Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU 2022-2025

Mae'r gronfa hon ar agor.

Mae Cronfa Rhaglen Digwyddiadau Cynnal y Cardi, CFfGDU ar gyfer Ceredigion yn rhan o gyfres ehangach o raglenni sy'n cael eu darparu yng Ngheredigion, a ariennir drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU. Mae twristiaeth yn sector economaidd sydd o bwysigrwydd hanfodol i Geredigion, y trydydd cyflogwr mwyaf yn y Sir ac rydym yn awyddus i adeiladu'r sector hwn a denu ymwelwyr newydd i'r ardal.

Mae Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU 2022-2025 yn biler canolog ar agenda uchelgeisiol Llywodraeth y DU ac yn elfen sylweddol o'i chefnogaeth i leoedd ledled y DU. Mae'n darparu tair blynedd o gyllid ar gyfer buddsoddiad lleol.

Bydd Cronfa Rhaglen Digwyddiadau Cynnal y Cardi yn canolbwyntio ar:

  • Denu ymwelwyr i'r Sir. Bydd yn rhaid I geisiadau dangos sut y bydd gan y digwyddiad budd I’r Sir gyfan, sirol gyfan, yn ogystal â manteision rhanbarthol a chenedlaethol ehangach posibl
  • Cefnogi twf busnesau cysylltiedig (buddion busnes anuniongyrchol) a datblygu a chreu swyddi o gwerth uwch
  • Datblygu a hyrwyddo digwyddiadau a phrofiadau lleol drwy gydol y flwyddyn sy'n annog pobl i ymweld â'r ardal leol a'i harchwilio. Rhaid i geisiadau dangos sut y bydd y digwyddiad yn gwneud gwahaniaeth i unigolion, cymunedau a'r economi leol
  • Cefnogaeth ar gyfer y celfyddydau lleol, treftadaeth ddiwylliannol a gweithgareddau creadigol
  • Rhaid i ddigwyddiadau gefnogi uchelgeisiau ynghylch newid yn yr hinsawdd neu'r newid i economi werdd trwy gynaliadwyedd a lleihau gwastraff

Faint o grant sydd ar gael?

Yr isafswm grant ar gael yw - £30,000.

Yr uchafswm grant ar gael yw - £100,000.

Bydd pob grant yn seiliedig ar 80% o'r costau cymwys. Rhaid i arian cyfatebol fod yn arian parod (yn hytrach na "mewn nwyddau").

Mae’n angenrheidiol bod yr holl weithgarwch wedi’u gwblhau a'r cyllid wedi ei hawlio erbyn 31 Rhagfyr 2024. Bydd y grant yn darparu cymorth ariannol tuag at wariant refeniw a rhywfaint o wariant cyfalaf ar raddfa fach. Bydd y grant yn cael ei ddyrannu ar sail y cyntaf i'r felin. Mae gwneud cais yn broses gystadleuol a bydd arloesedd, canlyniadau ac effaith a gwerth am arian yn ffactor allweddol pan gaiff prosiectau eu gwerthuso.

O ran sicrhau cymhwysedd y prosiect, darllenwch y nodiadau cyfarwyddyd yn ofalus ac anfonwch friff byr yn amlinellu eich syniad (fformat pwynt bwled) a dadansoddiad o'r gwariant a’u anfon at ce.cynnalycardi@ceredigion.gov.uk cyn dechrau ar y ffurflen gais.

Ffurflen Gais Cronfa Rhaglen Digwyddiadau Cynnal y Cardi

Canllawiau Cynllun Cronfa Rhaglen Digwyddiadau Cynnal y Cardi