Daeth criw o deuluoedd maethu Ceredigion ynghyd i baentio crochenwaith mewn canolfan gymorth gymunedol yn Llanbedr Pont Steffan ar ddydd Sadwrn, 21 Hydref 2023.

Cynhaliwyd y digwyddiad yng Nghanolfan Steffan gan Dîm Maethu Cymru Ceredigion fel rhan o raglen fisol o ddigwyddiadau ar gyfer teuluoedd maethu Ceredigion. 

Cafodd y criw gyfle i beintio eitemau gan gynnwys mygiau, platiau a ffigurau o anifeiliaid a gwnaethant fachu ar y cyfle i ddangos eu creadigrwydd.

Roedd y digwyddiad hwn yn rhan o raglen o weithgareddau a oedd yn benodol ar gyfer gofalwyr maeth a’u plant a’r plant maent yn gofalu amdanynt. Roedd yn rhoi cyfle i’r teulu maeth cyfan gymryd rhan mewn gweithgaredd gyda’i gilydd ac i gydnabod rôl amhrisiadwy pob aelod o’r teulu wrth gefnogi plant bregus sy’n derbyn gofal yng Ngheredigion.

Dywedodd Fiona, gofalwr maeth gyda Maethu Cymru Ceredigion ers tair blynedd ar ddeg: “Gwnaethom ni gyd fwynhau’r sesiwn grochenwaith yn fawr iawn ac rydym yn edrych ymlaen at weld y cynnyrch terfynol. Hefyd cawsom ddiwrnod gwych yng Ngwersyll yr Urdd Llangrannog lle cafodd pawb gyfle i wneud amrywiaeth o weithgareddau.”

Dywedodd Sandra Jones, Rheolwr Tîm Maethu Cymru Ceredigion: “Roeddem eisiau cynnig cyfle i’n teuluoedd maethu rhagorol wneud gweithgareddau amrywiol gyda’i gilydd a rhoi cyfle iddynt gwrdd â theuluoedd maethu eraill yng Ngheredigion. Beth sy’n wych am y gweithgareddau hyn yw eu bod ar gael i holl Deuluoedd Maethu Ceredigion, gan gynnwys y rheiny sy’n gofalu am y teulu a ffrindiau sydd ddim bob amser yn cael eu cydnabod yn yr un modd â gofalwyr maeth prif ffrwd.”

Mae teuluoedd maethu Ceredigion wedi gwneud gweithgareddau gwych yn barod eleni gan gynnwys sesiwn sgiliau byw yn y gwyllt, diwrnod o weithgareddau awyr agored a saffari bwystfilod bach. Maen nhw eisoes yn edrych ymlaen at weddill y rhaglen o weithgareddau sy’n cynnwys ymweld â’r Pantomeim yng Nghanolfan y Celfyddydau Aberystwyth ym mis Ionawr.

Gofynnodd y Cynghorydd Alun Williams, Aelod Cabinet dros Lesiant Gydol Oes, “Allech chi wneud gwahaniaeth i fywyd plentyn? Ydych chi wedi ystyried maethu? Os oes gennych ystafell wely sbâr efallai fydd maethu yn addas i chi. Mae sawl math o faethu, o ddarparu cartref hirdymor i gynnig un penwythnos y mis i gefnogi plentyn mewn angen. Mae Tîm Maethu Cymru Ceredigion wedi eu lleoli yn yr ardal hon ac mae ganddyn nhw’r profiad a’r gallu i’ch tywys drwy bob cam o’r siwrnai maethu.”

I ddysgu rhagor ynglŷn â dod yn ofalwr maeth yng Ngheredigion a’r manteision sydd ar gael ewch i Maethu Cymru: Ceredigion neu cysylltwch â Thîm Maethu Ceredigion drwy ffonio 01545 574000 neu e-bostio clic@ceredigion.gov.uk .

08/11/2023