Dim ond pythefnos sydd i fynd nes y dyddiad cau i gofrestru i bleidleisio yn Etholiad Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu ar 02 Mai 2024, ac mae Cyngor Sir Ceredigion am annog trigolion i wneud yn siŵr eu bod wedi cofrestru mewn pryd.

Y dyddiad cau ar gyfer cofrestru i bleidleisio yw hanner nos ar 16 Ebrill. Gallwch wneud cais ar-lein ar Cofrestru i bleidleisio - GOV.UK (www.gov.uk). Os ydych wedi symud tŷ yn ddiweddar, rhaid i chi gofrestru i bleidleisio yn eich cyfeiriad newydd.

Am y tro cyntaf yng Nghymru, gan gynnwys Ceredigion, fe fydd angen i bleidleiswyr cymwys ddangos dogfen adnabod â llun i bleidleisio mewn rhai etholiadau, gan gynnwys Etholiadau Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu. Fel pleidleisiwr, gallwch ddefnyddio dogfen adnabod â llun nad yw’n gyfredol os oes modd eich adnabod o’r llun.

Os nad oes gennych unrhyw fath o ddogfen adnabod a dderbynnir, gallwch wneud cais am ddogfen adnabod â llun yn rhad ac am ddim, a elwir yn Dystysgrif Awdurdod Pleidleisiwr yma: Cyflwynwch gais am ddull adnabod â llun i bleidleisio (a elwir yn 'Dystysgrif Awdurdod Pleidleiswyr') - GOV.UK (www.gov.uk). Y dyddiad cau ar gyfer gwneud cais am ddogfen adnabod â llun yw 5:00yp Ddydd Mercher 24 Ebrill.

Efallai bydd eich Gorsaf Bleidleisio wedi newid ers y tro diwethaf i chi bleidleisio yn dilyn adolygiad o Ddosbarthiadau Etholiadol, Mannau Pleidleisio a Gorsafoedd Pleidleisio ar ddiwedd blwyddyn ddiwethaf. Mae’n werth gwirio eich Gorsaf Bleidleisio yma Mapiau o’r ardaloedd lleol yng - Cyngor Sir Ceredigion. Bydd Gorsafoedd Bleidleisio ar agor o 07:00yb hyd at 10:00yh ar Ddydd Iau 02 Mai 2024.

Os nad ydych am bleidleisio'n bersonol, gallwch wneud cais ar gyfer pleidlais bost hyd at 5:00yp Ddydd Mercher 17 Ebrill a cyn 5:00yp Ddydd Mercher 24 Ebrill ar gyfer pleidleisio drwy ddirprwy. Gallwch nawr wneud cais ar-lein i bleidleisio drwy’r post How to vote: Voting by post - GOV.UK (www.gov.uk) neu drwy ddirprwy How to vote: Voting by proxy - GOV.UK (www.gov.uk).

Eifion Evans yw Swyddog Canlyniadau Ceredigion. Dywedodd: “Gyda dim ond pythefnos i fynd, nid oes gennych lawer o amser i sicrhau y gallwch gymryd rhan yn Etholiad y Comisiynydd Heddlu a Throseddu. Er mwyn pleidleisio yn yr etholiadau, rhaid i drigolion fod ar y gofrestr etholiadol. Felly os na fyddwch wedi cofrestru erbyn 16 Ebrill, ni fyddwch yn gallu cymryd rhan. Cofiwch bydd angen i chi ddod a dogfen adnabod â llun gyda chi os ydych am bleidleisio yn bersonol eleni. Os nad oes gennych ddogfen adnabod addas, gallwch wneud cais am Dystysgrif Awdurdod Pleidleisiwr cyn 5yp Dydd Mercher, 24 Ebrill. Nid ydym am i neb golli eu hawl i bleidleisio.”

Am fwy o wybodaeth ewch i www.ceredigion.gov.uk/etholiadcomisiynyddyrheddluathroseddu2024 neu chysylltwch â Gwasanaeth Etholiadol Ceredigion ar 01545 572032 neu gwasanaethauetholiadol@ceredigion.gov.uk

02/04/2024