Gyda rhagolygon o lefelau aflonyddgar o eira a thymheredd oer iawn, mae Cyngor Sir Ceredigion wedi rhoi cyngor i bob ysgol i gau a phenderfynu i gau canolfannau gofal dydd ar ddydd Iau 01 Mawrth, a dydd Gwener 02 Mawrth, 2018. Bydd gwasanaethau casglu gwastraff yn cael eu gohirio ar y diwrnodau yma hefyd.

Mae’r rhybuddion tywydd yn nodi tebygolrwydd uchel o aflonyddwch arwyddocaol o ganol dydd yfory rhagddo. Mae’r Met Office wedi cyhoeddi rhybudd tywydd ambr ar gyfer eira a rhew o 12yp ar ddydd Iau 01 Mawrth tan 8yb ar ddydd Gwener 02 Mawrth. Bydd y Cyngor yn trin y priffyrdd ledled Ceredigion ond anogir drigolion i beidio teithio os nad y teimlir bod angen. Bydd y ffyrdd nad yw’n briffyrdd yn debygol o fod yn rhewllyd ac yn anodd i’w defnyddio.

Dywedodd y Cynghorydd Ray Quant MBE, yr Aelod Cabinet â chyfrifoldeb dros Wasanaethau Technegol, “Mae staff y Cyngor yn parhau gyda gwaith paratoadol pwysig ac yn gweithio mewn patrymau shifft yn dechrau ar 12yb ar fore Iau. Byddant yn gwneud pob ymdrech i gadw Ceredigion i symud, ond cynghorir y cyhoedd i gymryd sylw o'r wybodaeth sydd ar gael iddynt yn ystod digwyddiadau tywydd fel hyn pan fo amodau'n gallu newid yn gyflym. Os ystyrir bod angen teithio, yna dylid bod yn ofalus a gweithredu’n briodol a gwneud paratoadau addas.”

Yn unol â’r cyfrifoldebau sydd wedi eu dirprwyo i benaethiaid a Llywodraethwyr ysgol, mae gan unrhyw ysgol yr hawl i agor ond dylai unrhyw benderfyniad i wneud hynny gymryd ystyriaeth lawn o’r cyngor gan gynnwys y ffaith na fydd unrhyw drafnidiaeth ar gael. Am fwy o wybodaeth ar gau ysgolion, ewch i wefan y Cyngor ar www.Ceredigion.gov.uk

Yn sgil gohirio gwasanaethau casglu gwastraff, gofynnir i drigolion gyflwyno eu gwastraff ar gyfer eu diwrnod rhestredig nesaf. Mae’r Cyngor yn ymddiheurio am unrhyw anghyfleustra mae hwn yn creu ac yn gwerthfawrogi dealltwriaeth y cyhoedd a’u cydweithrediad mewn amgylchiadau o’r fath.

Mae gwybodaeth ynglŷn a’r gwasanaeth casglu gwastraff ar gael ac yn cael ei ddiweddaru yn rheolaidd ar http://www.ceredigion.gov.uk/preswyliwr/biniau-ac-ailgylchu/dyddiadau-casgliadau-ailgylchu-a-biniau/aflonyddwch-gwastraff/. Gellir weld mwy o wybodaeth am priffyrdd yn ystod y gaeaf yma: http://www.ceredigion.gov.uk/preswyliwr/teithio-ffyrdd-a-pharcio/y-priffyrdd-dros-y-gaeaf/

28/02/2018