Dros fisoedd y gaeaf 2023-24, roedd preswylwyr Ceredigion yn gallu cael mynediad at dros 54 o fannau Croeso Cynnes ledled y Sir.

Bwriad y Mannau Croeso Cynnes yw rhoi lle cynnes i breswylwyr ymlacio, mwynhau a chymdeithasu. Mae pob lle yn wahanol, mae rhai yn darparu paned o de neu bowlen o gawl, eraill yn rhoi’r cyfle i ddod â rhieni gyda phlant ifanc a phobl hŷn ynghyd i gymdeithasu, yn rhad ac am ddim neu am rodd fach.

Edrychwch ar y map rhyngweithiol ar wefan y Cyngor i ddod o hyd i'ch Lle Croeso Cynnes lleol, ble mae dros 12,000 o bobl wedi ymweld â’r gwefan: Mannau Croeso Cynnes Ceredigion Gaeaf 2023-24 – Google my maps

Dywedodd y Cynghorydd Catrin M S Davies, Aelod Cabinet y Cyngor sy’n gyfrifol am Ddiwylliant, Hamdden a Gwasanaethau Cwsmeriaid: “Mae cynnal  sesiynau rheolaidd yn mynnu ymroddiad llwyr a mae llu o wirfoddolwyr ar draws y Sir wedi galluogi bod yna ddarpariaeth eang o Fannau Cynnes drwy fisoedd y gaeaf. Mae pob un ohonynt  yn haeddu y clod mwyaf a’n diolchiadau twymgalon."

Gall breswylwyr gysylltu â'n canolfan gyswllt Clic a gofyn am y Mannau Croeso Cynnes ar 01545 570881 neu e-bostio clic@ceredigion.gov.uk

Bydd nifer o'r Mannau Croeso Cynnes hyn yn parhau i roi cyfle i gymdeithasu dros y misoedd nesaf.

14/03/2024