Atgoffir aelwydydd cymwys i wneud cais ar gyfer y Cynllun Cymorth Tanwydd Gaeaf i gael cymorth tuag at dalu biliau tanwydd yn ystod y gaeaf.
Fel rhan o becyn cymorth o dros £50 miliwn i fynd i’r afael â’r pwysau uniongyrchol ar gostau byw yng Nghymru, mae Llywodraeth Cymru wedi darparu dros £38 miliwn drwy gyfrwng Cynllun Cymorth Tanwydd Gaeaf.
Hyd yn hyn, mae Cyngor Sir Ceredigion wedi cynorthwyo dros 1,800 o aelwydydd gyda'r taliadau hyn, ac wedi rhoi dros £180,000 mewn taliadau. Felly os ydych yn wynebu biliau tanwydd uwch ac yn meddwl y gallech fod yn gymwys, cyflwynwch eich cais cyn gynted â phosibl. Nodwch fod y cynllun yn dod i ben ar 18 Chwefror 2022.
Gall aelwydydd cymwys hawlio taliad untro o £100 i gael cymorth tuag at dalu eu biliau ar gyfer tanwydd a ddarperir gan y grid yn ystod y gaeaf ar gyfer eu prif breswylfa yng Nghymru.
Mae'r cynllun yn agored i aelwydydd lle mae un aelod yn derbyn budd-daliadau lles oedran gweithio sy’n dibynnu ar brawf modd (ar unrhyw adeg rhwng 1 Rhagfyr 2021 a 31 Ionawr 2022):
- Cymhorthdal Incwm , neu
- Lwfans Ceisio Gwaith yn Seiliedig ar Incwm, neu
- Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn Seiliedig ar Incwm, neu
- Gredyd Cynhwysol, neu
- Gredyd Treth Gwaith
Bydd y taliad ar gael i bob cartref cymwys p'un a ydynt yn talu am eu tanwydd ar fesurydd rhagdalu, drwy ddebyd uniongyrchol neu drwy dalu bil bob chwarter.
Dywedodd y Cynghorydd Gareth Lloyd, Aelod Cabinet ar gyfer y Gwasanaethau Cyllid a Chaffael a Diogelu’r Cyhoedd: “Byddwn yn annog pobl sy'n wynebu biliau tanwydd uwch i wirio a ydyn nhw’n gymwys ar gyfer y Cynllun Cymorth Tanwydd Gaeaf i gael cymorth amhrisiadwy gyda biliau tanwydd pan fo’i angen fwyaf.”
Gellir gwneud ceisiadau hyd at hanner nos ar 18 Chwefror 2022 ar ein gwefan: Cynllun Cymorth Tanwydd y Gaeaf.
26/01/2022