Ni fydd Cyngor Sir Ceredigion yn llacio nac yn newid ei safiad mewn perthynas â gwasanaethau a chyfleusterau y mae’n eu darparu ar hyn o bryd. Eithriad i hyn yw’r cynlluniau i agor y Safleoedd Gwastraff Cartref.
Bydd yr adolygiad nesaf ar ôl cyhoeddiad tair wythnosol Llywodraeth Cymru ynghylch sefyllfa COVID-19, a ddisgwylir ar 19 Mehefin, 2020.
Mae Swyddfeydd Harbyrau’r Cyngor yn Aberystwyth, Aberaeron a Cheinewydd ar gau oddi ar 23 Mawrth 2020 ac nid oes unrhyw gynlluniau i’w hailagor yn y dyfodol agos.
Nid yw’r Cyngor yn bleidiol i unrhyw weithgareddau hamdden ar ddŵr na thir nac yn caniatáu gweithgareddau o’r fath o fewn ei harbyrau nac ar ei draethau ar yr adeg hon. Mae’r safiad hwn yn rhoi ystyriaeth i’r canlynol:
• y cyfyngiadau a’r canllawiau sy’n parhau mewn grym
• yr ymdrechion i leihau’r risgiau wrth wynebu’r posibilrwydd y bydd nifer sylweddol o bobl yn ceisio mynediad at y cyfleusterau hyn ac yn ceisio’u defnyddio
• y pwysau diangen posibl y gallai gweithgareddau o’r fath eu rhoi ar y gwasanaethau brys.
Ers yn gynnar iawn, wrth i sefyllfa’r pandemig COVID-19 ddatblygu, mae Cyngor Sir Ceredigion, wedi cymryd camau cadarnhaol a rhagweithiol er mwyn lleihau lledaeniad posibl y feirws yng Ngheredigion.
Hoffem ddiolch i’r preswylwyr lleol am eu cefnogaeth a’u dealltwriaeth parhaus yn ystod y cyfnod hwn, wrth i ni geisio cadw a chynnal yr ymagwedd lwyddiannus hon yn ogystal â’n sefyllfa o ran y gyfradd heintio ar lefel leol.
04/06/2020