Am y tro cyntaf yng Nghymru, gan gynnwys Ceredigion, fe fydd angen i bleidleiswyr cymwys ddangos dogfen adnabod â llun i bleidleisio mewn rhai etholiadau, gan gynnwys Etholiad Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu ar 02 Mai 2024.

Mae’r rhestr lawn o’r mathau o ddogfen adnabod â llun a dderbynnir ar gael ar ein gwefan: www.ceredigion.gov.uk/eich-cyngor/etholiadau-a-chofrestru-etholiadol/id-bleidleisio/ 

Bydd pleidleiswyr yn gallu defnyddio dogfen adnabod â llun nad yw’n gyfredol os oes modd eu hadnabod o’r llun. Os nad oes gan bleidleiswyr unrhyw fath o ddogfen adnabod a dderbynnir, gallant wneud cais am ddogfen adnabod â llun yn rhad ac am ddim, a elwir yn Dystysgrif Awdurdod Pleidleisiwr. Y dyddiad cau ar gyfer gwneud cais am ddogfen adnabod â llun yw 5:00yp ddydd Mercher 24 Ebrill.

Y dyddiad cau ar gyfer cofrestru i bleidleisio ar gyfer Etholiad Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu yw hanner nos ddydd Mawrth, 16 Ebrill. Gallwch gofrestru ar-lein ar www.ceredigion.gov.uk/eich-cyngor/etholiadau-a-chofrestru-etholiadol/cofrestru-i-bleidleisio/. Os ydych chi wedi symud tŷ yn ddiweddar, bydd angen i chi gofrestru yn eich cartref newydd.

Os nad ydych am bleidleisio'n bersonol, gallwch wneud cais ar gyfer pleidlais bost hyd at 5:00yp ddydd Mercher 17 Ebrill a cyn 5:00yp ddydd Mercher 24 Ebrill ar gyfer pleidleisio drwy ddirprwy. Gallwch nawr wneud cais ar-lein i bleidleisio drwy’r post neu drwy ddirprwy drwy ymweld â www.ceredigion.gov.uk/eich-cyngor/etholiadau-a-chofrestru-etholiadol/pleidleisio-yn-etholiadau-senedd-y-deyrnas-unedig-ac-etholiadau-comisiynwyr-yr-heddlu-a-throseddu/

Yn dilyn adolygiad o Ddosbarthiadau Etholiadol, Mannau Pleidleisio a Gorsafoedd Pleidleisio ar ddiwedd y llynedd, mae rhai gorsafoedd pleidleisio wedi newid. Mae’r newidiadau fel a ganlyn:

  • Byddin yr Iachawdwriaeth yn symud i Ganolfan Morlan, Aberystwyth
  • Neuadd Eglwys Llanwnnen yn symud i Ysgol Cwrtnewydd
  • Neuadd Gymunedol Betws Ifan yn symud i Festri Capel Beulah
  • Festri Capel Bryngwyn yn symud i Festri Capel Beulah
  • Neuadd Eglwys Llandygwydd yn symud i Festri Capel Beulah
  • Neuadd Llangybi yn symud i Ganolfan Gymunedol Ysgol y Dderi, Llangybi
  • Neuadd y Paith yn symud i Neuadd y Pentref Llanfarian
  • Festri Capel Llwyncelyn yn symud i Neuadd Llwyncelyn
  • Canolfan y Dyffryn yn symud i Neuadd Aberporth

Dywedodd Eifion Evans, Swyddog Canlyniadau Cyngor Sir Ceredigion: "Dydyn ni ddim eisiau i unrhyw un fentro colli eu hawl i bleidleisio yma yng Ngheredigion, felly rwy'n annog ein trigolion i ymgyfarwyddo â'r newidiadau a ddaw yn sgil y gofyniad dogfen adnabod â llun, gan gynnwys pa fath o ddogfen adnabod sy'n dderbyniol. Gall trigolion nad oes ganddynt ddogfen adnabod addas wneud cais am Dystysgrif Awdurdod Pleidleisiwr ar-lein neu drwy gysylltu â'n tîm gwasanaethau etholiadol. Bydd y newid hwn yn dod i rym ar gyfer etholiad Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu ym mis Mai eleni."

Os oes gennych unrhyw gwestiwn, cysylltwch â’r Gwasanaeth Etholiadol Ceredigion ar 01545 572032, gwasanaethauetholiadol@ceredigion.gov.uk neu ewch i www.ceredigion.gov.uk/eich-cyngor/etholiadau-a-chofrestru-etholiadol/

Credyd llun: Chris Loades

31/01/2024