisiau post yn berthnasol i Etholiadau Senedd Cymru nac ychwaith i Etholiadau Cynghorau Lleol yng Nghymru.

Am fwy o wybodaeth ynglŷn â’r newidiadau i’r modd yr ymdrinnir â phleidleisiau post, cysylltwch â gwasanaethauetholiadol@ceredigion.gov.uk neu ffoniwch 01545 572032.