Fel Swyddog Canlyniadau (Gweithredol) Cyngor Sir Ceredigion, rwyf wedi newid lleoliad rhai o’r gorsafoedd pleidleisio.
Mae manylion y newidiadau hyn wedi’u rhestru isod. Daw’r newidiadau hyn i rym ar gyfer unrhyw etholiadau a gynhelir ar ôl 1 Chwefror 2024
Newidiadau Parhaol
Dosbarth Etholiadol | Yr Orsaf Bleidleisio Flaenorol | Yr Orsaf Bleidleisio Newydd |
---|---|---|
Llanbadarn y Creuddyn | Neuadd y Paith Capel Seion, Capel Seion | Neuadd y Pentref, Llanfarian, Aberystwyth, SY23 4UH |
Canol Aberystwyth Central | Adeilad Byddin yr Iachawdwriaeth, Ffordd Alexandra | Canolfan Morlan, Morfa Mawr, Aberystwyth, SY23 2HH |
Henfynyw | Festri Capel Llwyncelyn, Llwyncelyn | Neuadd Pentref Llwyncelyn, Llwyncelyn, SA46 0HF |
Llangybi/Silian | Neuadd Goffa Llangybi, Llangybi | Canolfan y Gymuned, Ysgol-Y-Dderi, Llangybi, Llanbedr Pont Steffan, SA48 8LY |
Llanwnnen | Neuadd Eglwys Llanwnnen, Llanwnnen | Ysgol Cwrtnewydd, Cwrtnewydd, Llanybydder, SA40 9YN |
Llandygwydd | Neuadd Eglwys Llandygwydd, Llandygwydd | Festri Capel Beulah, Beulah, Castell Newydd Emlyn, SA38 9QB |
Brongwyn | Festri Capel Bryngwyn, Bryngwyn | Festri Capel Beulah, Beulah, Castell Newydd Emlyn, SA38 9QB |
Betws Ifan | Neuadd Gymunedol Betws Ifan, Betws Ifan | Festri Capel Beulah, Beulah, Castell Newydd Emlyn, SA38 9QB |
Aberporth | Canolfan Dyffryn Aberporth, Banc y Dyffryn, Aberporth | Neuadd Bentref Aberporth, Aberporth, SA43 2EN |
Newidiadau Dros Dro
Dosbarth Etholiadol | Yr Orsaf Bleidleisio Bresennol | Yr Orsaf Bleidleisio Dros Dro |
---|---|---|
Rheidol | Tŷ'r Harbwr, Y Lanfa, Trefechan | Clwb Pêl-droed Tref Aberystwyth, Coedlen y Parc, Aberystwyth, SY23 1PG |
Llanfihangel Ystrad | Canolfan Steffan, Cribyn | Neuadd Goffa Felinfach, Felinfach, Llanbedr Pont Steffan, SA48 8AE |
Eifion Evans
Y Swyddog Cofrestru Etholiadol a’r Swyddog Canlyniadau (Gweithredol)
24 Ionawr 2024