Mae Sialens Gerdded wedi’i chreu gan ddefnyddio Hawliau Tramwy Cyhoeddus ledled Ceredigion. Bydd y teithiau cerdded hunan dywysedig hyn yn eich harwain ar draws y sir gyfan i archwilio rhai o olygfeydd harddaf Ceredigion, o glogwyni gwyllt gwyntog i ddyffrynnoedd coediog cysgodol.

Mae dros 2500km o Hawliau Tramwy Cyhoeddus yn igam-ogamu ar draws Ceredigion. Nod y Sialens Gerdded hon yw tynnu sylw at y llwybrau sydd ar gael ledled y sir gan gynnwys llwybrau llai adnabyddus a ffyrdd gwahanol o gyrraedd safleoedd poblogaidd, gan annog pobl i fynd i gefn gwlad er budd eu hiechyd a’u lles.

Awgrymir y 3 Sialens Gerdded isod a fydd yn galluogi i’r rhan fwyaf o gerddwyr gymryd rhan.

Fe fydd amryw o deithiau cerdded ar draws y sir yn cael eu gyhoeddi yn wythnosol ar dudalennau cyfryngau cymdeithasol corfforaethol y Cyngor. 

Facebook, Twitter a Instagram.

Teithiau byr, llai egnïol wedi’u hanelu at deuluoedd.

Mwnt - 1.5 milltir

Penbryn - 1.6 milltir

Furnace - 3.4 milltir

Gwbert - 3.5 milltir

Os gwnaethoch fwynhau cwblhau’r Sialens 10 milltir yna efallai yr hoffech barhau a chwblhau’r Sialens 50 milltir. Mae’r 10 milltir a gwblhawyd yn y Sialens gyntaf yn cyfrannu at y Sialens 50 milltir.

Teithiau ychydig yn hirach a mwy egnïol gyda rhywfaint o dirwedd heriol.

Aberaeron - Aberarth - 4.5 milltir 

Silian - 3 milltir

Constitution Hill - 3.8 milltir

Aberaeron - 4.2 milltir

Capel Dewi, Coed y Foel - 4 milltir 

Pontrhydfendigaid - 4.3 milltir

Llanerchaeron - 5.5 milltir

Llanon - Llanrhystud - 6 milltir

Penbryn - Llangrannog - 4.5 milltir

Os gwnaethoch fwynhau cwblhau'r Sialens 50 milltir yna efallai yr hoffech fynd ymlaen i'r Sialens 100 milltir. Mae’r milltiroedd a gwblhawyd yn y Sialens 10 a 50 milltir yn cyfrannu at y Sialens 100 milltir.

Teithiau hirach gyda thirwedd heriol a heriau cyfeiriannu posibl.

Teifi Pools - 8 milltir

Bontgoch - 7 milltir

New Quay – Cwmtydu - 8 milltir

Tanybwlch - 5.8 milltir

Cardigan - Ferwig - 7 milltir

Lampeter Allt Goch - 5.8 millti

Trefeurig - 9.5 milltir

Hen Domen trail

Llwybr y Clogwyn Aberporth 

Cenarth - 700 medr o lwybr hygyrch ar hyd y llwybr pren

 

Dewiswyd y teithiau uchod o dudalen Crwydro a Marchogaeth y Cyngor. Os hoffech gwblhau unrhyw un o’r Sialensau gan ddefnyddio teithiau eraill yna ewch i’r dudalen Crwydro a Marchogaeth i ddod o hyd i deithiau eraill.

Drwy glicio ar daith, cewch wybodaeth ychwanegol a allai fod yn ddefnyddiol wrth i chi gynllunio eich teithiau. Yn ogystal â rhoi’r pellter mae’n cynnwys proffil y daith fel y gallwch weld unrhyw fan dringo heriol, camfeydd a grisiau y gallech ddod ar eu traws ynghyd â’r math o arwyneb a geir ar y daith.  Awgrymir hefyd fannau parcio, cyfleusterau yn yr ardal a gwybodaeth am fysiau.

Pa bynnag daith y dewiswch ei cherdded, cofiwch bod esgidiau cadarn yn hanfodol yn ogystal â dillad sy’n addas ar gyfer y tywydd a’ch bod yn cario dŵr yfed gyda chi. Parchwch y tir yr ydych yn ei groesi bob amser a chadwch at y Cod Cefn Gwlad.

Rhowch wybod i ni os byddwch yn cymryd rhan!

Os gwnaethoch fwynhau cwblhau’r teithiau cerdded hyn, rhannwch unrhyw luniau a dynnwyd ar y daith gyda ni. Anfonwch nhw i Sian-Medi.Davies@ceredigion.gov.uk. (Noder eich bod, drwy anfon y lluniau hyn atom, yn cytuno iddynt gael eu defnyddio at ddibenion cyhoeddusrwydd yn y wasg a’r cyfryngau ac ar dudalennau cyfryngau cymdeithasol y Cyngor).

Cofiwch adrodd ar unrhyw broblem y dewch ar ei thraws ar y daith i'n Canolfan Cyswllt Gwasanaethau Cwsmeriaid drwy ffonio 01545 570 881 neu ebostio clic@ceredigion.gov.uk.