Yn ystod cyfarfod o’r Pwyllgor Safonau a Moeseg a gynhaliwyd ar 4 Rhagfyr 2024, rhoddwyd cydnabyddiaeth i John Weston am 6 mlynedd o wasanaeth i’r Pwyllgor. Daeth ei gyfnod yn y swydd i ben ar 22 Chwefror 2024 yn dilyn ei rôl fel Is-Gadeirydd ar y Pwyllgor.

Cynllunydd Tref oedd John Weston, ac yna cafodd ei gyflogi gan Swyddfa Archwilio Cymru fel archwilydd perfformio. Cyn ymddeol yn 2013, ymgymerodd ag archwiliadau o fewn Cynghorau yng Nghymru, Heddlu Cymru a’r Gwasanaeth Tân ac Achub. Fe'i penodwyd yn Aelod Annibynnol o'r Pwyllgor Moeseg a Safonau ym mis Chwefror 2018, ac fe'i hetholwyd yn Is-Gadeirydd yn fis Mai 2021. 

Yn ei le, mae aelod annibynnol newydd wedi cael ei benodi, Llinos James.

Dywedodd y Cynghorydd Bryan Davies, Arweinydd Cyngor Sir Ceredigion: “Mae’r Cyngor wedi elwa ar blynyddoedd o gyngor ac ystyriaethau a ddarparwyd gan John. Rydym yn croesawu aelodau newydd y pwyllgor a bydd eu mewnbwn i swyddogaeth y Pwyllgor yn cael ei werthfawrogi’n fawr, felly croeso mawr i Llinos James.”

Dywedodd Cadeirydd y Pwyllgor Moeseg a Safonau, aelod annibynnol Caryl Davies: “Hoffwn fynegi fy ngwerthfawrogiad i John am ei ymrwymiad i hyrwyddo safonau ymddygiad uchel o fewn y Cyngor a thu hwnt, ac am y cyfraniad y mae wedi'i wneud i waith y Pwyllgor Moeseg a Safonau yn ystod ei gyfnod ar y Pwyllgor."

Mae Pwyllgorau Safonau awdurdodau lleol yn bodoli i wneud popeth sy’n bosibl i hyrwyddo a diogelu’r safonau y mae’r cyhoedd yn eu disgwyl yn gywir gan eu cynrychiolwyr etholedig.

Mae’r Pwyllgor yn cynnwys pum aelod annibynnol, dau Gynghorydd Sir, a dau Gynghorydd Tref/Cymuned.

Mae’r Pwyllgor yn cyfarfod bob chwarter ac mae modd dod o hyd i adroddiadau ar gyfer y Pwyllgor Moeseg a Safonau, gan gynnwys ceisiadau am oddefeb ar wefan y Cyngor: Cyngor Sir Ceredigion Manylion y Pwyllgor - Pwyllgor Safonau a Moeseg

15/03/2024