Mae ymweliadau a phob Cartref Gofal yng Ngheredigion wedi cael eu hatal dros dro.

Mae staff ymhob Cartref Gofal ledled Ceredigion yn cael eu profi am Covid-19 bob pythefnos, a hynny’n unol â chanllawiau’r llywodraeth, ac mae achosion positif wedi cael eu cadarnhau mewn dau Cartref Gofal annibynnol yn ardal Aberystwyth. Ar hyn o bryd, nid oes yr un preswylydd wedi profi’n bositif ond byddant yn parhau i gael eu monitro’n agos.

Mae Cyngor Sir Ceredigion yn rhoi cymorth i staff a phreswylwyr y cartref, yn dilyn canllawiau gan Iechyd Cyhoeddus Cymru. Mae’r unigolion dan sylw yn cael eu cefnogi gan Dîm Olrhain Cysylltiadau Ceredigion.

Mae Cyngor Sir Ceredigion wedi cymryd y cam hwn er mwyn diogelu iechyd, diogelwch a lles ein holl breswylwyr, staff a'r cyhoedd mewn amseroedd digynsail sy'n newid yn barhaus. Mae gofalu am breswylwyr ein cartrefi gofal o'r pwys mwyaf i ni, felly bydd ymweliadau'n cael eu hatal dros dro.

Rydym yn deall pa mor anodd y gall hyn fod i berthnasau a phreswylwyr, a byddant yn parhau i allu cyfathrebu trwy alwadau ffôn a fideo cynadledda/skype. Rydym yn hynod ddiolchgar am gydweithrediad y staff, preswylwyr y cartrefi gofal ac aelodau o’r cyhoedd wrth i ni gymryd pob cam i gadw preswylwyr Ceredigion yn ddiogel ac yn iach. Rydym hefyd yn ddiolchgar am gydweithrediad y cartrefi gofal preifat sydd hefyd wedi atal pob ymweliad dros dro.

Mae mor bwysig ag erioed ein bod yn cadw pellter cymdeithasol, yn golchi ein dwylo’n rheolaidd ac yn gwisgo gorchudd wyneb pan nad yw’n bosibl cadw pellter cymdeithasol.

Mae rhagor o wybodaeth a chyngor am y coronafeirws ar gael ar ein gwefan: www.ceredigion.gov.uk/coronafeirws

Diolch am gadw hyd braich i leddfu’r baich. Gyda’n gilydd gallwn gadw Ceredigion yn ddiogel.

11/09/2020