Mae Sialens Gerdded wedi’i chreu gan ddefnyddio Hawliau Tramwy Cyhoeddus ledled Ceredigion. Bydd y teithiau cerdded hunan dywysedig hyn yn eich harwain ar draws y sir gyfan i archwilio rhai o olygfeydd harddaf Ceredigion, o glogwyni gwyllt gwyntog i ddyffrynnoedd coediog cysgodol.

Mae dros 2500km o Hawliau Tramwy Cyhoeddus yn igam-ogamu ar draws Ceredigion. Nod y Sialens Gerdded hon yw tynnu sylw at y llwybrau sydd ar gael ledled y sir gan gynnwys llwybrau llai adnabyddus a ffyrdd gwahanol o gyrraedd safleoedd poblogaidd, gan annog pobl i fynd i gefn gwlad er budd eu hiechyd a’u lles.
Awgrymir y 3 Sialens Gerdded isod a fydd yn galluogi i’r rhan fwyaf o gerddwyr gymryd rhan.
Fe fydd amryw o deithiau cerdded ar draws y sir yn cael eu gyhoeddi yn wythnosol ar dudalennau cyfryngau cymdeithasol corfforaethol y Cyngor.
Facebook, Twitter a Instagram.
Teithiau byr, llai egnïol wedi’u hanelu at deuluoedd.
Mwnt - 1.5 milltir
Penbryn - 1.6 milltir
Furnace - 3.4 milltir
Gwbert - 3.5 milltir
Os gwnaethoch fwynhau cwblhau’r Sialens 10 milltir yna efallai yr hoffech barhau a chwblhau’r Sialens 50 milltir. Mae’r 10 milltir a gwblhawyd yn y Sialens gyntaf yn cyfrannu at y Sialens 50 milltir.
Teithiau ychydig yn hirach a mwy egnïol gyda rhywfaint o dirwedd heriol.
Aberaeron - Aberarth - 4.5 milltir
Silian - 3 milltir
Constitution Hill - 3.8 milltir
Aberaeron - 4.2 milltir
Capel Dewi, Coed y Foel - 4 milltir
Pontrhydfendigaid - 4.3 milltir
Llanerchaeron - 5.5 milltir
Llanon - Llanrhystud - 6 milltir
Penbryn - Llangrannog - 4.5 milltir
Os gwnaethoch fwynhau cwblhau'r Sialens 50 milltir yna efallai yr hoffech fynd ymlaen i'r Sialens 100 milltir. Mae’r milltiroedd a gwblhawyd yn y Sialens 10 a 50 milltir yn cyfrannu at y Sialens 100 milltir.
Teithiau hirach gyda thirwedd heriol a heriau cyfeiriannu posibl.
Teifi Pools - 8 milltir
Bontgoch - 7 milltir
New Quay – Cwmtydu - 8 milltir
Tanybwlch - 5.8 milltir
Cardigan - Ferwig - 7 milltir
Lampeter Allt Goch - 5.8 millti
Trefeurig - 9.5 milltir
Dewiswyd y teithiau uchod o dudalen Crwydro a Marchogaeth y Cyngor. Os hoffech gwblhau unrhyw un o’r Sialensau gan ddefnyddio teithiau eraill yna ewch i’r dudalen Crwydro a Marchogaeth i ddod o hyd i deithiau eraill.
Drwy glicio ar daith, cewch wybodaeth ychwanegol a allai fod yn ddefnyddiol wrth i chi gynllunio eich teithiau. Yn ogystal â rhoi’r pellter mae’n cynnwys proffil y daith fel y gallwch weld unrhyw fan dringo heriol, camfeydd a grisiau y gallech ddod ar eu traws ynghyd â’r math o arwyneb a geir ar y daith. Awgrymir hefyd fannau parcio, cyfleusterau yn yr ardal a gwybodaeth am fysiau.
Pa bynnag daith y dewiswch ei cherdded, cofiwch bod esgidiau cadarn yn hanfodol yn ogystal â dillad sy’n addas ar gyfer y tywydd a’ch bod yn cario dŵr yfed gyda chi. Parchwch y tir yr ydych yn ei groesi bob amser a chadwch at y Cod Cefn Gwlad.
Rhowch wybod i ni os byddwch yn cymryd rhan!
Os gwnaethoch fwynhau cwblhau’r teithiau cerdded hyn, rhannwch unrhyw luniau a dynnwyd ar y daith gyda ni. Anfonwch nhw i Sian-Medi.Davies@ceredigion.gov.uk. (Noder eich bod, drwy anfon y lluniau hyn atom, yn cytuno iddynt gael eu defnyddio at ddibenion cyhoeddusrwydd yn y wasg a’r cyfryngau ac ar dudalennau cyfryngau cymdeithasol y Cyngor).
Cofiwch adrodd ar unrhyw broblem y dewch ar ei thraws ar y daith i'n Canolfan Cyswllt Gwasanaethau Cwsmeriaid drwy ffonio 01545 570 881 neu ebostio clic@ceredigion.gov.uk.