Bu busnesau Aberteifi, Llandysul, Tregaron a Aberystwyth yn dathlu Dydd Gŵyl Dewi eleni trwy gymryd rhan yng nghystadleuaeth Addurno Ffenestri Cered: Menter Iaith Ceredigion.
Prif nod y gystadleuath oedd i greu ychydig o fwrlwm adeg Gŵyl Dewi gan ddod a môr o liw, creadigrwydd a Chymreictod gweledol i ganol trefi Ceredigion. Cafodd y ffenestri ei beirniadu ar eu gwreiddioldeb a’u hadlewyrchiad o ysbryd yr ŵyl ac o ysbryd Cymreictod.
Bu’r gystadleuaeth hefyd yn ffordd effeithiol o ymgysylltu gyda busnesau’r trefi yma er mwyn gallu hyrwyddo’r gefnogaeth mae Cered yn gallu darparu i fusnesau e.e. llinell gyswllt cyfieithu rhad ac am ddim Helo Blod.
Dywedodd Siriol Teifi, trefnydd y gystadleuaeth ar ran Cered: “Roedd hi’n galonogol i weld cymaint o fusnesau ar draws y trefi wedi cymryd rhan yn y gystadleuaeth.”
Y busnesau buddugol yw:
- Aberteifi - Crafters Cwtch
- Aberystwyth - Thatch
- Llandysul - Teifi Law
- Tregaron - Siop Nwyddau Caron
Derbyniodd yr enillwyr darian her Cered i’w gadw am flwyddyn. Os hoffech weld y ffenestri wedi eu haddurno, ewch draw i dudalen Facebook neu Instagram Cered Menter Iaith Ceredigion.
I dderbyn gwasanaeth Helo Blod, ffoniwch 03000 25 88 88 neu ewch i businesswales.gov.wales/heloblod/cy
06/03/2024