Mae Ysgol Bro Teifi wedi derbyn cydnabyddiaeth am ymrwymiad a chefnogaeth yr ysgol i ofalwyr ifanc ac aelodau staff sy’n mynychu’r ysgol.

Mae'r ysgol wedi ennill gwobr Lefel Efydd Buddsoddwyr mewn Gofalwyr. Mae’r cynllun yn cael ei ddarparu gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda a’i gefnogi gan awdurdodau lleol a phartneriaid trydydd sector yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro.

Cynlluniwyd y fenter Buddsoddwyr mewn Gofalwyr yn wreiddiol i helpu cyfleusterau iechyd fel practisau meddygon teulu, ardaloedd o fewn ysbytai a sefydliadau eraill i wella a chanolbwyntio ar eu hymwybyddiaeth o ofalwyr. Mae’n gynllun sy’n darparu sylfaen ar gyfer helpu i nodi a chefnogi gofalwyr di-dâl o bob oed. Aseswyd Ysgol Bro Teifi yn erbyn y chwe thema o fewn y cynllun: Arweinydd Gofalwyr, Hyfforddiant Staff, Adnabod, Gwybodaeth a Chymorth i Ofalwyr a Gwerthuso. Nhw oedd y cyntaf yn y sir i gyflwyno eu tystiolaeth yn Gymraeg.

Dywedodd yr ysgol: “Mae Ysgol Bro Teifi wrth ei bodd i dderbyn y marc ansawdd Buddsoddwyr mewn Gofalwyr. Mae’r marc yn cadarnhau’r gwaith da sy’n mynd ymlaen yn yr ysgol i gefnogi’r gofalwyr ymhlith ein disgyblion a hefyd ein staff. Yn dilyn hyfforddiant trwy gyfrwng y Gymraeg mae’r marc ansawdd yn dangos bod yr ysgol yn gallu adnabod a chefnogi gofalwyr ac yna eu cyfeirio at y man priodol am gefnogaeth bellach. Hoffai’r Pennaeth Dros Dro, Gareth Evans, ddiolch i’r holl staff sy’n gweithio’n ddiflino i gefnogi gofalwyr a hefyd Mrs Delyth Evans am gydlynu’r cais am y marc ansawdd gwerthfawr hwn.”

Dywedodd y Cynghorydd Wyn Thomas, Aelod Cabinet Ceredigion dros Ysgolion, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau: “Llongyfarchiadau i Ysgol Bro Teifi ar dderbyn y wobr hon. Mae gofalwyr yn gweithio’n ddiflino yn gofalu am deulu, partneriaid neu ffrindiau sydd angen cymorth, ac mae sicrhau eu bod yn cael cydnabyddiaeth o fewn yr ysgol yn werthfawr iawn.”

Gofalwr di-dâl yw rhywun, o unrhyw oedran, sy'n darparu cymorth di-dâl i deulu neu ffrindiau na allent ymdopi heb y cymorth hwn. Gallai hyn olygu gofalu am berthynas, partner neu ffrind sy'n sâl, yn fregus, yn anabl neu sydd â phroblemau iechyd meddwl neu gamddefnyddio sylweddau. Gall unrhyw un ddod yn ofalwr; yn y rhan fwyaf o achosion nid yw dod yn ofalwr allan o ddewis, mae'n digwydd.

I gael rhagor o wybodaeth am y cynllun Buddsoddwyr mewn Gofalwyr neu am gyngor defnyddiol i ofalwyr, ewch i wefan Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: Gwybodaeth i Ofalwyr neu e-bostiwch carersteam.hdd@wales.nhs.uk

Gallwch hefyd ddod o hyd i ragor o wybodaeth ar dudalen we Cyngor Sir Ceredigion: Cymorth i Ofalwyr

23/01/2024