Yn unol a rhan BT (British Telecommunications) yn symudiad ehangach y diwydiant tuag at linellau tir digidol erbyn 2025, mae BT yn cynnal digwyddiadau i gwsmeriaid drafod unrhyw gwestiwn neu bryderon am y newidiadau rhwydwaith.

Ynghyd â darparwyr eraill, mae BT yn newid o’r rhwydwaith analog y mae’r rhan fwyaf o ffonau cartref yn gweithio arno heddiw, ac yn symud i’r hyn a elwir yn ‘Llais Digidol’. Dros yr ychydig flynyddoedd nesaf, ni fydd y rhwydwaith presennol yn addas i'r diben gan na fydd yn gallu cadw i fyny â gofynion modern.

Nid yw'r uwchraddiadau hyn yn digwydd yn aml, ac maent yn angenrheidiol er mwyn sicrhau bod pawb yn cadw mewn cysylltiad nawr, ac yn y dyfodol. Mae'r gwasanaeth newydd yn cynnig llawer o fanteision a nodweddion gwell dros y system bresennol, megis bod mewn gwell sefyllfa i rwystro galwyr sbam.

I'r rhan fwyaf o bobl, ni fydd llinellau ffôn digidol yn cael unrhyw effaith ar sut mae ffonau cartref yn cael eu defnyddio fel arfer. Bydd y gwasanaeth, y cynllun pris a'r biliau i gyd yn aros yr un fath. Rhagwelir y bydd darparwyr mewn cysylltiad pan ddaw’n amser newid drosodd, gyda chyfarwyddiadau syml ar beth i’w wneud nesaf.

Mae tri digwyddiad wedi'u cadarnhau gan BT ar gyfer Ceredigion ac nid oes angen eu harchebu. Bydd ganddynt griw band eang a all ddarparu mwy o wybodaeth am Llais Digidol a'r hyn y mae'n ei olygu i gwsmeriaid. Manylion isod:

  • Sesiwn ymgysylltu galw heibio - 19 Ebrill; 10:00-14:00 Llyfrgell Aberystwyth, Neuadd y Dref Canolfan Alun R. Edwards Sgwâr y Frenhines, Aberystwyth, SY23 2EB
  • Sesiwn ymgysylltu galw heibio - 25 a 26 Ebrill; 10:00-16:00 Llyfrgell Aberteifi, Stryd Morgan, Aberteifi, SA43 1DG
  • Cerbyd Ymgysylltu - 29 Ebrill; 10:00-16:00 Co-op Llambed, Stryd y Bont Isaf, Llanbedr Pont Steffan, SA48 7AF

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Sir Ceredigion: “Dylai pawb sydd ag unrhyw gwestiynau am y newid o linell dir i ddigidol geisio mynychu’r digwyddiadau ymgysylltu hyn. Mae’n wych eu bod wedi’u sefydlu’n benodol ar gyfer trigolion a busnesau Ceredigion. Bydd staff BT wrth law i ateb unrhyw gwestiynau neu bryderon sydd gan bobl am y newid, gan gynnwys amserlenni, a’r hyn sydd angen i drigolion ei wneud i sicrhau nad yw eu gwasanaethau’n cael eu heffeithio.”

I gael rhagor o wybodaeth am fand eang a chysylltedd, cysylltwch drwy e-bostio: digidol@ceredigion.gov.uk

I ddysgu mwy am y trawsnewid o linell dir i ddigidol, ewch i: www.gov.uk/guidance/uk-transition-from-analogue-to-digital-landlines a www.bt.com/broadband/digital-voice

02/04/2024