Ar 22 Chwefror 2024, gwahoddwyd Aled Lewis, cyn-Aelod Senedd Ieuenctid y DU dros Geredigion i gyflwyno gwobr yng Ngwobrau Rhagoriaeth Gwaith Ieuenctid Cymru eleni. Cynhaliwyd y seremoni yn Venue Cymru, Llandudno.

Mae Gwobrau Rhagoriaeth Gwaith Ieuenctid Cymru yn gyfle i gydnabod a dathlu prosiectau gwaith ieuenctid rhagorol, gweithwyr ieuenctid a’r rhai sy’n ymwneud â Gwaith Ieuenctid ledled Cymru.

Cydnabuwyd naw categori o arfer gwaith ieuenctid rhagorol yn ystod y seremoni. Yn cyflwyno’r noson oedd Cyflwynydd Radio a DJ Mirain Iwerydd.

Yn ystod cyfnod Aled fel ASI y DU dros Geredigion ac aelod o Gyngor Ieuenctid Ceredigion, mae Aled wedi bod yn ymwneud â gwaith ymgysylltu amrywiol ar lefel leol a chenedlaethol. Ym mis Hydref 2023, gofynnwyd i Aled eistedd ar Banel Beirniadu Gwobrau Rhagoriaeth Gwaith Ieuenctid Llywodraeth Cymru fel beirniad, ac i gynrychioli pobl ifanc. Yn dilyn hynny, ar ôl creu argraff ar swyddogion Llywodraeth Cymru, gwahoddwyd Aled wedyn i gyflwyno gwobr yn y Gwobrau Rhagoriaeth Gwaith Ieuenctid eleni.

Aled, disgybl Blwyddyn 13 yn Ysgol Gyfun Aberaeron, gafodd y dasg o gyflwyno’r wobr ar gyfer y categori ‘Seren y Dyfodol’ yn y gwobrau.

Dywedodd Gwion Bowen, Uwch Swyddog Cyfranogi Plant a Phobl Ifanc Cyngor Sir Ceredigion: “Roedd yn brofiad gwych mynychu Gwobrau Rhagoriaeth Gwaith Ieuenctid Cymru eleni, i weld y gwaith ieuenctid rhagorol sy’n digwydd ledled Cymru. Cafodd Aled ei ddewis i gyflwyno gwobr, a chyfrannodd araith wych i gyflwyno’r gwaith da a gyflawnwyd gan yr enillwyr a’r rhai a gyrhaeddodd y rownd derfynol yn y categori ‘Seren y Dyfodol’ eleni.”

Dywedodd Aled Lewis, cyn ASI y DU dros Geredigion: “Fe wnes i fwynhau’r cyfle i gyflwyno yn y digwyddiad hwn eleni, a bod yn rhan o’r paneli beirniadu ymlaen llaw. Roedd yn noson wych o ddathlu, ac roedd yn gyfle i amlygu arfer da gyda phobl ifanc ledled Cymru.”

I gael y wybodaeth ddiweddaraf ar Gwasanaeth Ieuenctid Ceredigion, dilynwch nhw ar Facebook: Gwasanaeth Ieuenctid Ceredigion Youth Service; @giceredigionys ar Instagram a X (Trydar).

05/03/2024